Darparu cyfleoedd hamdden hygyrch, o safon uchel, sy’n denu lefelau cyfranogi uchel, a gwella lles trigolion ac ymwelwyr Sir Ddinbych
Hamdden Sir Ddinbych Cyf
Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn Gwmni Masnachu Cyfyngedig trwy Warant.
Mae tîm Hamdden Sir Ddinbych yn dîm sefydledig, angerddol a llawn cymhelliant sydd â diwylliant o ddarparu gwasanaeth perfformiad uchel a rhagorol i gwsmeriaid. Mae ein llwyddiannau yn y gorffennol wedi ein harwain at ein sefyllfa bresennol, sef enw da am brofiadau gwych yn ein cyfleusterau i gyd a thîm o weithwyr caled sy’n ffynnu o ddarparu’r profiadau gorau posibl i gwsmeriaid.
Ein Gweledigaeth
Mae ein gweledigaeth a’n hamcanion fel cwmni yn canolbwyntio ar ddarparu cyfleoedd hamdden hygyrch o ansawdd uchel sy’n denu lefelau uchel o gyfranogiad ac yn gwella lles trigolion ac ymwelwyr Sir Ddinbych.
Mae Hamdden Sir Ddinbych yn darparu cynnig amrywiol i gwsmeriaid drwy’r sir o Ganolfan Hamdden Llangollen i Theatr Pafiliwn y Rhyl.
Ymhlith ein hasedau presennol mae; 7 Canolfan Hamdden, Atyniad i Ymwelwyr SC2, Bwyty a Bar 1891, Theatr Pafiliwn y Rhyl, Neuadd y Dref y Rhyl, Canolfan Bowls Gogledd Cymru, Nova, Canolfan Grefft Rhuthun a Chaffi R, Pafiliwn Llangollen. Rydym yn gweithredu rhaglen ail-fuddsoddi barhaus ym mhob un o’r safleoedd hyn i sicrhau ein bod yn cynnig y profiad gorau i’n cwsmeriaid.