ein busnes
Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf. yn gwmni newydd a adeiladwyd ar gefndir o berfformiad uchel ac ymarfer arloesol. Dros y blynyddoedd diwethaf, fel gwasanaeth o fewn Cyngor Sir Ddinbych, rydym wedi sefydlu perthnasau parhaus sy’n fuddiol i bawb gyda nifer o sefydliadau partner. Rydym yn edrych ymlaen at lwyddiant parhaus y partneriaethau sefydledig hyn, wrth ddatblygu mentrau newydd a chyffrous hefyd. O fewn bob perthynas, rydym wedi ymrwymo i weithredu gyda gonestrwydd, tryloywder a chwrteisi.
Mae’r dyhead amlwg ar gyfer gwelliant wedi ei gynnal a’i ddatblygu dros y 10 mlynedd ddiwethaf, yn dangos dim arwydd o ostegu – yn syml, uchelgais y gwasanaeth yw bod y gorau.

Ein Portffolio

Rydym yn rheoli dros 40 o leoliadau dros ein hardaloedd cymdogaeth, gan gynnwys:

Canolfannau Hamdden: Hamdden Llangollen, Canolfan Hamdden Huw Jones Corwen, Hamdden Rhuthun, Hamdden Dinbych, Hamdden Llanelwy, Hamdden Prestatyn, Hamdden y Rhyl, Nova.

Atyniadua : SC2, Ninja TAG, Nova Prestatyn, Pafiliwn y Rhyl a 1891

Celfyddydau a Diwylliannol : Canolfan Grefft Rhuthun

Lleoliadau Digwyddiadau a Neuaddau Cymunedol : Arena Digwyddiadau Rhyl, Pafiliwn Llangollen a Neuadd y Dref Rhyl

Datblygu Chwaraeon a’r Celfyddydau

Mae unrhyw dîm sy’n gallu sicrhau’r gefnogaeth gref ar gyfer SC2 y Rhyl a gyflawnwyd gennych yn amlwg yn llwyddiannus iawn.

Paul Cluett
Paul Cluett
Rheolwr Gyfarwyddwr – Alliance Leisure

Ein Cenhadaeth

Cynnal lefelau uchel o iechyd a lles yn Sir Ddinbych yw ein prif flaenoriaeth, ac i’r perwyl hwn mae Hamdden Sir Ddinbych yn gweithio’n ddiflino i ddarparu cyfleusterau hamdden arloesol o ansawdd uchel. Gyda chyfoeth o weithgareddau cyffrous ledled y sir yn addas i bob aelod o’r gymuned, rydym wirioneddol yn dod a Sir Ddinbych ynghyd.

Mae ein cenhadaeth a’n nodau fel cwmni yn canolbwyntio ar ddarparu cyfleoedd hamdden hygyrch o safon uchel sy’n denu lefelau cyfranogi uchel, a gwella lles trigolion ac ymwelwyr Sir Ddinbych. Rydym yn gweithredu rhaglen ail-fuddsoddi barhaus ym mhob un o’r safleoedd hyn i sicrhau ein bod yn cynnig y profiad gorau i’n cwsmeriaid.

amdanom ni

Yr economi leol

Trwy ein hamrywiaeth eang o gyfleusterau hamdden, mae hamdden Sir Ddinbych yn falch o wneud cyfraniad arwyddocaol i’r economi lleol. Rydym hefyd yn cydlynu a chefnogi nifer o ddigwyddiadau poblogaidd, gan gynnwys Sioe Awyr y Rhyl sydd wedi ennill gwobrau, a pob un yn dod a phobl a gwariant i’r sir. Fel cwmni byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid a budd-ddeiliaid i ddatblygu a gwella’r cynnig twristiaeth o fewn Sir Ddinbych.

Fframwaith Hamdden y DU

Gan weithio gyda Alliance Leisure Ltd, rydym wedi creu Fframwaith Hamdden y DU, sy’n cynnig atebion busnes i brosiectau hamdden mawr gan gynnwys dylunio, adnewyddu, adeiladu a datblygu canolfannau hamdden, theatrau, cyfleusterau chwarae, cyfleusterau hamdden a chyfleusterau chwaraeon ar draws sector cyhoeddus y DU.

darganfod mwy
Rydych wedi creu hybrid hynod o dda yn Sir Ddinbych, sy’n dangos yr amcanion cymdeithasol y dylai darpariaeth fwrdeistrefol ei gynrychioli, wrth ei gyflwyno mewn modd nad yw’n wahanol iawn i ddull y sector preifat o ran masnachadwyedd. Nid yw’n hawdd cyflawni hyn ac a dweud y gwir, nid wyf yn ei weld yn aml, un ai yn fy ngwaith o ddydd i ddydd, trwy fy rhwydweithiau neu fy nghysylltiad â CIMSPA. Rwy’n meddwl y byddwn yn priodweddu’r hyn rydych y ei wneud fel entrepreneuriaeth gadarn! Golyga hyn eich bod yn fodlon mentro’n ofalus i geisio gwella’r gwasanaeth ac, o’r hyn a welaf i, mae wedi bod yn llwyddiant.
Paul Cluett
Paul Cluett
Managing Director – Alliance Leisure
Gyrfaoedd gyda Hamdden Sir Ddinbych

Cliciwch isod i weld pa swyddi gwag sydd gennym ar y funud

Rhagor o wybodaeth

Gadewch i ni gymdeithasu