Badminton

Chwaraeon raced yw badminton sy’n cael ei chwarae gan ddefnyddio racedi i daro gwennol ar draws rhwyd. Er y gellir ei chwarae gyda thimau mwy, mae’r mwyafrif o gemau yn cael ei chwarae yn “sengl” (gydag un chwaraewr yr ochr) a “dwbl” (gyda dau chwaraewr yr ochr).

Mae badminton yn aml yn cael ei chwarae fel gweithgaredd awyr agored achlysurol mewn iard neu ar draeth; chwaraeir gemau ffurfiol ar gwrt dan do hirsgwar. Gellir sgorio pwyntiau trwy daro’r gwennol gyda’r raced a’i lanio o fewn hanner cwrt yr ochr arall.

Mae’n weithgaredd gwych i deuluoedd ei fwynhau gyda’i gilydd. Peidiwch â phoeni os nad oes gennych yr offer, gallwn benthyg yr offer i chi, ar gyfer y sesiynau rhad ac am ddim hyn.

Mae sesiynau ar gael ar Ddydd Sadwrn a Dydd Sul, yn amodol ar argaeledd ar bob safle.

Am ragor o wybodaeth, ac i archebu sesiwn am ddim, cysylltwch â’ch canolfan hamdden leol.

Gyrfaoedd gyda Hamdden Sir Ddinbych

Cliciwch isod i weld pa swyddi gwag sydd gennym ar y funud

Rhagor o wybodaeth

Gadewch i ni gymdeithasu