Gwnewch y dychweliad gyda ni

Yn dilyn y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru, cychwynnodd y cyfyngiadau newydd yn Sir Ddinbych o 6pm ddydd Iau 1 Hydref. Fodd bynnag, hoffem sicrhau ein cwsmeriaid ein bod ni’n dal ar agor am fusnes.
Mae ein canolfannau hamdden, ein bwytai a’n hatyniadau ar agor ac mae modd i chi barhau i fanteisio ar brofiad cwsmer gwych mewn amgylchedd glân a diogel.

Os ydych chi wedi archebu unrhyw beth, a bod y cyfyngiadau newydd yn eich atal chi rhag mynychu, cysylltwch â’r cyfleuster perthnasol i drafod yr opsiynau.

Ein blaenoriaeth a’n hymrwymiad ydi parhau i ddiogelu cwsmeriaid a staff, a darparu’r profiad cwsmer gorau posibl.

Diolch i chi am eich cefnogaeth barhaus, ac am ‘ddod yn ôl’ at Hamdden Sir Ddinbych Cyf.

Oriau agor a gweithgareddau sydd ar gael

Wrth inni symud i’n hamseroedd agor yn yr hydref a’r gaeaf byddwn yn gwneud rhai newidiadau i’n rhaglenni. Cewch wybodaeth gyfredol yma, ynghyd â manylion am yr holl weithgareddau sydd ar gael.

Ystafelloedd Ffitrwydd
Dosbarthiadau Ffitrwydd
nofio
Chwaraeon Dan Do
Chwarae yn y Nova

Mae manylion y prosesau sydd mewn lle i gadw ein cwsmeriaid a’n staff yn ddiogel ar gael yma Diogelwch Cwsmeriaid

Ystafelloedd Ffitrwydd

Mae sesiynau yn yr ystafell ffitrwydd ar gael i aelodau yn unig ar hyn o bryd. Os nad ydych yn aelod ond yn dymuno defnyddio ein cyfleusterau, cysylltwch â’ch canolfan ddewisedig. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt yma.

Bydd rhaid archebu pob sesiwn ymlaen llaw cyn cyrraedd.
Mae ein sesiynau’n para naill ai 60 neu 90 munud, ac mae amseroedd y sesiynau i’w gweld ar ein porth archebu

Os hoffech newid archeb, ffoniwch neu e-bostiwch y ganolfan yn uniongyrchol. Ni allwn newid archebion trwy gyfryngau cymdeithasol.

Ar ôl cyrraedd y ganolfan, bydd y staff yn esbonio’r prosesau sydd mewn lle ar gyfer cadw pellter cymdeithasol.

Nid oes ystafelloedd newid a chawodydd ar gael a dylai cwsmeriaid gyrraedd yn gwisgo’r dillad y byddant yn eu gwisgo i wneud eu gweithgaredd. Mae’r toiledau dynodedig ar gael i gwsmeriaid.

Dewch â digon o ddŵr i’w yfed yn ystod eich gweithgaredd gan nad yw ein ffynhonnau dŵr ar gael.

Dewch â chyn lleied o eitemau personol â phosibl, gan na fydd loceri ar gael.

Er mwyn cadw at fesurau cadw pellter cymdeithasol, nid yw holl offer y gampfa ar gael i’w defnyddio. Nodir y peiriannau a marciau coch, oren neu wyrdd i ddangos pa beiriannau sydd ar gael i’w defnyddio.

Mae cadachau diheintio ar gael yn yr ystafell ffitrwydd. Gofynnir i gwsmeriaid lanhau’r offer cyn ac ar ôl eu defnyddio.

Cyrhaeddwch eich sesiwn ar amser. Lle bynnag y bo’n bosib, peidiwch â chyrraedd fwy na 10 munud yn fuan.

Darllenwch ein gwybodaeth Diogelwch Cwsmeriaid yn ofalus am fanylion llawn sut i ddefnyddio ein canolfannau yn ddiogel.

Dosbarthiadau Ffitrwydd

Mae dosbarthiadau ffitrwydd ar gael i aelodau yn unig ar hyn o bryd. Os nad ydych yn aelod ond yn dymuno defnyddio ein cyfleusterau, cysylltwch â’ch canolfan ddewisedig. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt yma.

Bydd rhaid archebu pob sesiwn ymlaen llaw cyn cyrraedd. Ein hamserlen bresennol ar gael yma.
Gallwch archebu dosbarthiadau ar-leinu.

Os hoffech newid archeb, ffoniwch neu e-bostiwch y ganolfan yn uniongyrchol. Ni allwn newid archebion trwy gyfryngau cymdeithasol.

Ar ôl cyrraedd y ganolfan, bydd y staff yn esbonio’r prosesau sydd mewn lle ar gyfer cadw pellter cymdeithasol.

Nid oes ystafelloedd newid a chawodydd ar gael a dylai cwsmeriaid gyrraedd yn gwisgo’r dillad y byddant yn eu gwisgo i wneud eu gweithgaredd. Mae’r toiledau dynodedig ar gael i gwsmeriaid.

Dewch â digon o ddŵr i’w yfed yn ystod eich gweithgaredd gan nad yw ein ffynhonnau dŵr ar gael.

Dewch â chyn lleied o eitemau personol â phosibl, gan na fydd loceri ar gael.

Anogir cwsmeriaid i ddod â’u mat eu hunain i gymryd rhan mewn dosbarthiadau, ond gallwn ddarparu matiau finyl.

 

Bydd unrhyw offer a ddarperir yn cael eu glanhau gan staff cyn i’r sesiwn ddechrau. Fel mesur diogelu ychwanegol, mae cadachau diheintio ar gael a gofynnir i gwsmeriaid lanhau offer y ganolfan cyn ac ar ôl eu defnyddio.

Cyrhaeddwch eich sesiwn ar amser. Lle bynnag y bo’n bosib, peidiwch â chyrraedd fwy na 10 munud yn fuan.

Bydd sesiynau’n cau 5 munud ar ôl i’r dosbarth ddechrau ac ni fydd mwy o gwsmeriaid yn cael ymuno.
Peidiwch ag ymgynnull i gymdeithasu cyn nac ar ôl dosbarthiadau.

Darllenwch ein gwybodaeth Diogelwch Cwsmeriaid yn ofalus am fanylion llawn sut i ddefnyddio ein canolfannau yn ddiogel.

Nofio

Mae sesiynau nofio ar gael i bobl sy’n aelodau ac nad ydynt yn aelodau.

Bydd rhaid archebu pob sesiwn ymlaen llaw cyn cyrraedd. Ein hamserlen bresennol ar gael yma.

I archebu sesiynau nofio cysylltwch â’ch hoff ganolfan

Canolfan Hamdden y Rhyl – 01824 712661
Nova Prestatyn – 01824 712323
Canolfan Hamdden Rhuthun – 01824 712665
Canolfan Hamdden Dinbych – 01824 712664

Os hoffech newid archeb, ffoniwch neu e-bostiwch y ganolfan yn uniongyrchol. Ni allwn newid archebion trwy gyfryngau cymdeithasol.

Ar ôl cyrraedd y ganolfan, bydd y staff yn esbonio’r prosesau sydd mewn lle ar gyfer cadw pellter cymdeithasol.

Mae’r toiledau a’r ystafelloedd newid ar gael i ddefnyddwyr y pwll ac rydym yn gofyn i bobl barchu mesurau cadw pellter cymdeithasol wrth ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Ni fydd loceri ar gael a bydd rhaid cadw eiddo wrth ochr y pwll nofio. Rydym yn gofyn i gwsmeriaid beidio dod ag eiddo gwerthfawr gyda nhw na gadael eiddo personol yn y ciwbiclau.

Mae cadachau diheintio ar gael yn yr ardal newid a gofynnir i gwsmeriaid lanhau’r ciwbiclau cyn ac ar ôl eu defnyddio.

Nodwch nad oes modd defnyddio’r cawodydd.

Cyrhaeddwch eich sesiwn ar amser. Lle bynnag y bo’n bosib, peidiwch â chyrraedd fwy na 10 munud yn fuan.

Os oes angen teclyn codi o’r pwll arnoch, ffoniwch y ganolfan o flaen llaw.

Darllenwch ein gwybodaeth Diogelwch Cwsmeriaid yn ofalus am fanylion llawn sut i ddefnyddio ein canolfannau yn ddiogel.

Sesiynau Ar Gael

Nofio Lôn i Oedolion – 45 munud

Mae’r sesiynau hyn ar gyfer pobl dros 16 oed. Bydd lonydd dwbl ar gael gyda mwyafrif o 6 person ym mhob lôn ddwbl. Byddwch yn ymwybodol y bydd galluoedd cymysg ym mhob lôn, felly byddwch yn ystyriol o nofwyr eraill. Bydd polisi ‘dim mynd heibio’ ar waith, ac mae disgwyl i nofwyr wneud lle i nofwyr cyflym ar ddiwedd pob hyd o’r pwll nofio.

Cerdyn Hamdden – £4.10 y pen,
Heb Gerdyn Hamdden – £6.00.
Aelodau Campfa Gyfan
Campfa a Nofio, a Nofio – Am Ddim
**Mae pobl dros 60 oed yn gymwys i nofio am ddim mewn sesiynau penodol.

Aqua Aerobics / Aqua Zumba / Swim Fit

Mae ffitrwydd mewn dŵr wedi’i ddylunio i wella stamina, cryfder a thynhau heb rhoi pwysau ar eich cymalau. Ar gyfer pobl sy’n 16 oed a hŷn.

Cerdyn Hamdden – £4.80 y pen
Heb Gerdyn Hamdden – £6.00
Aelodau Campfa Gyfan a Dosbarthiadau – Am Ddim
**Mae pobl dros 60 oed yn gymwys i nofio am ddim mewn sesiynau penodol.

Nofio i’r Teulu – 45 munud

Archebwch ofod pwll nofio preifat i hyd at bum person i’w ddefnyddio o fewn eich deulu. Cewch chwarae, nofio a sblasio yn eich adran eich hun o’r pwll nofio. Bydd pob sesiwn yn cynnwys ochr fas ac ochr ddofn. Sicrhewch eich bod yn archebu’r slot ar gyfer gallu eich grŵp. Mae’n ofynnol fod gan bob sesiwn nofio deulu o leiaf 1 oedolyn ac mae’n rhaid bodloni cymhareb bresennol plant i oruchwyliaeth oedolyn cyfrifol.

£10.10 am Gerdyn Hamdden / deiliad Aelodaeth fesul deulu a £15.10 hebddo.

Rydym wedi cyflwyno sesiynau ar y penwythnos lle mae plant dan 16 oed yn cael nofio am ddim. Mae’r sesiynau hyn yn rhan o Fenter Nofio Am Ddim Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae’r sesiynau’n costio £5.05 i bob deulu os oes gennych chi Gerdyn Hamdden / Aelodaeth, neu £7.55 os nad oes gennych chi gerdyn

Rhieni a Phlant Bach – 45 munud

Mae’n ofynnol fod gan pob deulu nofio o leiaf 1 oedolyn ac am bob plentyn rhaid cael oedolyn cyfrifol yn goruchwylio.

£10.10 am Gerdyn Hamdden / deiliad Aelodaeth fesul deulu a £15.10 hebddo.

Llogi Lôn Breifat – 45/60 munud

Os hoffech lôn i’ch hunain er mwyn ymarfer sgiliau dull nofio neu wella eich ffitrwydd, mae llogi lôn breifat ar gael.

Mae’r sesiynau hyn yn £10.10 fesul lôn ar gyfer deiliaid Cerdyn Hamdden / Aelodaeth a £15.10 heb gerdyn. Nodwch: Am resymau cadw pellter cymdeithasol, dim ond un person fesul lôn ar gyfer sesiynau lôn breifat.

Anabledd

Mae’r sesiynau hyn yn benodol ar gyfer nofwyr gydag anghenion ychwanegol, ac mae nofwyr a’u gofalwyr yn nofio am ddim.

Gwersi Nofio

Rydym yn gweithio ar gynlluniau i ailgyflwyno ein rhaglen gwersi nofio yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Rhagor o wybodaeth i ddilyn yn fuan.

Bydd cwsmeriaid sy’n cael gwersi nofio, a heb roi stop ar eu debyd uniongyrchol, yn gymwys i ostyngiad Cerdyn Hamdden wrth archebu sesiwn, ond ni fydd unrhyw daliad debyd uniongyrchol yn cael ei gymryd nes mae rhaglen y wers wedi dechrau.

 

Chwaraeon Dan Do

Mae’r gweithgareddau canlynol ar gael.

Badminton – y Rhyl, Llanelwy, Rhuthun, Llangollen
Sboncen – Prestatyn
Gellir archebu ar-lein –  neu drwy gysylltu â’ch hoff ganolfan. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt yma.

O dan y canllawiau presennol gallwch chwarae badminton sengl gydag unigolyn arall o ardal yr awdurdod lleol. Os ydych yn chwarae dyblau, mae’n rhaid i bob pâr fod o’r un aelwyd. Ar gyfer sboncen, gallwch ond chwarae gydag unigolyn arall o’r un aelwyd â chi.

Bydd rhaid archebu pob sesiwn ymlaen llaw cyn cyrraedd.
Ar ôl cyrraedd y ganolfan, bydd y staff yn esbonio’r prosesau sydd mewn lle ar gyfer cadw pellter cymdeithasol.

Nid oes ystafelloedd newid a chawodydd ar gael a dylai cwsmeriaid gyrraedd yn gwisgo’r dillad y byddant yn eu gwisgo i wneud eu gweithgaredd. Mae’r toiledau dynodedig ar gael i gwsmeriaid.

Dylai Cwsmeriaid ddod â’u hoffer eu hunain pan fo’n bosib.

Cyrhaeddwch eich sesiwn ar amser. Lle bynnag y bo’n bosib, peidiwch â chyrraedd fwy na 10 munud yn fuan.

Darllenwch ein gwybodaeth Diogelwch Cwsmeriaid yn ofalus am fanylion llawn sut i ddefnyddio ein canolfannau yn ddiogel.

 

Pêl-droed/Pêl rwyd– Y Rhyl/Rhyl, Llanelwy/St Asaph, Dinbych/ Rhuthun/Llangollen

Mae’r canllawiau’n caniatáu i bobl wneud ymarfer corff mewn grŵp hyd at 30 o bobl ac mewn gweithgaredd a drefnwyd gan y gampfa, y ganolfan hamdden, pwll nofio neu debyg (fel y nodir gan ganllawiau’r Llywodraeth a ddiweddarwyd ar 12 Medi, 2020)
Ni chaniateir archebion gan grwpiau pêl-droed / pêl rwyd preifat nad ydynt wedi’u trefnu gan gampfa, canolfan hamdden, pwll nofio neu debyg o dan y canllawiau presennol.

Chwarae Nova

Bydd rhaid archebu pob sesiwn ymlaen llaw cyn cyrraedd

I archebu sesiynau nofio cysylltwch â Nova ar 01824 712323.

Am archebion, prisiau ac amseroedd agor ewch i’n gwefan 
Mae archebion yn cael eu cyfyngu i uchafswm o 6 o bobl sy’n byw ar yr un aelwyd.
Caniateir i rieni fynd i mewn i’r ffrâm chwarae ond dylent gadw pellter cymdeithasol oddi wrth oedolion eraill.

Mae bwyd a diod ar gael yn y Caffi Chwarae. Defnyddiwch ddulliau talu di-gyswllt lle bo hynny’n bosibl. Bydd y fwydlen yn cynnwys byrbrydau bach a diodydd ac mae’n rhaid i chi eu bwyta/yfed yn ystod eich sesiwn ddynodedig.

Mae’r toiledau ar gael i gwsmeriaid ac rydym yn gofyn i bobl barchu mesurau cadw pellter cymdeithasol wrth ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Darllenwch ein gwybodaeth Diogelwch Cwsmeriaid yn ofalus am fanylion llawn sut i ddefnyddio ein canolfannau yn ddiogel.

Diogelwch Cwsmeriaid

Wrth ailagor, fe roesom ni brosesau diogelwch newydd ar waith ym mhob un o’n safleoedd. Dyluniwyd y rhain i sicrhau ein bod yn cydymffurfio’n llawn â chyngor y llywodraeth, ac yn cadw’n cydweithwyr a’n cwsmeriaid yn ddiogel. Bydd y prosesau presennol yn parhau, ond fe allen nhw newid os bydd y llywodraeth yn diweddaru ei gyngor.

Er mwyn sicrhau eich bod yn gyfforddus ac yn ddiogel, bydd ein staff yn glanhau’n drylwyr cyn, yn ystod ac ar ôl pob sesiwn, ac maent wedi cael eu hyfforddi yn unol â chanllawiau Covid-19. Cadwch at unrhyw arwydd, rhybudd a chyfarwyddiadau os gwelwch yn dda.

Pan fyddwch chi’n ymweld â’n campfeydd, ein canolfannau hamdden, ein pyllau nofio a’n hatyniadau, bydd angen i chi wisgo gorchudd wyneb yn y derbynfeydd, yr ystafelloedd newid, y toiledau a’r mannau lle mae pobl yn cerdded o gwmpas. Ni fydd rhaid i chi wisgo un wrth ymarfer corff yn y gampfa, wrth gymryd rhan mewn dosbarth, wrth nofio nac o fewn y mannau Nova Play na Ninja TAG.

Defnyddiwch yr hylif diheintio dwylo wrth gyrraedd ac wrth adael. Er mwyn sicrhau eich bod yn gyfforddus ac yn ddiogel, bydd peiriannau tywel papur gwastraff ychwanegol a diheintyddion dwylo ar gael wrth y fynedfa ac o amgylch y ganolfan.

Mae arwyddion ychwanegol wedi’u rhoi mewn lle i arwain cwsmeriaid ac i’ch helpu i ddeall y newidiadau sydd wedi’u gwneud er mwyn ein galluogi i gadw’r cyfleuster ar agor.

Byddwn yn defnyddio system unffordd ar gyfer mynd i mewn ac allan pan fo hynny’n ymarferol.

Wrth gwrs, byddwn yn dal i orfodi mesurau cadw pellter cymdeithasol a glanhau eang ym mhob rhan o’n cyfleusterau.

Cofiwch, os oes gennych unrhyw symptomau COVID-19, peidiwch â dod i unrhyw un o’n safleoedd.

Amodau a Thelerau Archebu

  • Bydd rhaid archebu pob sesiwn ymlaen llaw cyn cyrraedd.
  • Gall aelodau archebu lle 7 diwrnod ymlaen llaw, gall y sawl nad yw’n aelod archebu lle 4 diwrnod ymlaen llaw
  • Canslo – mae’n rhaid i chi roi o leiaf 2 awr o rybudd os nad ydych yn gallu bod yn bresennol. Bydd methu â gwneud hynny yn arwain at godi ffi dim yn aelod. E-bostiwch y ganolfan i ganslo eich archeb.
  • Os nad yw aelod yn troi i fyny ar gyfer 3 dosbarth byddant yn colli eu braint blaenoriaeth archebu. (Bydd aelod yn colli eu braint blaenoriaeth archebu am wythnos o’r diwrnod y methwyd dosbarth)
  • Mae pob archeb dosbarth yn amodol ar argaeledd. Ni allwn warantu lle mewn dosbarthiadau ymarfer grŵp
  • Ni fydd unrhyw ad-daliad am sesiynau wedi eu methu. Os oes gennych reswm dilys dros beidio â mynychu sesiwn, gallwn roi credyd i chi ei ddefnyddio yn un o’n cyfleusterau DLL.
Gyrfaoedd gyda Hamdden Sir Ddinbych

Cliciwch isod i weld pa swyddi gwag sydd gennym ar y funud

Rhagor o wybodaeth

Gadewch i ni gymdeithasu