Yma yn Hamdden Sir Ddinbych Cyf. rydym yn cynnig cymwysterau hamdden i’n cymuned leol, gyda’n hyfforddwyr cymwys a phrofiadol. Mae ein cyrsiau wedi’u hachredu a’u cydnabod yn broffesiynol, felly gallwch fod yn hyderus eich bod yn ennill y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i wella neu ddechrau eich gyrfa yn y diwydiant hamdden.
Y cyrsiau rydym yn cynnig:
Y manteision o ddysgu gyda ni:
Gall ein tîm hynod brofiadol eich helpu i ennill cymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant ac sydd wedi’u hachredu, fel y gallwch ymddiried gyda ni bod eich gyrfa mewn dwylo diogel.
Ein bara menyn yw gweithrediadau hamdden, sy’n golygu bod gan ein hyfforddwyr ddigon o brofiad ymarferol nid yn unig wrth addysgu eraill, ond wrth gyflawni’r rolau eu hunain. Mae angen y sgiliau a’r cymwysterau pwysig hyn ar lawer o’n staff, felly flynyddoedd yn ôl fe ddechreuon ni ddarparu’r hyfforddiant hwn i’n timau. Nawr, rydyn ni’n cynnig y cyrsiau hyn allan i’r gymuned leol fel bod pawb yn gallu elwa ar ein harbenigwyr. Gyda DLL, rydych yn sicr o ddarparu cyrsiau o ansawdd uchel yn lleol ac am bris rhesymol.
Gall ennill cymhwyster proffesiynol wella eich hunanhyder, cynyddu eich cyfleoedd gyrfa, a gall eich helpu i ddysgu sgil bywyd amhrisiadwy.
I’r rhai sydd am ymuno â’r diwydiant hamdden, rydym yn aml yn chwilio am staff awyddus a brwdfrydig i ymuno â’n timau, felly byddwch yn sicr o gael cyfweliad ar ôl ei gwblhau – rhowch wybod i’ch hyfforddwr os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â ni!
Os hoffech ragor o wybodaeth am ein cyrsiau, anfonwch e-bost i Hyfforddiant@hamddensirddinbych.co.uk
Archebu:
I archebu lle ar gwrs, dilynwch y dolenni uchod i’r cwrs y mae gennych ddiddordeb ynddo. Fe welwch y cyrsiau nesaf sydd ar gael wedi’u rhestru, a gallwch archebu lle yn hawdd trwy glicio ar y ddolen ‘Cofrestru’.
Os nad oes cwrs wedi’i amserlennu eto, rhowch wybod i ni fod gennych ddiddordeb trwy glicio ar y botwm ‘Ymholiad’ ar frig y dudalen ar y dde a dweud wrthym pa gwrs yr hoffech ei gwblhau. Byddwn yn trefnu cwrs cyn gynted ag y bydd gennym ddigon o ddiddordeb.