Cynllun Grant Cymunedol HSDdCyf
Beth yw Cronfa Grantiau Cymunedol Hamdden Sir Ddinbych?
Bydd Cynllun Grantiau Cymunedol Hamdden Sir Ddinbych yn fodd i sefydliadau bach fel clybiau chwaraeon lleol a grwpiau celfyddydol i ymgeisio am gyllid i ariannu celfyddydau lleol, gweithgareddau diwylliannol a chreadigol a chyfleusterau chwaraeon i gynnal twrnameintiau a thyfu timau a chynghreiriau newydd.
Bydd y cynllun Grantiau Cymunedol ar gael i’r holl glybiau a sefydliadau cymwys yn Sir Ddinbych ond byddwn yn rhoi sylw penodol i sicrhau y cefnogir ardaloedd difreintiedig. Anogir clybiau a sefydliadau i gynnig prosiectau sy’n cefnogi grwpiau lleiafrifol.
Mae cyllid cyfalaf a refeniw ar gael.
CYFALAF – Gellir defnyddio cyllid cyfalaf i brynu asedau mawr, naill ai’n newydd neu’n waith adnewyddu sylweddol ar asedau presennol. Disgwylir i’r rhain fod â “budd cymunedol ehangach” a bod ganddynt hyd oes ddisgwyliedig o 5 mlynedd o leiaf. Er enghraifft, byddai goliau pêl-droed mawr gwerth £2000 yn gyfalaf.
REFENIW – Gellir defnyddio cyllid refeniw lle nad oes ased parhaol sylweddol. Gellir defnyddio cyllid refeniw i gynnal digwyddiadau, perfformiadau a gweithgareddau, talu am gostau rhedeg sefydliad neu dalu am deithiau a gwibdeithiau. Byddai cit ar gyfer clybiau chwaraeon a darnau bach o offer yn cael eu dosbarthu fel refeniw. Gall hyn fod ar gyfer hamdden, chwaraeon, celfyddydau, diwylliant neu iechyd a lles. Mae’n rhaid dangos budd i’r gymuned.
Pwy gall ymgeisio?
Pwy sy’n gymwys i ymgeisio:
- Grwpiau cymunedol a gwirfoddol
- Clybiau chwaraeon neu fudiadau cymunedol dielw
- Cynghorau Tref a Chymuned
- Elusennau sy’n darparu gwasanaethau lleol a chefnogaeth (gan gynnwys grwpiau mewn lifrai)
- Ysgolion a sefydliadau addysgol
I fod yn gymwys mae’n rhaid ichi ddangos sut fydd y prosiect yn hybu un o amcanion y Gronfa Ffyniant Gyffredin:
- Cefnogi gweithgareddau creadigol, diwylliannol, treftadaeth a chelfyddydau lleol
- Cyllid ar gyfer cyfleusterau chwaraeon, twrnameintiau, timau a chynghreiriau lleol; i ddod â phobl at ei gilydd.
Cyllid ar gael
Mae’r holl grantiau (cyfalaf a refeniw) yn agored i glybiau chwaraeon, sefydliadau celfyddydol a diwylliannol.
Cyfalaf | Refeniw | |
23/24 | £60,000 Cyfanswm
(£20,000 ar gyfer y celfyddydau a diwylliant a £40,000 ar gyfer chwaraeon) |
£0 |
24/25 | £200,000 Cyfanswm
(£40,000 ar gyfer y celfyddydau a diwylliant a £160,000 ar gyfer chwaraeon) |
£170,000 Cyfanswm
(£72,500 ar gyfer y celfyddydau a diwylliant a £97,500 ar gyfer chwaraeon) |
Graddfeydd Amser
Bydd yno DDAU brif gylch ar gyfer ceisiadau:
CYLCH 1 (NAWR WEDI CAU): Yn agor ddydd Llun 13 Tachwedd ac yn cau 11 Rhagfyr 2023 Cyllid cyfalaf yn unig
CYLCH 2: (NAWR WEDI CAU) Yn dechrau 22 Ionawr 2024 ac yn cau 19 Chwefror 2024 Cyllid refeniw a chyfalaf
Mae’n rhaid gwario’r holl gyllid erbyn 31 Hydref 2024 fan bellaf yn ddieithriad.
Sut i Ymgeisio
Gallwch wneud cais trwy lawrlwytho’r ffurflen gais oddi ar ein gwefan. Bydd angen dychwelyd y ffurflen wedyn i cymunedaubywiog@hamddensirddinbych.co.uk
neu drwy’r post i’r :
Tîm Cymunedau Bywiog, Hamdden Sir Ddinbych, 8-11 Trem y Dyffryn, Stad Ddiwydiannol Colomendy, Dinbych LL16 5TX.
‘Ariennir y prosiect hwn gan lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.’
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog o agenda Lefelu i Fyny llywodraeth y DU ac mae’n darparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder yn ei lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU, gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau. Am ragor o wybodaeth, ewch i:
https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus
I gael rhagor o wybodaeth am brosiectau eraill Cronfa Ffyniant a Rennir Sir Ddinbych, ewch i