Os ydych yn chwilio am rywle i gynnal digwyddiad, boed yn ddathliad, codi arian neu rywbeth cwbl unigryw, mae’r tîm yn Hamdden Sir Ddinbych yma i’ch helpu chi. Mae gennym ystod dda o leoliadau i’w cynnig ar draws y Sir, felly cysylltwch â ni am fanylion llawn. Yn ogystal â’r dau lleoliad digwyddiadau mawr isod, gallwch hefyd logi ein Bwyty 1891 ar lan y môr y Rhyl, Canolfan Fowlio Gogledd Cymru ac Ystafell Fwyta’r Goedwig Law yn SC2. Mae ein Canolfannau Hamdden hefyd yn cynnig llogi cyfleuster ar gyfer partïon pen-blwydd a digwyddiadau eraill.
Arena Ddigwyddiadau’r Rhyl
Lleolir ar East Parade ar y Promenâd, mae Arena Ddigwyddiadau’r Rhyl wedi bod yn leoliad i lawer o ddigwyddiadau cofiadwy dros y blynyddoedd, gan gynnwys Tom Jones, McFly, Madness ac UB40 ymysg eraill.
Mae yna le i oddeutu 8,000 yn yr arena awyr agored hon, a defnyddir ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau masnachol preifat gan gynnwys Sioe Awyr y Rhyl a Ras Am Fywyd.
Neuadd y Dref y Rhyl
Lleolir yn ganolog yng nghanol y Rhyl, mae Neuadd y Dref yn leoliad delfrydol ar gyfer unrhyw ddigwyddiad ac mae ar gael ar gyfer:
- Llogi ar gyfer Partion a Dathliadau (gyda Bar Trwyddedig Llawn)
- Seremonïau a Derbyniadau
- Darlithoedd ac Arddangosfeydd
- Cynadleddau a Seminarau
Mae gennym dîm ymroddedig ar y safle sy’n gallu eich helpu i gynllunio eich digwyddiad a byddant yn sicrhau fod popeth yn rhedeg mor llyfn â phosibl ar y diwrnod ei hun.
Mae neuadd y dref yn gwbl hygyrch a lleolir yn agos at holl gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus gyda’r safle Tacsi wedi’i leoli y tu allan i Neuadd y Dref.
Mae Neuadd y Dref Y Rhyl ar gael i’w llogi saith diwrnod yr wythnos.