Yn DLL rydym wedi ymrwymo i helpu ein cymunedau aros yn heini drwy ddarparu cyfleoedd ffitrwydd fforddiadwy a hygyrch i bawb.
Dyna pam rydym yn cynnig ein Haddewid i Gyfateb y Pris. Os ydych eisoes yn talu llai am aelodaeth debyg mewn campfa leol arall, fe wnawn ein gorau i gyfateb y pris, fel y gellwch fwynhau ein cyfleusterau, ein dosbarthiadau a’n cefnogaeth heb dalu mwy.
Pan fyddwch yn ymuno â DLL, nid buddsoddi yn eich iechyd a lles yn unig ydych chi. Rydych yn dewis hyfforddi yn lleol, cefnogi cyfleusterau lleol a rhoi rhywbeth yn ôl i’ch cymuned.
Telerau ac amodau

Barod i wneud y newid?

Llenwch y ffurflen isod:


    Camau nesaf: Bydd ein tîm aelodaeth yn cysylltu â chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â’r tîm aelodaeth: memberships@dll.co.uk.
    Telerau ac Amodau
    • Addewid i gyfateb y pris yn amodol ar isafswm pris o £20.
    • Addewid i gyfateb y pris yn seiliedig ar y categori aelodaeth cyfwerth agosaf.
    • Dim ond ar gyfer aelodaeth yng Nghlwb Nova, Clwb y Rhyl ac X20 mae’r addewid i gyfateb y pris ar gael.
    • Bydd y pris yn cael ei gyfateb am uchafswm o 3 mis; ar ôl hynny bydd yr aelodaeth yn dychwelyd i’r pris safonol ar gyfer y categori hwnnw.
    • Cynnig untro’n unig yw’r addewid i gyfateb y pris. Os ydych yn canslo eich aelodaeth yn ystod cyfnod y cyfateb pris, ni chaniateir i chi ailymuno ar yr un cynnig.
    • Ni chaniateir gohirio o fewn y cyfnod o 3 mis pan fydd y pris yn cael ei gyfateb.
    • Rhaid bod gan gwsmeriaid aelodaeth weithredol o gampfa leol ers o leiaf 2 fis, a rhaid darparu prawf o hynny
    • Bydd yn rhaid dangos prawf o bris a thelerau contract yr aelodaeth leol weithredol.
    • Mae’r addewid i gyfateb y pris ar gael drwy lenwi ffurflen gyswllt cyfateb pris yn unig. Nid yw’r addewid i gyfateb y pris ar gael ar aelodaeth a brynwyd ar-lein.
    • Ni ellir defnyddio’r addewid i gyfateb y pris ar y cyd ag unrhyw gynnig arall.
    Gyrfaoedd gyda Hamdden Sir Ddinbych

    Cliciwch isod i weld pa swyddi gwag sydd gennym ar y funud

    Rhagor o wybodaeth

    Gadewch i ni gymdeithasu