Haf o Hwyl 2022

gyda Cymunedau Bywiog

Ardal Chwarae
Bikeability

Mae Hamdden Sir Ddinbych yn rhoi cannoedd o weithgareddau am ddim i deuluoedd yr haf hwn i gaddw’n heini a chael hwyl mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru.

Yn dilyn Gaeaf o Les llwyddiannus, mae’r Haf o Hwyl yn cychwyn y mis hwn, ar draws y sir gyda thocynnau am ddim i weithgareddau haf Hamdden Sir Ddinbych.

Ardal Chwarae

Mae Ardal Chwarae yn wersyll aml-chwaraeon ar gyfer plant 6-11 oed. Mae’n ffordd wych o gael hwyl, cwrdd â ffrindiau newydd a rhoi cynnig ar rai chwaraeon a gweithgareddau nad ydych efallai wedi rhoi cynnig arnynt o’r blaen.

Mae gwersylloedd Ardal Chwaraeon Haf o Hwyl 2022 ar gael yn ein canolfannau hamdden yn Ninbych, y Rhyl a Rhuthun, sy’n rhedeg o 8.30am – 4.30pm, AM DDIM i’w mynychu ac yn cynnwys pecyn bwyd AM DDIM i bob plentyn sy’n cymryd rhan!

Ffoniwch y Canolfannau Hamdden isod yn uniongyrchol i archebu lle:

Y Rhyl  01824 712661:   Dydd Llun – Gwener o 25ain Gorffennaf – 26ain Awst
Dinbych 01824 712664:  Pob Dydd Llun, Mercher a Gwener o 25ain Gorffenanf  – 26ain Awst
Rhuthun 01824 712665:  Bob dydd Mawrth a dydd Iau o 26 Gorffennaf – 25 Awst.

Mae pob sesiwn am ddim yn dibynnu ar argaeledd

Bikeability Lefel 3 

Datblygwch eich sgiliau beicio AM DDIM gyda’n tîm Cymunedau Actif yr haf hwn. Bydd Bikeability Lefel 3 yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i gadw’n ddiogel mewn sefyllfaoedd mwy heriol.

Sylwch, er mwyn cwblhau Bikeabiity Lefel 3, rhaid eich bod wedi cwblhau’r hyfforddiant Lefel 1 a 2.

Mae’r cwrs hwn yn 3 awr ac wedi’i gynllunio ar gyfer plant 11 oed a hŷn.

Ar y cwrs byddwch yn dysgu sut i:

  • Reidio ar ffyrdd mwy cymhleth
  • Mabwysiadu’r safle marchogaeth gorau
  • Reidio ar ffyrdd aml-lôn cymhleth
I gael rhagor o wybodaeth neu i archebu lle, cysylltwch ag: ActiveCommunities@denbighshireleisure.co.uk

Useful links:

Gyrfaoedd gyda Hamdden Sir Ddinbych

Cliciwch isod i weld pa swyddi gwag sydd gennym ar y funud

Rhagor o wybodaeth

Gadewch i ni gymdeithasu