Ymarfer corff yn y gampfa, adref neu yn y parc!
1. Cylchdro Braich Cyrcydu – Gwynebwch eich gilydd, gan ddal dwylo gyferbyn. Mae’r ddau yn cwblhau sgwat ac yn cyfnewid dwylo wrth i chi sefyll. Ailadroddwch 10 x bob ochr..
2. Clapiau Planc – Mae’r ddau yn dal safle planc yn wynebu ei gilydd (ar ben-gliniau neu flaenau’ch traed). Gan gadw safle eich planc yn llonydd, curwch eich dwylo gyferbyn â’ch partner. Ailadroddwch 10 x bob llaw
3. Eistedd i fynu gyda phel – Gorwedd gyda’ch pengliniau wedi plygu, traed yn cyffwrdd. Daliwch bêl feddyginiaeth ysgafn (neu unrhyw bêl sydd gennych gartref) ar eich brest (neu uwchben ar gyfer symudiad anoddach) ac wrth i chi eistedd i fyny, rhowch y bêl i’ch partner sy’n rholio yn ôl i’r llawr ac yna’n pasio yn ôl wrth i chi cwblhau’r eistedd i fyny. Ailadroddwch 10 x yr un
4. Pas Pel sy’n Cylchdroi – Sefwch gefn wrth gefn gyda phêl meddyginiaeth (neu unrhyw bêl neu bwysau sydd gennych gartref). Cylchdroi yn y canol i basio’r bêl i’ch partner sy’n cwblhau’r tro i basio i chi ar yr ochr arall. Ailadroddwch 10 x i bob cyfeiriad