
Gwirfoddoli gyda Hamdden Sir Ddinbych Cyf
Mae ein Gwirfoddolwyr yn rhan hynod bwysig o’n tîm yn Hamdden Sir Ddinbych Cyf. Maent wedi bod yn gefn dros y blynyddoedd, ac rydym yn gwerthfawrogi’r sgiliau, profiad, gwybodaeth a phersonoliaethau unigol sydd gan bob gwirfoddolwr. O ddarparu gwasanaeth tywys yn y Theatr, i helpu i redeg digwyddiadau mawr, i gefnogi pobl ifanc a chymunedau i gadw’n heini, mae amrywiaeth o ffyrdd i’n gwirfoddolwyr gymryd rhan.
Rhestrir ein cyfleoedd gwirfoddoli presennol isod. Cliciwch ar gyfle gwirfoddoli i ddarganfod mwy. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli gyda ni, llenwch y ffurflen isod, a bydd rhywun o’r tîm yn cysylltu â chi.
Ffurflen Diddordeb Gwirfoddoli