Sioe Awyr Y Rhyl 2023

Sioe Awyr Y Rhyl 2023

Mae Sioe Awyr y Rhyl yn ôl yr haf hwn gyda rhestr anhygoel, gan gynnwys perfformiadau o’r radd flaenaf yn ystod dau ddiwrnod Gŵyl y Banc ym mis Awst.

Mae’r Saethau Cochion a Hediad Coffa Brwydr Prydain wedi eu cadarnhau ar gyfer arddangosiadau yn yr awyr yn ystod dau ddiwrnod y sioe ym mis Awst.

Mae’r sioe awyr boblogaidd yn prysur ddod yn ddigwyddiad glan môr mwyaf gogledd Cymru sydd AM DDIM, a bydd y sioe yn 2023 yn cynnwys arddangosiadau awyr rhyfeddol ac atyniadau ac adloniant ar y tir ddydd Sadwrn a dydd Sul, 26-27 Awst 2023.

Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf, mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych a Chyngor Tref Rhyl yn falch o gyhoeddi dechrau ein rhestr anhygoel ar gyfer Sioe Awyr y Rhyl, sydd bellach yn enwog ledled y DU. Mae’n mynd i fod yn sioe syfrdanol eto eleni, ac mae Sioe Awyr y Rhyl bellach yn cael ei hystyried yn un o’r digwyddiadau mwyaf trawiadol ar hyd arfordir gogledd Cymru. Mae Canol Tref y Rhyl a’r Arena Ddigwyddiadau bob amser yn llawn cyffro, ac mae cael y Saethau Cochion a Hediad Coffa Brwydr Prydain yma ar gyfer y ddau ddiwrnod eleni yn anhygoel! Edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr a phobl leol i’r Rhyl ac arfordir Sir Ddinbych i fwynhau’r sioe boblogaidd hon.”

Dywedodd Graham Boase, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych: “Mae’r digwyddiad pwysig hwn yn rhoi hwb sylweddol i economi’r Rhyl a chymunedau ehangach bob tro mae’n cael ei lwyfannu, ac mae’r rhestr o’r rhai sy’n cymryd rhan eleni yn wirioneddol arbennig. Mae gan Hamdden Sir Ddinbych Cyf hanes cadarn o gynnal digwyddiadau mawreddog o’r fath, ac rydym wrth ein boddau cael gweithio mewn partneriaeth gyda hwy i ddarparu digwyddiad a fydd yn denu nifer fawr o bobl. Mae ei boblogrwydd wedi tyfu dros y blynyddoedd, ac mae’r Sioe Awyr yn enwog ym mhob cwr o’r DU fel un o brif ddigwyddiadau ei fath. Ni fydd ymwelwyr â’r Sioe Awyr yn cael eu siomi.

Dywedodd Clerc Tref Cyngor Rhyl: “Mae gan Gyngor Tref y Rhyl bartneriaeth hirsefydlog yn cefnogi sioe awyr ysblennydd y dref. Bydd y digwyddiad enwog rhad ac am ddim hwn o’r radd flaenaf, a’r rhaglen awyr wych a’r atyniadau a gyhoeddir a fydd yn cael eu harddangos eleni yn siŵr o blesio’r torfeydd mawr o drigolion ac ymwelwyr y mae’n eu denu. Bydd y Rhyl hefyd yn elwa o ddenu nifer helaeth o dwristiaid a all brofi’r atyniadau adfywio sydd gan y dref i’w cynnig a darparu twf pwysig yn ein heconomi twristiaeth. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud nodyn o’r benwythnos gwych hyn o adloniant na ddylid ei golli .”

Tîm Erobatig y Llu Awyr Brenhinol, y Saethau Cochion, yw un o dimau arddangos erobatig gorau’r byd. Yn cynrychioli cyflymder, ystwythder a chywirdeb y Llu Awyr Brenhinol, mae’r tîm yn wyneb cyhoeddus i’r gwasanaeth. Yn hedfan jetiau ‘Hawk’ nodedig, mae’r tîm yn cynnwys peilotiaid, peirianwyr a staff cefnogi hanfodol, gyda phrofiad gweithredol ar y rheng flaen. Yn aml yn arddangos eu siâp Diemwnt Naw enwog, a chyfuniad o ffurfiau agos a hedfan cywir, mae’r Saethau Cochion wedi bod yn arddangos ers 1965.

Cynhelir y Sioe Awyr dros Ŵyl y Banc ym mis Awst, a bydd mwy o fanylion am y digwyddiad yn dilyn maes o law. Mae mwy o wybodaeth ar dudalen Facebook Hamdden Sir Ddinbych Cyf.


Sioe Awyr Arobryn

Roedd Sioe Awyr Y Rhyl ymhlith yr uchelwyr mewn seremoni fawreddog i ddathlu blwyddyn uchaf erioed yn niwydiant twristiaeth gogledd Cymru.

Cafodd y digwyddiad poblogaidd ei enwi fel Tynnwr Tyrfa Gwych ar gyfer digwyddiadau sy’n denu mwy na 7,500 o bobl pan gafodd ei anrhydeddu yng Ngwobrau Twristiaeth Go North Wales.

Ers lansio’r ddau ddigwyddiad yn 2009 mae wedi mynd o nerth i nerth ac yn denu degau o filoedd o ymwelwyr i’r dref glan môr bob mis Awst.

Yn ôl trefnwyr Twristiaeth Gogledd Cymru, digwyddiadau fel y sioe awyr yw asgwrn cefn yr economi ymwelwyr.

Rhaglen y Penwythnos

Dod yn fuan


Parti Gyda’r Nos

I’w gadarnhau

Pecynnau Bwyta Arbennig

I’w gadarnhau


Gwybodaeth Parcio y Sioe Awyr

Meysydd Parcio ar yr Arfordir:

Parcio a cherdded – Canolfan Hamdden Y Rhyl

Prestatyn: maes parcio’r Canolfan Nova Gorllewin – https://www.denbighshire.gov.uk/en/parking-roads-and-travel/parking-and-permits/council-car-parks/prestatyn-nova-west.aspx

Stryd y Cei, Y Rhyl – https://www.denbighshire.gov.uk/en/parking-roads-and-travel/parking-and-permits/council-car-parks/rhyl-quay-street.aspx

Promenâd, Y Rhyl (parcio ar y stryd) – https://www.denbighshire.gov.uk/en/parking-roads-and-travel/parking-and-permits/council-car-parks/rhyl-promenade.aspx

Twr Awyr Y Rhyl – https://www.denbighshire.gov.uk/en/parking-roads-and-travel/parking-and-permits/council-car-parks/rhyl-sky-tower.aspx

Maes Parcio Canolog Y Rhyl – https://www.denbighshire.gov.uk/en/parking-roads-and-travel/parking-and-permits/council-car-parks/rhyl-central.aspx

East Parade (wrth ymyl Canolfan Syrffio Barcud) Y Rhyl – https://www.denbighshire.gov.uk/en/parking-roads-and-travel/parking-and-permits/council-car-parks/rhyl-east-parade.aspx

Pafiliwn Theatr y Rhyl – https://www.denbighshire.gov.uk/en/parking-roads-and-travel/parking-and-permits/council-car-parks/rhyl-pavilion.aspx

Ysbyty Alex Hospital (maes parcio cefn) – Marine Drive, Y Rhyl, LL18 3AS

Canolfan Rhosyn Gwyn, Y Rhyl – http://www.whiterosecentre.com/facilities/maes parcio yn cau 7pm bob nos 

Meusydd Parcio Canolog Tref y Rhyl:

Morley Road – https://www.denbighshire.gov.uk/en/parking-roads-and-travel/parking-and-permits/council-car-parks/rhyl-morley-road.aspx

West Kinmel St – https://www.denbighshire.gov.uk/en/parking-roads-and-travel/parking-and-permits/council-car-parks/rhyl-west-kinmel-street.aspx

Gyrfaoedd gyda Hamdden Sir Ddinbych

Cliciwch isod i weld pa swyddi gwag sydd gennym ar y funud

Rhagor o wybodaeth

Gadewch i ni gymdeithasu