Chwarae Nova

Yn y Nova, Prestatyn, mae ardal Chwarae Antur dan do gwych dros dri llawr ar thema mor-ladron. Mae’n cynnwys ardal ddifyr i blant bach, gyda llawer o flociau a siapiau meddal, a llithren i blant bach. Mae’r brif ardal yn cynnwys dwy lithren wych, peli siglo, mynydd rhaffau a thwr dringo heriol i fynu nyth y frân. Mae’r ardal Chwarae Antur ar gael ar gyfer partïon pen-blwydd, gweler isod am fanylion.

Canolfan Hamdden Llangollen

Sesiwn Amser Hwyl i blant 0-6 oed.

Yn ein sesiynau chwarae meddal difyr, rydym yn darparu amrywiaeth o offer â thema y bydd plant wrth eu boddau â nhw. Mae gennym amrywiaeth wych o lithrennau, offer chwarae meddal a jig sos, wedi’u gosod mewn ardal ddiogel â matiau. Mae plant bach wrth eu boddau’n rhoi cynnig ar ein treiciau a cheir bach, a’n castell bownsio gwych hefyd.

Nid oes angen cadw lle ar gyfer sesiwn chwarae meddal. Mae’r sesiynau’n cael eu cynnal yng Nghanolfan Hamdden Llangollen trwy gydol gwyliau’r ysgol – fel arfer ar ddydd Mawrth a dydd Iau, ond edrychwch ar ein hamserlen i gael cadarnhad. Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth wych o weithgareddau eraill i unigolion o bob oed, teuluoedd a grwpiau cymunedol. Ewch i’n gwefan i gael manylion.

Canolfan Hamdden Rhuthun

Mae’r ardal chwarae meddal ar thema’r fferm a chastell gwynt yng Nghanolfan Hamdden Rhuthun yn addas i blant 8 oed neu’n iau.
Mae amrywiaeth o lithrennau ac offer chwarae meddal ar gael yn y sesiynau, i gyd wedi’u gosod mewn ardal â matiau. Mae dewis o dreiciau a cheir bach ar gael hefyd y bydd plant wrth eu boddau â nhw, a’n castell bownsio poblogaidd wrth gwrs. Mae’r ardal chwarae meddal ar agor ar gyfer sesiynau ar benwythnosau ac mae’r offer ar gael hefyd i’w logi ar gyfer partïon pen-blwydd.

Mae ein pwll nofio sydd wedi’i ailwampio’n ddiweddar yn cynnwys pen bas, sy’n ddelfrydol ar gyfer babis, plant bach a nofwyr newydd. Mae sesiynau nofio i’r teulu a sesiynau i rieni a phlant bach, a gallwch logi ein pwll ar gyfer partïon pen-blwydd.

Ffurflen Ymholi


    Gyrfaoedd gyda Hamdden Sir Ddinbych

    Cliciwch isod i weld pa swyddi gwag sydd gennym ar y funud

    Rhagor o wybodaeth

    Gadewch i ni gymdeithasu