enillwyr
categorïau gwobrau

Enillwyr 2023

Gwirfoddolwr y Flwyddyn

Carla Hargraves

Ysgol Gynradd y Flwyddyn

Ysgol Twm o’r Nant

Ysgol Uwchradd y Flwyddyn

Ysgol Uwchradd Prestatyn

Hyfforddwr Chwaraeon y Flwyddyn

Gerwyn Jones

Clwb Chwaraeon y Flwyddyn

Clwb Pel Droed Dinbych

Prosiect Celfyddydau mewn Iechyd Gorau

Well-being with Art (Gwasanaeth Saesneg fel Iaith Ychwanegol)

Prosiect Creadigol Cymunedol Gorau

Lleihau arwahanrwydd cymdeithasol trwy Gelf (STAND NW CIC ) 

Gweithle Gweithgar y Flwyddyn

Ysgol Llywelyn

Ysbrydoliaeth Ifanc

Hanna Tudor

Gwobr Rhagoriaeth - Person Ifanc

Olivia Schrimshaw

Gwobr Rhagoriaeth - Oedolyn

Ceri Roberts

Cyrhaeddiad Oes

Dr. Leah Owen

Categorïau Gwobrau

Gwirfoddolwr y Flwyddyn

Gwirfoddolwr unigol, o unrhyw oed, sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i gymuned Sir Ddinbych o fewn amgylchedd chwaraeon neu ddiwylliannol. Bydd y person hwn wedi dangos ymrwymiad eithriadol i weithgaredd di-dâl.

Ysgol Gynradd y Flwyddyn

Ysgol yn Sir Ddinbych sy’n blaenoriaethu cadw’n heini, cyfleoedd chwaraeon a/neu weithgareddau celfyddydau creadigol wrth galon yr ysgol a’r gymuned ac sy’n cydnabod cyfraniad y gweithgareddau hyn at hyrwyddo iechyd lles.

Ysgol Uwchradd y Flwyddyn

Ysgol yn Sir Ddinbych sy’n blaenoriaethu cadw’n heini, cyfleoedd chwaraeon a/neu weithgareddau celfyddydau creadigol wrth galon yr ysgol a’r gymuned ac sy’n cydnabod cyfraniad y gweithgareddau hyn at hyrwyddo iechyd lles.

Hyfforddwr Chwaraeon y Flwyddyn

Hyfforddwr o unrhyw oed yn Sir Ddinbych sydd wedi dangos sgiliau hyfforddi rhagorol ac wedi cyfrannu at gyfleoedd chwaraeon a/neu lwyddiant o lawr gwlad i ragoriaeth.

Clwb Chwaraeon y Flwyddyn

Clwb Cymunedol yn Sir Ddinbych sydd wedi dangos rhagoriaeth mewn rheolaeth, datblygiad a chystadleuaeth ar draws y clwb.

Prosiect Celfyddydau mewn Iechyd Gorau

Unrhyw brosiect yn Sir Ddinbych a gyflwynwyd mewn lleoliad cymunedol, iechyd, gofal cymdeithasol neu ysgol a gefnogodd iechyd a lles y cyfranogwyr yn llwyddiannus gan ddefnyddio offer creadigol megis celf, cerddoriaeth, drama, dawns neu ysgrifennu creadigol.

Prosiect Creadigol Cymunedol Gorau

Unrhyw brosiect yn Sir Ddinbych a gyflwynir i gefnogi cydlyniant cymunedol trwy gyfranogiad creadigol mewn unrhyw ffurf  gelfyddyd.

Gweithle Gweithgar y Flwyddyn

Busnes lleol yn Sir Ddinbych sydd yn cefnogi lles corfforol a meddyliol eu gweithwyr drwy eu hannog i fod yn heini a/neu greadigol e.e. côr gwaith, clwb gwau, tîm pêl-droed, teithiau cerdded amser cinio.

Ysbrydoliaeth Ifanc

Person ifanc ysbrydoledig 25 oed neu iau (ar 1 Tachwedd 2023) sydd wedi cyfrannu trwy ysgol, cymuned neu’r ddwy i helpu i ddatblygu cyfleoedd  chwaraeon neu ddiwylliannol sy’n hybu iechyd meddwl a lles yn Sir Ddinbych.

Gwobr Rhagoriaeth – Person Ifanc

Gwobr i gydnabod person ifanc 25 oed neu iau (ar 1 Tachwedd 2023) sy’n byw yn Sir Ddinbych, sydd wedi arddangos y lefel uchaf o sgil, perfformiad, ymroddiad ac ymrwymiad i’w chwaraeon neu gelfyddyd rhwng Ionawr 2022 a Gorffennaf 2023.

Gwobr Rhagoriaeth – Oedolyn

Gwobr i gydnabod un o drigolion Sir Ddinbych 26 oed a throsodd, sydd wedi arddangos y lefel uchaf o sgil, perfformiad, ymroddiad ac ymrwymiad i’w chwaraeon neu gelfyddyd rhwng Ionawr 2022 a Gorffennaf 2023.

Cyrhaeddiad Oes

Unigolyn sydd wedi gwella’r amgylchedd chwaraeon neu ddiwylliannol yn sylweddol yn Sir Ddinbych am gyfnod parhaus o 15 mlynedd neu fwy.

Gyrfaoedd gyda Hamdden Sir Ddinbych

Cliciwch isod i weld pa swyddi gwag sydd gennym ar y funud

Rhagor o wybodaeth

Gadewch i ni gymdeithasu