Cynnigion Ffitrwydd DLL

🔥MAE EIN CYNNIG DYDD GWENER Y GWARIO YMA! 
Codwch eich lefelau ffitrwydd am bris llai’r tymor hwn 💪 
Ymunwch yn UNRHYW UN o’n safleoedd ffitrwydd am £9.99* yn unig y ac arbedwch £70! 😱 
Cynnig yn ddilys ar 26 Tachwedd – Dydd Llun Seiber 
Defnyddiwch y cod ‘BF25’ wrth dalu 
⏰Amser cyfyngedig, Canlyniadau diderfyn! 
Peidiwch ag oedi, mae eich siwrnai ffitrwydd yn dechrau rŵan! 
Ymunwch yma
*Telerau ac Amodau yn berthnasol 
Mae’r cynnig yn berthnasol i aelodaethau Premiwm, Premiwm a Mwy, Campfa Craidd, Campfa Craidd a Mwy, Grwp Craidd Ex. Cliciwch yma am fanylion. 
Byddwch yn talu £9.99 yn unig nes eich Debyd Uniongyrchol cyntaf ar 1 Ionawr 2026 
Telerau ac Amodau yn berthnasol


Contact us:


    Telerau ac Amodau Cynnig Dydd Gwener y Gwario

    · Mae’r cynnig yn berthnasol i Aelodaethau Debyd Uniongyrchol Misol Premiwm a Phremiwm a Mwy (16 a hŷn)

    · Mae’r cynnig ar gael rhwng dydd Mercher 26 Tachwedd 2025 a dydd Llun 1 Rhagfyr 2025 gan gynnwys y dyddiadau hynny

    · Gellir hawlio’r cynnig ar unrhyw safle HSDd

    · Caniateir mynediad at amryw safleoedd

    · Cymerir taliad o £9.99 ar y diwrnod ymuno a bydd aelodaethau’n dechrau ar y diwrnod prynu

    · Bydd y taliad Debyd Uniongyrchol cyntaf yn mynd allan ar 1 Ionawr 2026. Os dewisir y 15fed wrth ymuno, bydd aelodau’n derbyn hysbysiad o’r newid hwn i’r dyddiad talu.

    · Mae’r cynnig yn berthnasol i aelodau newydd yn unig (mae’n rhaid i unrhyw aelodaeth fod wedi dod i ben ers o leiaf mis)

    · Ni ellir defnyddio’r cynnig Dydd Gwener y Gwario hwn ar y cyd â chynigion eraill.

    · Bydd pob aelodaeth yn daladwy ar y pris llawn o 1 Ionawr 2026. Gellir dod o hyd i brisiau aelodaeth ar ein gwefan https://denbighshireleisure.co.uk/cy/aelodaeth/

    · Mae’n rhaid i aelodau roi gwybod yn ysgrifenedig 10 diwrnod cyn 1 Ionawr 2026 os ydynt yn dymuno canslo eu haelodaeth – memberships@denbighshireleisure.co.uk

    · Efallai y bydd yn rhaid inni gau’r gampfa neu ran ohoni o bryd i’w gilydd. Mewn achosion felly, ni fydd gennych hawl i hawlio diwrnodau’n ôl ar eich aelodaeth. Fe wnawn ein gorau i roi gwybod ichi o flaen llaw os nad yw’n achos brys.

    · Gallwn newid rheolau’r gampfa os credwn fod angen gwneud hynny.

    · Rydych yn cytuno i ufuddhau i holl amodau a thelerau aelodaeth HSDd. Rydych chi’n cytuno i gydymffurfio ag unrhyw newidiadau mewn amseroedd agor, dulliau defnyddio’r cyfleusterau a rheolau ymddygiad.

    · Rydych yn cytuno i ddarparu llun diweddar at ddibenion eich aelodaeth

    Gyrfaoedd gyda Hamdden Sir Ddinbych

    Cliciwch isod i weld pa swyddi gwag sydd gennym ar y funud

    Rhagor o wybodaeth

    Gadewch i ni gymdeithasu