Sioe Awyr Y Rhyl 2023
Y Rhaglen
Gwybodaeth Parcio a Thrafnidiaeth
Caniatewch ddigon o amser os yn teithio o ymhellach.
Rydym yn annog pobl leol i gerdded i’r digwyddiad, lle bo modd.
Parcio a Theithio:
O Goleg Llandrillo, Ffordd Cefndy, Y Rhyl LL18 2HG – (Voel Coaches yw’r darparwr cludiant). Bydd y gwasanaeth parcio a theithio yn gweithredu o 11am tan 2pm ar y ddau ddiwrnod a bydd yn gollwng teithwyr yng Ngorsaf Reilffordd y Rhyl. Bydd y daith yn ôl yn pigo i fynu yng Ngorsaf Rheilffordd y Rhyl o 5pm tan 7pm ac yn mynd â theithwyr yn ôl i Goleg Llandrillo, Y Rhyl i gasglu eu cerbydau a pharhau ar eu taith adref.
O Ganolfan Hamdden y Rhyl, LL18 4BY – bydd y gwasanaeth hwn yn gweithredu o 11am tan 2pm ar y ddau ddiwrnod a bydd yn gollwng yn Nhŷ Russell, Ffordd Churton, Y Rhyl. LL18 3DP. Bydd y bws dychwelyd yn pigo i fynu o Dŷ Russell, Ffordd Churton, y Rhyl o 5pm tan 7pm ac yn mynd â theithwyr yn ôl i’r Ganolfan Hamdden i gasglu eu cerbydau a pharhau ar eu taith adref.
Meusydd Parcio Arfordirol:
Parcio a theithio – Canolfan Hamdden y Rhyl
Parcio a cherdded – Gorllewin Nova, Prestatyn – https://www.denbighshire.gov.uk/en/parking-roads-and-travel/parking-and-permits/council-car-parks/prestatyn-nova-west.aspx
Promenâd (Talu ac Arddangos) parcio ar y stryd – https://www.denbighshire.gov.uk/en/parking-roads-and-travel/parking-and-permits/council-car-parks/rhyl-promenade.aspx
Tŵr Awyr (Talu ac Arddangos) – https://www.denbighshire.gov.uk/en/parking-roads-and-travel/parking-and-permits/council-car-parks/rhyl-sky-tower.aspx
Maes Parcio Tanddaearol Canolog (Talu ac Arddangos) sylwer: os byddwch yn parcio yma, ni fyddwch yn gallu symud eich cerbydau tan ar ôl 6pm, oherwydd bod ffordd y sioe awyr ar gau rhwng 4pm a 6pm – https://www.denbighshire.gov.uk/en/parking-roads-and-travel/parking-and-permits/council-car-parks/rhyl-central.aspx
Mynediad East Parade (Talu ac Arddangos) rhwng Theatr Pafiliwn y Rhyl a Travelodge – https://www.denbighshire.gov.uk/en/parking-roads-and-travel/parking-and-permits/council-car-parks/rhyl-east-parade.aspx
Pafiliwn Rhyl (Stiward) – https://www.denbighshire.gov.uk/en/parking-roads-and-travel/parking-and-permits/council-car-parks/rhyl-pavilion.aspx
Ysbyty Brenhinol Alex (Stiward) (maes parcio cefn) – Marine Drive, Y Rhyl, LL18 3AS
Ty Russell (Stiward) – Ffordd Churton, Y Rhyl LL18 3DP
Canolfan y Rhosyn Gwyn (Talu ac Arddangos) – http://www.whiterosecentre.com/facilities/ – maes parcio yn cau am 7pm bob nos
Meysydd Parcio Canol Tref y Rhyl:
Morley Road – https://www.denbighshire.gov.uk/en/parking-roads-and-travel/parking-and-permits/council-car-parks/rhyl-morley-road.aspx
West Kinmel St – https://www.denbighshire.gov.uk/en/parking-roads-and-travel/parking-and-permits/council-car-parks/rhyl-west-kinmel-street.aspx
Y Protocol Herbert
Mae Protocol Herbert yn gynllun cenedlaethol sy’n annog gofalwyr, teulu a ffrindiau i ddarparu a rhoi gwybodaeth ddefnyddiol at ei gilydd, y gellir ei defnyddio wedyn os bydd person agored i niwed yn mynd ar goll.
Bydd Protocol Herbert yn ei le ar gyfer Sioe Awyr y Rhyl 2023 eleni.
Mae’r broses hon yn cynnwys ffurflen syml y byddai teulu’r person yn ei llenwi. Yna, wrth ymweld â’r ardal, dewch â’r ffurflen – naill ai mewn print neu ar eich dyfais – rhag ofn i’r person rydych yn gofalu amdano fynd ar goll.
Mae’r ffurflen yn cynnwys manylion am y person nad ydych efallai’n ei gofio yng ngwres y foment: pa feddyginiaeth y mae’n ei gymryd, nodweddion gwahaniaethol, problemau ymddygiad, ac ati.
Mae’n fenter wych a allai helpu i ddod o hyd i rywun yn llawer cyflymach.
Cliciwch ar y botwm isod i gwblhau ffurflen Protocol Herbert
Am fwy o wybodaeth ewch i:
https://www.northwales.police.uk/cy-GB/notices/af/protocol-herbert
Diogelwch Plant
Fel yn y blynyddoedd blaenorol, bydd ein bandiau arddwrn *AM DDIM* ar gael i’w casglu i ysgrifennu rhif cyswllt ar gyfer eich plant a/neu oedolion bregus gan ein tîm diogelwch yn yr arena.
Os nad ydych yn siŵr o’r lleoliad, gofynnwch i unrhyw aelod o’r tîm diogelwch a byddant yn hapus i’ch cynorthwyo.
Bydd y bandiau arddwrn hyn yn helpu’r tîm diogelwch i aduno unrhyw berson neu blentyn anturus a allai fod wedi crwydro oddi wrth eu grwp neu rhieni, yn gyflym ac yn ddiogel i leihau unrhyw straen neu bryder y gallai ei achosi i chi, iddyn nhw neu unrhyw un arall sy’n gysylltiedig.
Sioe Arobryn
Roedd Sioe Awyr Y Rhyl ymhlith yr uchelwyr mewn seremoni fawreddog i ddathlu blwyddyn uchaf erioed yn niwydiant twristiaeth gogledd Cymru.
Cafodd y digwyddiad poblogaidd ei enwi fel Tynnwr Tyrfa Gwych ar gyfer digwyddiadau sy’n denu mwy na 7,500 o bobl pan gafodd ei anrhydeddu yng Ngwobrau Twristiaeth Go North Wales.
Ers lansio’r ddau ddigwyddiad yn 2009 mae wedi mynd o nerth i nerth ac yn denu degau o filoedd o ymwelwyr i’r dref glan môr bob mis Awst.
Yn ôl trefnwyr Twristiaeth Gogledd Cymru, digwyddiadau fel y sioe awyr yw asgwrn cefn yr economi ymwelwyr sy’n ffynnu.
Mae perfformiwr safon fyd-eang arall wedi’i gadarnhau ar gyfer Sioe Awyr y Rhyl ar Ŵyl y Banc mis Awst eleni
Mae Sioe Awyr y Rhyl yn ôl yr haf hwn gyda rhaglen ragorol, gyda’r Strikemaster yn cael ei gyhoeddi ar gyfer y ddau ddiwrnod dros y penwythnos.
Mae’r pâr G-SOAF Strikemaster yn perthyn i Strikemaster Flying Club (SFC) sydd wedi’i leoli yn Wasanaethau Hedfan Milwrol Gogledd Cymru Cyf, Penarlâg, Gogledd Cymru.
Mae’r dilyniant y bydd y pâr Strikemaster yn hedfan yn ddeinamig iawn a bydd yn dangos yr awyrennau yn hyfryd, gydag erobateg egni uchel a symudiadau cysylltiedig gosgeiddig. Oherwydd bod gan yr awyren ystod cyflymder eang, bydd yn cael ei harddangos yn agos i’r dorf fel bod yr awyren yn hawdd ei gweld. Bydd cynulleidfaoedd yn gweld hwn yn hedfan dros 400mya, gyda llawer o roliau, dolenni, rholiau casgen a chyflymderau cyflym ac araf. Mae’r injan yn Viper RR 535 gyda 1000 pwys yn fwy na’r injan JP5 Viper. Mae’r gwthiad ychwanegol hwn yn caniatáu i’r awyren gario’r arfau canlynol: 2 x gwn peiriant, hyd at 4 x bom 500 pwys neu 32 roced Sura neu gymysgedd.
Mae Sioe Awyr y Rhyl yn ôl yr haf hwn gyda rhestr anhygoel, gan gynnwys perfformiadau o’r radd flaenaf yn ystod dau ddiwrnod Gŵyl y Banc ym mis Awst.
Mae’r Saethau Cochion a Hediad Coffa Brwydr Prydain wedi eu cadarnhau ar gyfer arddangosiadau yn yr awyr yn ystod dau ddiwrnod y sioe ym mis Awst.
Mae’r sioe awyr boblogaidd yn prysur ddod yn ddigwyddiad glan môr mwyaf gogledd Cymru sydd AM DDIM, a bydd y sioe yn 2023 yn cynnwys arddangosiadau awyr rhyfeddol ac atyniadau ac adloniant ar y tir ddydd Sadwrn a dydd Sul, 26-27 Awst 2023.
Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf, mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych a Chyngor Tref Rhyl yn falch o gyhoeddi dechrau ein rhestr anhygoel ar gyfer Sioe Awyr y Rhyl, sydd bellach yn enwog ledled y DU. Mae’n mynd i fod yn sioe syfrdanol eto eleni, ac mae Sioe Awyr y Rhyl bellach yn cael ei hystyried yn un o’r digwyddiadau mwyaf trawiadol ar hyd arfordir gogledd Cymru. Mae Canol Tref y Rhyl a’r Arena Ddigwyddiadau bob amser yn llawn cyffro, ac mae cael y Saethau Cochion a Hediad Coffa Brwydr Prydain yma ar gyfer y ddau ddiwrnod eleni yn anhygoel! Edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr a phobl leol i’r Rhyl ac arfordir Sir Ddinbych i fwynhau’r sioe boblogaidd hon.”
Dywedodd Graham Boase, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych: “Mae’r digwyddiad pwysig hwn yn rhoi hwb sylweddol i economi’r Rhyl a chymunedau ehangach bob tro mae’n cael ei lwyfannu, ac mae’r rhestr o’r rhai sy’n cymryd rhan eleni yn wirioneddol arbennig. Mae gan Hamdden Sir Ddinbych Cyf hanes cadarn o gynnal digwyddiadau mawreddog o’r fath, ac rydym wrth ein boddau cael gweithio mewn partneriaeth gyda hwy i ddarparu digwyddiad a fydd yn denu nifer fawr o bobl. Mae ei boblogrwydd wedi tyfu dros y blynyddoedd, ac mae’r Sioe Awyr yn enwog ym mhob cwr o’r DU fel un o brif ddigwyddiadau ei fath. Ni fydd ymwelwyr â’r Sioe Awyr yn cael eu siomi.”
Dywedodd Clerc Tref Cyngor Rhyl: “Mae gan Gyngor Tref y Rhyl bartneriaeth hirsefydlog yn cefnogi sioe awyr ysblennydd y dref. Bydd y digwyddiad enwog rhad ac am ddim hwn o’r radd flaenaf, a’r rhaglen awyr wych a’r atyniadau a gyhoeddir a fydd yn cael eu harddangos eleni yn siŵr o blesio’r torfeydd mawr o drigolion ac ymwelwyr y mae’n eu denu. Bydd y Rhyl hefyd yn elwa o ddenu nifer helaeth o dwristiaid a all brofi’r atyniadau adfywio sydd gan y dref i’w cynnig a darparu twf pwysig yn ein heconomi twristiaeth. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud nodyn o’r benwythnos gwych hyn o adloniant na ddylid ei golli .”
Tîm Erobatig y Llu Awyr Brenhinol, y Saethau Cochion, yw un o dimau arddangos erobatig gorau’r byd. Yn cynrychioli cyflymder, ystwythder a chywirdeb y Llu Awyr Brenhinol, mae’r tîm yn wyneb cyhoeddus i’r gwasanaeth. Yn hedfan jetiau ‘Hawk’ nodedig, mae’r tîm yn cynnwys peilotiaid, peirianwyr a staff cefnogi hanfodol, gyda phrofiad gweithredol ar y rheng flaen. Yn aml yn arddangos eu siâp Diemwnt Naw enwog, a chyfuniad o ffurfiau agos a hedfan cywir, mae’r Saethau Cochion wedi bod yn arddangos ers 1965.
Cynhelir y Sioe Awyr dros Ŵyl y Banc ym mis Awst, a bydd mwy o fanylion am y digwyddiad yn dilyn maes o law. Mae mwy o wybodaeth ar y wefan swyddogol denbighshireleisure.co.uk/cy/sioe-awyr-rhyl/ ac ar dudalen Facebook Hamdden Sir Ddinbych Cyf.