
Caffi R yng Nghanolfan Grefft Rhuthun
Caffi R yw’r bwyty wedi’i leoli o fewn muriau Canolfan Grefft Rhuthun. Mae’r caffi newydd wedi’i foderneiddio i safon uchel ac mae’n cynnig bwydlen fendigdeig o gynyrch lleol, wedi’i rhoi at ei gilydd gan y Prif Gogydd newydd, Jamie Winning.
Mae Caffi R yn le perffaith i ddal i fyny gyda ffrindiau a theulu dros baned a cacen a rhost dydd Sul hynod poblogaidd Hamdden Sir Ddinbych.
Peidiwch ag anghofio, mae’r bwyty yn gyfeillgar i gŵn y tu mewn a’r tu allan!
Oriau Agor:
Dydd Mawrth i Dydd Sul 9.00am – 16:00



BWYDLEN
DIODYDD


DIGWYDDIADAU

Ymunwch â ni o 5:30pm ar Ddydd Sadwrn 12 Chwefror ar gyfer agoriad hwyr y nos arbennig a bwydlen rhamantus San Ffolant.
Gellir archebu bwrdd nawr i osgoi cael eich siomi, i fwynhau bwydlen San Ffolant 3 chwrs arbennig ac adloniant gan y cerddor dawnus Jacob Elwy.
Mae’r bwydlen San Ffolant am un noson yn unig ac yn cynnwys cacen bysgod eog Thai gyda salad roced, Stêcen Rwmp Cymreig gyda sglodion cartref a Crème brulee siocled gwyn Baileys. Gall cyplau ginio am £49.90 y cwpl yn unig, gyda gwydraid o prosecco am ddim wrth gyrraedd, beth sydd ddim i’w garu!