Gwersi Nofio DLL
🏊♀️ Nofiwch gyda Hyder! 🌊
Dachi’n barod i fentro a dechrau eich taith nofio? P’un a ydych newydd ddechrau neu’n edrych i berffeithio’ch sgiliau nofio, mae gennym wersi wedi’u teilwra ar gyfer pawb – o blant bach 3 oed i oedolion o bob gallu!
Mae ein hyfforddwyr arbenigol yn cyflwyno gwersi sy’n dilyn rhaglen Dysgu Nofio Nofio Cymru, gan sicrhau amgylchedd hwyliog, diogel a chefnogol i bob oed. Hefyd, rydym yn falch o gynnig ystod o wersi nofio dwyieithog yma yn Sir Ddinbych, gan ei gwneud hi’n haws i bawb fwynhau’r dŵr.
Pam dewis gwersi nofio DLL?
-
Ymunwch ar unrhyw adeg a chael cyfle i fynychu dim llai na 45 o wersi y flwyddyn
-
Traciwch gynnydd nofio eich plentyn trwy ein Porth Nofio ar-lein
-
Nofio cyhoeddus am ddim i’ch plentyn, yn unrhyw un o’n 5 Pwll Nofio yn Sir Ddinbych
-
Cerdyn Hamdden Am Ddim sy’n rhoi hawl i 30% oddi ar weithgareddau eraill y ganolfan, yn unrhyw un o’n 8 Canolfan Hamdden Sir Ddinbych
-
Cymhareb athro/disgybl yn cael ei gadw o dan y lefel a argymhellir, fel bod eich plentyn yn cael y gorau o’i wers
Gwersi Nofio Plant
Mae ein gwersi nofio i blant yn hwyl, a cheisiwn helpu’ch plentyn i deimlo’n gwbl ddiogel boed yn wers gyntaf, ei fenter gyntaf i ddŵr dwfn, neu ei dro cyntaf mewn dosbarth mwy heriol.
Ein nod yw y dylai eich plentyn symud ymlaen trwy ein rhaglen nofio ar ei gyflymder ei hun, ond yn bwysicach fyth, ei fod yn datblygu cariad at fod yn y dŵr sy’n para am oes.
Mae ein holl wersi yn cael eu rhedeg gan hyfforddwyr cymwys sy’n rhedeg yn unol â chanllawiau Nofio Cymru.Gallwch ddysgu sut i nofio mewn grŵp bach.
Asesiad Porth Rhieni:
Asesir plant yn barhaus yn y gwersi gan eu hathro a chofnodir y canlyniadau ar ipods. Cyn gynted â phosibl, ar ôl pob gwers mae cynnydd eich plentyn yn cael ei ddiweddaru ar y system a bydd ar gael trwy Borth Rhieni ar y we.
Ar gael yn:
- Canolfan Hamdden Huw Jones Corwen
- Rhuthun
- Dinbych
- Y Rhyl
- NOVA
Gwersi Nofio Oedolion
Ysy’r syniad o gwersi nofio yn eich dychryn? Ewch ymlaen – mentrwch.
Os ydych yn oedolyn sy’n dysgu, efallai nad hwyl yw’r ansoddair sy’n dod i’ch meddwl wrth feddwl am nofio, ond yn Hamdden Sir Ddinbych rydym yn meddwl y dylech fwynhau eich gwersi lawn cymaint â’n disgyblion iau. Rydyn ni eisiau i chi edrych ymlaen at eich amser gyda ni, a theimlo’n ymlaciol wrth i chi ddysgu nofio neu wella’ch strociau nofio presennol. Gallwn ddysgu unrhyw un i nofio o’r newydd neu wella’ch nofio i lefel lle rydych chi’n nofiwr cryf a hyderus, yn nofio ar gyfer ffitrwydd.
Ar gael yn:
- Canolfan Hamdden Huw Jones Corwen
- Rhuthun
- Dinbych
- Y Rhyl
- NOVA
Sesiynau Rhieni a Babi / Babannod
Babanod Aqua (sesiwn rhiant a babanod) – Dechreuwch ddosbarthiadau gyda’ch babi o’i enedigaeth!
Pan fyddwch chi’n cyflwyno’ch babi i nofio yn gynnar, mae’n eu paratoi i fod yn nofwyr hyderus yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae ein dosbarthiadau yn eich cynnwys chi yn ogystal â’ch plentyn ac yn helpu eich rhai bach i deimlo’n wirioneddol ddiogel wrth iddynt ddod i arfer â bod yn y dŵr. Mae’r hyfforddwyr arbenigol sy’n rhedeg y sesiynau yn gwneud yn siŵr eu bod nhw hefyd yn llawer o hwyl. Rydym yn defnyddio rhaglenni cydnabyddedig ac achrededig fel sail ar gyfer y dosbarthiadau hyn.
Yn ogystal â bod yn gyflwyniad gwych i’r dŵr, mae’r dosbarthiadau hyn hefyd yn ffordd wych i chi gysylltu â’ch plentyn, a chwrdd â rhieni eraill sydd â phlant o oedran tebyg i’ch un chi. Dywed llawer o’n rhieni mai ein dosbarthiadau yw uchafbwynt cymdeithasol eu hwythnos.
Gwersi Nofio Arall:
-
Achub Bywyd
-
Pobl Ifanc gydag Anabledd
-
Babi Dwr
-
Gwersi Nofio Dwys (Ar ddyddiadau dethol mewn lleoliadau dethol ar draws ein safleoedd)