
Newidiwch eich profiad o feicio dan do yn llwyr gyda Stiwdio 180! Mae’n bryd ffarwelio â’ch dosbarthiadau beicio arferol a pharatoi am brofiad beicio dan do rhyngweithiol heb ei debyg, yn dod i Glwb Dinbych yn fuan!🤩


Cewch eich rhyfeddu wrth i’n technoleg ymgolli 180 gradd fynd â’ch sesiynau ymarfer corff chi i’r lefel nesaf!
Yn dilyn llwyddiant enfawr Stiwdio 360 yng Nghlwb y Rhyl, rydym ni’n ymuno â Future Studios i ddod â’r profiad rhyngweithiol hwn i Glwb Dinbych. Bydd Stiwdio 180 yn chwyldroi ein rhaglen o ddosbarthiadau ac yn cynnig man hyfforddi unigryw o’r radd flaenaf! Felly beth am fynd â’ch profiad beicio dan do i’r lefel nesaf drwy wal ryngweithiol, sy’n cynnig profiad ar gyfer antur ac archwilio ac sy’n rhoi cyfle i chi ddefnyddio beiciau ac offer Technogym o’r radd flaenaf.

