Canolfan Fowlio Gogledd Cymru

Mae Canolfan Bowlio Gogledd Cymru bowlio dan do gwyrdd a fflat sydd ag 8 llawr bowlio, o safon ryngwladol.  Mae’n agored i aelodau a rhai nad ydynt yn aelodau, ac rydym yn croesawu unigolion, parau, grwpiau a phartion sy’n ymweld.  Mae’r ganolfan ar agor i’r rhai nad ydynt yn dymuno bowlio hefyd – galwch I mewn am goffi, archebu bwyd of fwydlen ein bwyty neu roi cynnig ar ein cinio dydd Sul gwych.

Amseroedd Agor

 

Dydd Llun 10am – 4pm (archeb bwyd olaf  15:00)
Dydd Mawrth 10am – 4pm (archeb bwyd olaf  15:00)
Dydd Mercher 10am – 4pm (archeb bwyd olaf  15:00)
Dydd Iau 10am – 4pm (archeb bwyd olaf  15:00)
Dydd Gwener 10am – 4pm (archeb bwyd olaf  15:00)
Dydd Sadwrn 10am – 4pm (archeb bwyd olaf  15:00)
Dydd Sul 10am – 4pm (archeb bwyd olaf  15:00)

*SYLWIR, gellir yr oriau hyn newid ar wyl y banc

Dylai partïon sy’n ymweld sydd am archebu y tu allan i’r oriau agor uchod, gysylltu ag aelod o staff i drafod.

Mae’r Ganolfan hefyd ar gael ar gyfer digwyddiadau a phartïon ar nosweithiau Sadwrn; gofynnwch am fanylion.


Prisiau’r lawntiau

Mae’r prisiau yn cynnwys llogi esgidiau a bowls lle bo angen.

Gemau Cynghrair a Chwarae Cyffredinol

 

Amser Aelodau Dim Aelodaeth Aelodaeth 

Ieuenctid

1 Awr £3.50 £5.50 £2.50
2 Awr £4.50 £8.00 £4.00
3 Awr £5.50 £10.00  
4 Awrs £6.50 £11.00  

Archebion grŵp (12 o bobl neu fwy)

Amser Pris fesul unigolyn 
2 Awr £7.50
3 Awr £9
4 Awr £10.00

Dewch o hyd i ni

Parcio

Mae lle ar gyfer 30 o gerbydau yn y maes parcio gyda mannau parcio hygyrch ger y fynedfa i’r adeilad. Mae maes parcio ychwanegol yn darparu mannau parcio ychwanegol ac ar gyfer bysiau a choetsis.

Cyfleusterau ar gyfer pobl anabl

Mae’r ganolfan yn cynnig mynediad llawn i ddefnyddwyr cadair olwyn a’r rhai sydd ag anawsterau symud. Mae gennym hefyd ddwy gadair olwyn bwrpasol ar gyfer defnyddwyr sydd am fowlio. Os oes modd, rhowch wybod i ni cyn eich ymweliad, os ydych am fenthyg un.


Cysylltwch â ni

Ferguson Avenue
Prestatyn
LL19 7YA

Ebost: northwalesbowlscentre@denbighshireleisure.co.uk
Ffon: 01824 70 8451

Sut i archebu lawnt

Gallwch archebu lawnt gan ddefnyddio’r manylion uchod, neu gallwch ddod draw ar y diwrnod a chwarae. Mae llogi bowls ac esgidiau wedi’i gynnwys ym mhris y lawnt, fodd bynnag, yn ystod cyfnodau prysur, ac ar adegau pan mae gennym archebion grŵp mawr a gemau cynghreiriau, mae’n bosibl y bydd y lleoedd yn brin, felly rydym yn argymell eich bod yn archebu lawnt lle bo modd.

Sut i ddod yn aelod o’r Clwb Bowls

Os ydych yn chwarae’n rheolaidd ac os hoffech chi ddod yn aelod o Ganolfan Fowls Gogledd Cymru a manteisio ar y prisiau bowlio i aelodau, llenwch y ffurflen gais a’i chyflwyno i’r Ganolfan, ynghyd â’ch tâl aelodaeth o £45.00 y flwyddyn.

Ystafelloedd Cyfarfod a Digwyddiadau

Os ydych yn chwilio am leoliad ar gyfer cyfarfod neu ddigwyddiad, mae gennym ystafell gyfarfod 12 person i’w llogi, ac rydym yn gallu darparu ar gyfer digwyddiadau bach neu fwy o fewn y bwyty. Ffoniwch neu anfonwch e-bost atom i drafod eich gofynion.

Ar gael i’w llogi

Mae’r Ganolfan ar gael i’w llogi ar gyfer digwyddiadau a phartion, cysylltwch gyda ni yma am fwy o wybodaeth.

Gyrfaoedd gyda Hamdden Sir Ddinbych

Cliciwch isod i weld pa swyddi gwag sydd gennym ar y funud

Rhagor o wybodaeth

Gadewch i ni gymdeithasu