Fy Llywyyddiant
Eich Rhaglen Bersonol
Mae eich llwyddiant yn bwysig i ni felly rydym yn cynnig cefnogaeth bersonol i’ch helpu chi i gyrraedd eich nodau ac i ddarganfod cariad tuag at ymarfer corff. FyLlwyddiant yw ein hymrwymiad i’ch helpu chi, drwy ddylunio cefnogaeth sy’n addas ar eich cyfer chi.
Gall lynu at arferion ymarfer corff fod yn anodd, felly cymerwch ychydig funudau i feddwl am yr hyn sy’n eich annog chi i fod yn actif. Nid ydym ni’n golygu “colli pwysau”, “cyflyru’r corff” neu “bod yn ffit”, ond beth yw eich cymhelliant chi i ymuno â ni?
Efallai eich bod eisiau mwy o hyder, efallai eich bod eisiau gallu dal i fyny gyda gêm bêl-droed y plant, efallai eich bod eisiau byw yn hirach ac yn iachach…beth bynnag yw eich cymhelliant, ein hargymhelliad ni yw…ysgrifennwch y rheswm i lawr. Gwnewch yn bersonol ac yn bwysig a’i roi fyny yn rhywle y gallwch chi ei weld bob diwrnod.
Mae ymarfer corff gydag eraill yn ffordd wych o gadw cymhelliant, amrywio eich hyfforddiant a chwrdd â phobl gyda nodau tebyg i chi
Gwyddwn pa mor bwysig yw hyn, felly rydym yn sicrhau bod gennym amrywiaeth eang o ddosbarthiadau i weddu pawb.
Y tro nesaf i chi deimlo’n ansicr….dylech atgoffa eich hun o’r rhesymau wnaethoch chi ddechrau, ac yna atgoffa eich hun i ddal ati!
Rydym eisiau sicrhau eich bod yn gwneud y mwyaf o’ch aelodaeth gan weithio tuag at eich nodau sydd wedi eich cymell chi i ymuno â ni, felly rhowch wybod i ni sut allwn ni helpu.
Mae ein tîm yma i’ch helpu chi ddechrau arni, i ddeall eich nodau, cynllunio o amgylch eich ymrwymiadau wythnosol a sicrhau eich bod yn cael y mwyaf o fod yn rhan o gymuned Hamdden Sir Ddinbych. Siaradwch ag un o’n tîm am FyLlwyddiant a byddant yn gallu cynnig yr holl gefnogaeth angenrheidiol i chi.
Cysylltwch â’r safle rŵan i archebu eich sesiwn gyntaf, neu gallwch archebu lle ar-lein
Mynegwch eich Diddoreb Yma