Categorïau gwobrau
enwebu
Chwilio am artistiaid
galeri 2023
ennillwyr 2023

ENWEBIADAU YN CAU 15FED GORFFENNAF

Mae DLL yn gyffrous i gyhoeddi y bydd Jason Mohammad, seren Final Score BBC 1 yn cyflwyno Gwobrau Cymunedau Bywiog DLL 2024.

Mae’r Gwobrau mawreddog yn anrhydeddu aelodau o’r gymuned sydd wedi gwneud gwahaniaeth neu wedi cyflawni rhywbeth arbennig yn y maes chwaraeon, y celfyddydau a diwylliant o fewn y blwyddyn diwethaf.

Bydd seremoni 2024 yn cael ei chynnal ar 13eg Tachwedd ac yn cael ei chynnal unwaith eto yn Theatr Pafiliwn y Rhyl.

enwebu

ENWEBU

GWIRFODDOLWR Y FLWYDDYN
ysgol gynradd y flwyddyn
ysgol uwchradd y flwyddyn
hyfforddwr chwaraeon y flwyddyn
clwb chwaraeon y flwyddyn
Tîm y flwyddyn
Prosiect Celfyddydau er Lles Gorau
Prosiect Creadigol Cymunedol Gorau
ysbrydoliaeth ifanc
rhagoriaeth - person ifanc
rhagoriaeth - oedolyn
cyrhaeddiad oes

Categorïau

Gwirfoddolwr y Flwyddyn

Gwirfoddolwr unigol, o unrhyw oed, sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i gymuned Sir Ddinbych o fewn amgylchedd chwaraeon neu ddiwylliannol. Bydd y person hwn wedi dangos ymrwymiad eithriadol i weithgaredd di-dâl.

Ysgol Gynradd y Flwyddyn

Ysgol yn Sir Ddinbych sy’n blaenoriaethu cadw’n heini, cyfleoedd chwaraeon a/neu weithgareddau celfyddydau creadigol wrth galon yr ysgol a’r gymuned ac sy’n cydnabod cyfraniad y gweithgareddau hyn at hyrwyddo iechyd lles

Ysgol Uwchradd y Flwyddyn

Ysgol yn Sir Ddinbych sy’n blaenoriaethu cadw’n heini, cyfleoedd chwaraeon a/neu weithgareddau celfyddydau creadigol wrth galon yr ysgol a’r gymuned ac sy’n cydnabod cyfraniad y gweithgareddau hyn at hyrwyddo iechyd lles.

Hyfforddwr Chwaraeon y Flwyddyn

Hyfforddwr o unrhyw oed yn Sir Ddinbych sydd wedi dangos sgiliau hyfforddi rhagorol ac wedi cyfrannu at gyfleoedd chwaraeon a/neu lwyddiant o lawr gwlad i

Clwb Chwaraeon y Flwyddyn

Clwb Cymunedol yn Sir Ddinbych sydd wedi dangos rhagoriaeth mewn rheolaeth, datblygiad a chystadleuaeth ar draws y clwb.

Tîm y Flwyddyn

Mae’r wobr hon ar gyfer tîm sydd wedi dangos cadernid ac ymrwymiad mawr fel tîm yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Gallai hwn fod yn dîm sefydledig neu newydd mewn unrhyw gamp neu weithgaredd. Nid oes angen iddynt fod wedi ennill unrhyw ddigwyddiadau chwaraeon ond maent yn dangos gwerthoedd da ac ymrwymiad cymunedol.

Prosiect Celfyddydau er Lles Gorau

Unrhyw brosiect yn Sir Ddinbych a gyflwynwyd mewn lleoliad cymunedol, iechyd, gofal cymdeithasol neu ysgol a gefnogodd iechyd a lles y cyfranogwyr yn llwyddiannus gan ddefnyddio offer creadigol megis celf, cerddoriaeth, drama, dawns neu ysgrifennu creadigol.

Prosiect Creadigol Cymunedol Gorau

Unrhyw brosiect yn Sir Ddinbych a gyflwynir i gefnogi cydlyniant cymunedol trwy gyfranogiad creadigol mewn unrhyw ffurf  gelfyddyd

Ysbrydoliaeth Ifanc

Person ifanc ysbrydoledig 25 oed neu iau (ar 1 Tachwedd 2024) sydd wedi cyfrannu trwy ysgol, cymuned neu’r ddwy i helpu i ddatblygu cyfleoedd  chwaraeon neu ddiwylliannol sy’n hybu iechyd meddwl a lles yn Sir Ddinbych.

Gwobr Rhagoriaeth – Person Ifanc

Gwobr i gydnabod person ifanc 25 oed neu iau (ar 1 Tachwedd 2024) sy’n byw yn Sir Ddinbych, sydd wedi arddangos y lefel uchaf o sgil, perfformiad, ymroddiad ac ymrwymiad i’w chwaraeon neu gelfyddyd rhwng Awst 2023 – Gorffennaf 2024.

Gwobr Rhagoriaeth – Oedolyn

Gwobr i gydnabod un o drigolion Sir Ddinbych 26 oed a throsodd, sydd wedi arddangos y lefel uchaf o sgil, perfformiad, ymroddiad ac ymrwymiad i’w chwaraeon neu gelfyddyd rhwng  Awst 2023 – Gorffennaf 2024.

Cyrhaeddiad Oes

Unigolyn sydd wedi gwella’r amgylchedd chwaraeon neu ddiwylliannol yn sylweddol yn Sir Ddinbych am gyfnod parhaus o 15 mlynedd neu fwy.


Chwilio am Artistiaid Lleol

Mae Hamdden Sir Ddinbych yn dymuno comisiynu artist proffesiynol neu artist sydd ar fin cychwyn gyrfa i greu deuddeg o dlysau a fydd yn cael eu cyflwyno i enillwyr pob categori.

Bydd cyfanswm o £3,000 yn cynnwys TAW yn cael ei dalu am y comisiwn hwn. Bydd y tâl yn mynd tuag at holl gostau’r gwaith dylunio, deunyddiau, cynhyrchu, pecynnu a chludiant.

Gellir ddod o hyd i meini prawf ar gyfer y dyluniad drwy glicio ar y botwm isod

pecyn artistiaid

Galeri 2023


Ennillwyr 2023

Llwyddiant Oes – Leah Owen
Gwirfoddolwr y Flwyddyn – Carla Hargraves
Ysbrydoliaeth Ifanc – Hanna Tudor
Prosiect Celfyddydau Mewn Iechyd Gorau – Llesiant gyda Chelf (Gwasanaeth Saesneg fel Iaith Ychwanegol)
Rhagoriaeth Oedolyn – Ceri Roberts
Ysgol Gynradd y Flwyddyn – Ysgol Twm o’r Nant
Rhagoriaeth Person Ifanc – Olivia Schrimshaw
Ysgol Uwchradd y Flwyddyn – Ysgol Uwchradd Prestatyn
Prosiect Creadigol Cymunedol Gorau – STAND NW CIC
Gweithle Gweithgar y Flwyddyn – Ysgol Llywelyn
Hyfforddwr Chwaraeon y Flwyddyn – Gerwyn Jones
Clwb Chwaraeon y Flwyddyn – Clwb Pêl Droed Dinbych
Gyrfaoedd gyda Hamdden Sir Ddinbych

Cliciwch isod i weld pa swyddi gwag sydd gennym ar y funud

Rhagor o wybodaeth

Gadewch i ni gymdeithasu