Arweinyddiaeth Gymunedol
Rhaglen Llysgenhadon Ifanc
Mae’r rhaglen Llysgenhadon Ifanc yn anelu i weld pobl ifanc yn arwain cyfle, ymgysylltu a newid ar gyfer pobl ifanc eraill, gan ddefnyddio chwaraeon fel catalydd i wneud hynny. Fe’i dyluniwyd i feithrin sgiliau arweinyddiaeth pobl ifanc ac o ganlyniad maen nhw’n cael eu grymuso i gymryd y rolau a ganlyn.
Arweinwyr Chwaraeon y DU
Mae Arweinwyr Chwaraeon y DU yn gorff llywodraethu sy’n cyflwyno gwobrau i ddatblygu sgiliau bywyd ac arweinyddiaeth pobl ifanc. Mae eu holl gymwysterau yn rhoi sgiliau cyflogadwyedd gwerthfawr a hanfodol i bobl ifanc, gyda chanolbwynt ar y canlynol:
- Cyfathrebu
- Hunan-gred
- Gwaith tîm
- Hunan-reolaeth
- Datrys problemau
Mae’r cyrsiau Arweinwyr Chwaraeon wedi eu cynllunio i ddatblygu arweinwyr hyderus, iach trwy chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Mae cyfathrebu a threfniant effeithiol yn ddau sgil pwysig mae’r cwrs yn gobeithio eu datblygu i helpu ymgeiswyr ddysgu arwain gweithgareddau corfforol sylfaenol i bobl iau, eu cyfoedion, y genhedlaeth hŷn ac allan yn y gymuned.
Tab 1
Lefel 1 a Lefel 2
Mae bob gwobr yn edrych ar y gwahaniaethau rhwng sgiliau ac ymddygiad, a sut gallwn eu defnyddio mewn amgylchedd ymarferol mewn chwaraeon, ond hefyd sut gellir eu defnyddio mewn amgylchedd gwaith, ysgol, gyda ffrindiau a gartref gyda’r teulu. Her Ymgeisydd Arweinydd Chwaraeon fyddai ceisio datblygu sgiliau penodol, sydd angen eu gwella, trwy gydol y cwrs, un ai yn ystod cyflwyno’r cwrs neu trwy wirfoddoli. Bydd myfyrwyr yn cynllunio, arwain a gwerthuso sesiynau chwaraeon/gweithgaredd corfforol dros nifer o oriau tiwtora ac yna dangos eu sgiliau arweinyddiaeth fel rhan o’u hasesiad.
ADD in pdf booklet
Tab 2 GWOBR ARWEINYDD CHWARAEON
Mae’r Wobr Arweinydd Chwaraeon yn gyflwyniad gwych i arweinyddiaeth i ddisgyblion neu fyfyrwyr 9 oed a hŷn.
Mae’r wobr wedi’i dylunio i’w defnyddio mewn amrywiaeth o leoliadau addysg fel cwrs 6 awr ac mae’n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth dysgwyr. Bydd bob disgybl yn cael tystysgrif ar ôl cwblhau’r cwrs.
Cliciwch yma i ddarllen mwy am y Wobr Arweinydd Chwaraeon!
Mae gan dîm Cymunedau Actif Hamdden Sir Ddinbych y drwydded a thiwtoriaid i gyflwyno’r cwrs Arweinydd Chwaraeon felly nid oes angen i unrhyw ysgol gofrestru a thalu trwy Arweinwyr Chwaraeon. Cynhelir cyrsiau blynyddol i Lysgenhadon Ifanc Efydd a ddewiswyd o bob ysgol gynradd. Cynhelir cyrsiau ym mhob ysgol uwchradd ar gyfer eu clwstwr cynradd.
Addysg a Hyfforddiant Hyfforddwyr
Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig yn gallu darparu cyrsiau i chi i gefnogi eich anghenion unigol a rhai eich clwb chwaraeon. Mae’r cyrsiau yn cynnwys:
- Cymorth Cyntaf Anaf Chwaraeon
- Diogelu
- Cymhwyster Cenedlaethol Achub Bywydau Mewn Pwll
- Hyfforddiant Cynnwys Pobl Anabl y DU
Am fwy o wybodaeth am bob cwrs, â ni yma.
Gwirfoddoli gyda Hamdden Sir Ddinbych Cyf
Mae gwirfoddoli yn ffordd wych i chi gyfarfod pobl newydd, datblygu sgiliau newydd a chysylltu gyda’ch cymuned leol. Nid oes rhaid i wirfoddoli fod yn ymroddiad hirdymor neu gymryd llawer o amser, gall gyd-fynd â’ch bywyd. Mae gwirfoddoli yn fuddiol i’ch lles meddwl gan y gall gynyddu hunanhyder, gwneud i chi deimlo’n hapus a gan y bydd yn eich cadw mewn cyswllt rheolaidd gydag eraill, gall eich helpu i’ch amddiffyn rhag iselder. Mae gwirfoddoli yn rhoi cyfle i chi ddatblygu sgiliau mewn meysydd newydd a all eich helpu i gael cyflogaeth yn y dyfodol. Gall fod cyfleoedd gyda Hamdden Sir Ddinbych Cyf i gymryd rhan, gan gynnwys gwirfoddoli yn Theatr Pafiliwn y Rhyl fel tywyswr, yn ein rhaglen Celfyddydau Cymunedol, yn eich ysgol fel Llysgennad Ifanc Chwaraeon ac yn ein tîm digwyddiadau. Bydd pob gwirfoddolwr yn cael pecyn sefydlu llawn, yn cael hyfforddiant perthnasol am ddim ac unigolyn a enwir a fydd yn eich cefnogi yn ystod eich amser gyda ni. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli yn unrhyw ran o Hamdden Sir Ddinbych Cyf, yna cysylltwch â ni. Edrychwn ymlaen at glywed gennych chi!