Telerau ac Amodau Cyffredinol Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig ar gyfer Prynu Nwyddau
Mae Telerau ac Amodau a Gorchymyn yr Archeb Prynu (“Cytundeb” ar y cyd) yn berthnasol o ran cytundeb rhwng Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig (“Prynwr”) a’r Gwerthwr (fel y diffinnir isod) mewn perthynas ag archeb prynu neu ddatganiad gwaith, ac yn ychwanegol i’r telerau ac amodau yn yr Archeb (fel y diffinnir isod). Ar wahân i’r telerau ac amodau yn yr Archeb sy’n rheoli, mae’r telerau ac amodau yn y Cytundeb hwn yn rhwymedig rhwng y Prynwr a’r Gwerthwr ac yn disodli a chymryd lle unrhyw delerau ac amodau unrhyw Werthwr neu gytundebau blaenorol ar gyfer y Nwyddau (fel y diffinnir isod) yn y cwmpas. Ni fydd unrhyw ddiwygiad neu addasiad i’r Cytundeb hwn yn rhwymol oni bai y cytunir yn ysgrifenedig ei fod yn yr Archeb rhwng y partïon yn llywodraethu’r trafodion unigol wedi’u cynnwys yn y Cytundeb hwn. Oni bai iddo gael ei nodi’n glir o dan y Cytundeb hwn neu yn ôl gofyn cyfraith perthnasol, mae’r Prynwr yn mynegi ei fod yn gwrthod unrhyw ymgais gan y Gwerthwr i ymgorffori unrhyw delerau ac amodau eraill, p’un ai gan y Gwerthwr neu gan yr hyn sy’n arfer diwydiant cyffredin, ac os oes ymgais o’r fath wedi cael ei wneud o ran cynnig, gohebiaeth, gwefan, derbyn y gorchymyn, ymholiadau ynglŷn â chydymffurfiaeth gan barti arall, anfoneb neu ddulliau eraill.
DIFFINIADAU
Mae “Cysylltiedig” yn golygu cyfeiriad at barti, unrhyw gwmni neu endid cyfreithiol arall lle mae: (i) yn rheoli Parti yn uniongyrchol neu anuniongyrchol; neu (ii) yn cael ei reoli, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol gan barti; neu (iii) yn cael ei reoli yn uniongyrchol neu anuniongyrchol gan gwmni neu endid sy’n rheoli parti yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. Ar gyfer y dibenion hyn mae “rheoli” yn golygu’r hawl i weithredu mwy na hanner cant o’r gyfran (50%) bleidleisio neu hawl tebyg o berchnogaeth; ond dim ond cyn belled â bydd rheoli o’r fath yn parhau i fodoli.
Mae “nwyddau” yn golygu nwyddau, deunyddiau, caledwedd, cynnyrch yn cael eu prynu neu i gael eu dosbarthu fel y mynegir yn yr archeb.
Mae “Eiddo Deallusol” (ED) yn golygu pob patent, hawliau i, hawlfraint a hawliau perthnasol, nodau masnach, hawliau i wybodaeth gyfrinachol ac unrhyw hawliau eiddo deallusol ym mhob achos os ydyn nhw wedi cofrestru neu beidio mewn unrhyw ran o’r byd.
Mae “archeb” yn golygu archeb prynu neu ddatganiad gwaith, ffurflen neu ddyfynbris lle bydd archeb yn cael ei osod gan y Prynwr i’r Gwerthwr gan gynnwys y Cytundeb mewn perthynas â dosbarthu Nwyddau gan y Gwerthwr.
Mae “Gwerthiant Treth” yn golygu unrhyw werthiant, defnydd, gwasanaeth, gwerth wedi’i ychwanegu, nwyddau a gwasanaethau, defnydd, proses neu ddyletswyddau neu drethu neu ddyletswyddau tebyg mewn unrhyw wlad sy’n daladwy ar unrhyw swm i’w dalu mewn cysylltiad â phrynu’r Nwyddau.
Mae “gwerthwr” yn golygu unrhyw berson neu gwmni gyda chontract i gyflenwi Nwyddau i’r Prynwr fel sydd wedi’i nodi yn yr Archeb.
RHWYMEDIGAETHAU A GWARANTAU’R GWERTHWR
2.1 Mae’r gwerthwr yn sicrhau bod y Nwyddau yn cyd-fynd â’r disgrifiad yn y Gorchymyn a bod unrhyw elfennau perthnasol; yn newydd (oni bai iddynt gael eu nodi fel arall yn yr Archeb), o ansawdd da a masnachol ac yn addas i’r diben ac yn cael ei gynnig gan y Gwerthwr, neu bod y Gwerthwr yn gadael i’r Prynwr wybod, ac o ganlyniad i hynny bod y Prynwr yn dibynnu ar sgiliau a barn y Gwerthwr.
2.2 Bod y Gwerthwr yn sicrhau ei fod yn gwerthu’r Nwyddau i’r Prynwr yn rhydd o bob hawlrwym a llyfethair a gyda gwarant teitl llawn (oni bai ei fod wedi cael ei nodi’n wahanol yn yr Archeb).
2.3 Mae’r Gwerthwr yn sicrhau ei fod yn defnyddio Nwyddau na fydd yn achosi i’r Prynwr, nac yn arwain y Prynwr at unrhyw dorri neu gamddefnydd o unrhyw hawl Eiddo Deallusol sydd gan unrhyw drydydd parti.
2.4 Bydd y Gwerthwr yn gyfrifol am sicrhau fod yr holl archwiliadau a phrofi o ran y Nwyddau yn cael eu gwneud yn gywir a phriodol. Bydd y Nwyddau yn destun archwiliad terfynol ac yn cael eu derbyn neu eu gwrthod gan y Prynwr ar ôl iddyn nhw gyrraedd eu cyrchfan fel y nodir yn yr Archeb. Os yn dilyn archwiliad neu brawf bod y Prynwr o’r farn nad yw’r Nwyddau yn cydymffurfio neu yn annhebygol o gydymffurfio â rhwymedigaethau’r Gwerthwr o dan y cymal 2 hwn, bydd y Prynwr yn hysbysu’r Gwerthwr a bydd y Gwerthwr yn cymryd y camau adferol angenrheidiol ar unwaith i sicrhau cydymffurfiaeth.
2.5 Bydd y Gwerthwr yn ceisio sicrhau bod y Nwyddau wedi cael eu pacio a’u cadw’n ddiogel mewn ffordd fel eu bod nhw’n cyrraedd eu cyrchfan mewn cyflwr da a bod y Gwerthwr yn anfon y Nwyddau i’r Prynwr yn ystod oriau busnes arferol y Prynwr neu yn ystod amser y cytunir arno fel arall gyda’r Prynwr.
2.6 Mae’r Gwerthwr yn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau perthnasol wrth gyflenwi Nwyddau gan gynnwys heb gyfyngiad i holl gyfreithiau a rheoliadau mewnforio, allforio, amgylcheddol a data preifatrwydd, a (iii) bydd unrhyw Nwyddau neu ddata sy’n cael eu hanfon i’r Prynwr (a) ddim yn cynnwys ffeiliau cuddiedig; (b) ddim yn altro, difrodi neu ddileu unrhyw ddata neu raglenni cyfrifiadurol heb reolaeth person sy’n gweithredu’r offer cyfrifiadurol y mae’n bodoli arno; (c) ddim yn cynnwys allwedd, clo nod, amser traul, dyfais sgramblo, neu swyddogaeth arall, wedi ei weithredu yn electronig, mecanyddol neu unrhyw ddull arall sy’n cyfyngu ar y defnydd neu fynediad i unrhyw raglenni neu ddata; ac (d) ddim yn cynnwys cod niweidiol.
2.7 Gall unrhyw gynnyrch trydydd parti wedi’i werthu gan y Fendwr feddu ar warantau eu hunain a bydd y Fendwr yn pasio i’r Prynwr unrhyw, a phob gwarant i’r graddau eithaf. Mae ymarfer gwarant o’r fath yn cael ei wneud yn uniongyrchol rhwng y Fendwr a’r darparwr trydydd parti.
2.8 Mewn unrhyw achos lle bydd gwasanaethau cynnal a chadw yn cael eu darparu fel rhan o’r cynnig ar y cyd ar gyfer y Nwyddau, bydd y Gwerthwr yn sicrhau ei fod yn cyflawni pob gwasanaeth cynnal a chadw yn ofalus gan ddefnyddio’r sgiliau sydd eu hangen yn unol â’i ddisgrifiad bresennol (gan gynnwys unrhyw feini prawf cwblhau) wedi’u cynnwys yn y Cytundeb hwn. Mae’r Gwerthwr yn sicrhau hefyd na fydd y gwasanaethau cynnal a chadw yn arwain at dorri-rheolau neu gamddefnydd o unrhyw hawl eiddo deallusol gan unrhyw drydydd parti.
2.9 Mae’r cymal gwarant hwn yn ychwanegol i, ac nid yn eithrio unrhyw warant neu warant gwasanaeth wedi’i nodi yn yr Archeb, wedi’i gynnig gan y Gwerthwr neu wedi’i gydsynio neu ei angen gan gyfraith berthnasol.
GWARANTAU GWNEUTHURWYR
3.1 I’r graddau lle gall budd o unrhyw warantau eu gwneud gan y gwneuthurwr neu gyn-werthwr o’r Nwyddau i’r Gwerthwr gael eu pennu i’r Prynwr, bydd y Gwerthwr yn eu pennu nhw i’r Prynwr.
3.2 Nes bod penodiad o’r fath, bydd y Gwerthwr yn cydweithio gyda’r Prynwr trwy ddilyn trefniadau rhesymol i ddarparu’r Prynwr â’r budd o warantau neu gyflwr o’r fath gan gynnwys gorfodi ar gost a budd i’r Prynwr.
DOSBARTHU, ARCHWILIO A DERBYN
4.1 Mae amser yn hanfodol ar gyfer yr Archeb. Cedwir yn llym at yr amser a nodir ar gyfer dosbarthu’r Nwyddau. Os na fydd y Nwyddau yn cael eu dosbarthu ar amser, neu ddim yn cydymffurfio â’r broses wedi’i nodi yng nghymal 2, yna heb gyfyngu o gwbl ar ei hawliau neu unioni, ac yn dibynnu os ydyw wedi derbyn y Nwyddau neu beidio, gall y Prynwr ymarfer unrhyw un o’r camau unioni canlynol:
(a) canslo’r Archeb heb gosb i’r Prynwr;
(b) gwrthod y Nwyddau (yn gyfan gwbl neu’n rhannol) a dychwelyd y Nwyddau i’r Gwerthwr ar gost y Gwerthwr;
(c) disgwyl i’r Gwerthwr drwsio neu newid y Nwyddau a wrthodwyd, neu i roi ad-daliad llawn o bris y Nwyddau a wrthodwyd (os wedi talu amdanyn nhw’n barod);
(d) hawlio am unrhyw gostau ychwanegol i’r Prynwr a briodolir i’r Gwerthwr oherwydd ei fethiant i ddosbarthu’r Nwyddau ar y dyddiad disgwyliedig.
4.2 Mae’n rhaid i’r Gwerthwr gasglu’r Nwyddau a wrthodwyd o fewn cyfnod rhesymol ar ôl cael ei hysbysu o benderfyniad y Prynwr. Rhaid pecynnu, marcio a chludo’r holl Nwyddau fel y dynodir yn yr Archeb, ac os na nodir hynny, i wneud hynny mewn modd digonol ac addas yn gyson ag ymarfer y diwydiant.
4.3 Bydd y Gwerthwr yn gyfrifol am sicrhau fod yr holl archwiliadau a phrofi o ran y Nwyddau yn cael eu gwneud yn gywir a phriodol. Bydd y Nwyddau yn destun archwiliad terfynol ac yn cael eu derbyn neu eu gwrthod gan y Prynwr ar ôl iddyn nhw gyrraedd eu cyrchfan fel y nodir yn yr Archeb.
4.4. Bydd unrhyw wasanaethau cynnal a chadw yn destun derbyn yn ysgrifenedig gan y Prynwr ar ddisgresiwn ei hun. Dylai’r Prynwr fynd i’r afael â datrys unrhyw wasanaethau cynnal a chadw sydd ddim yn cael eu derbyn gan y Prynwr, a hynny heb unrhyw gost i’r Prynwr o fewn 14 diwrnod calendr o hysbysiad gan y Prynwr ar yr achos.
4.5 Mewn achos o Nwyddau sydd wedi’u dosbarthu gan y Gwerthwr sydd ddim yn cydymffurfio â’r Archeb, p’un ai fod y rheswm o ran safon neu nifer, neu fesuriad sy’n cael ei weld i fod ddim yn addas i’r diben sydd ei angen ar y Prynwr, bydd yna gyda’r hawl i wrthod nwyddau o’r fath o fewn amser rhesymol o ran y cyfnod dosbarthu ac archwilio ac i brynu Nwyddau o rywle arall ac i hawlio unrhyw gostau ychwanegol yn sgil hyn heb ragfarn i unrhyw hawl arall sydd gan y Prynwr o bosib yn erbyn y Gwerthwr. Fel y gwelir yn adran 4 uchod, bydd unrhyw daliadau sydd wedi cael eu gwneud gan y Prynwr ddim yn rhagfarnu ar hawl y Prynwr i’w gwrthod. Dydi derbyn unrhyw ran o’r Archeb ddim yn gorfodi’r Prynwr i dderbyn archebion yn y dyfodol o Nwyddau sydd ddim yn cydymffurfio, nac yn eu hamddifadu o’r hawl i ddychwelyd Nwyddau sydd ddim yn cydymffurfio. Dewis y Prynwr yw canslo’r Archeb am Nwyddau a wrthodwyd, i gael eu harian yn ôl, neu i gael y Gwerthwr i drwsio neu newid Nwyddau o’r fath heb godi tâl ac yn ddi-oed. Bydd gwerthwyr yn gyfrifol am yr holl dreuliau a wynebir gan y Prynwr i ddychwelyd y Nwyddau a wrthodwyd.
PRIS A THALU
5.1 Pris y Nwyddau yw’r pris wedi’i nodi ar yr Archeb. Mae’n rhaid i’r Gwerthwr atodi’r derbynneb cydnabyddedig a chopi o’r Archeb i’r anfoneb neu ddatganiad bilio ac i anfon ymlaen yr holl ddogfennau at Adran Gyllid/Cyfrifyddu y Prynwr ar gyfer prosesu’r taliad. Oni bai y nodir fel arall yn yr Archeb, bydd y Prynwr yn talu’r holl anfonebau/symiau wedi’u bilio sy’n ddyledus i’r Gwerthwr o fewn tri deg (30) diwrnod calendr ar ôl derbyn anfoneb neu ddatganiad bilio, ac eithrio unrhyw symiau wedi’u dadlau gan y Prynwr. Mae’n rhaid i’r Gwerthwr gyflwyno derbynneb swyddogol fel tystiolaeth o daliad gan y Prynwr. Nid oes rhwymedigaeth ar y Prynwr i dalu unrhyw anfoneb/datganiad bilio wedi’i gyflwyno fwy na nawdeg (90) diwrnod calendr ar ôl cyflenwi’r holl Nwyddau wedi’u nodi yn yr Archeb.
5.2 Ni fydd y taliad gan y Prynwr o unrhyw swm (sy’n cael ei ddadlau neu beidio) yn golygu bod y Nwyddau wedi cael eu derbyn neu wedi derbyn unrhyw atebolrwydd neu rwymedigaeth i wneud y taliad hwnnw. Efallai bydd y Prynwr yn didynnu’r symiau canlynol o arian sy’n ddyledus neu ar fin dod yn ddyledus i’r Gwerthwr (yn ogystal â Threth Gwerthiant, os o gwbl, mewn perthynas â’r didyniadau sy’n daladwy):
(a) holl ddyledion ac arian sy’n ddyledus gan y Gwerthwr i’r Prynwr sy’n codi, neu sy’n gysylltiedig â’r Archeb hwn; a’r
(b) holl rwymedigaethau y bydd y Prynwr o bosib wedi’u prynu, dioddef neu mynd i gostau a lle mae’r Gwerthwr yn atebol i dalu neu ad-dalu’r Prynwr.
NEWID
Mae’r Prynwr yn cadw’r hawl ar unrhyw adeg i wneud newidiadau i’r Archeb neu unrhyw ran ohono cyn cyflwyno rhybudd ysgrifenedig i’r Gwerthwr. Nid cyfrifoldeb y Prynwr yw newid neu addasu eitemau, manylion, telerau, amodau a phrisiau sy’n ymddangos ar yr Archeb oni bai bod y Prynwr a’r Gwerthwr wedi cytuno ar hynny’n ysgrifenedig.
TROSGLWYDDO TEITL A RISG
Mae eiddo neu deitl, a’r risg yn y Nwyddau yn parhau i fod yn nwylo’r Gwerthwr nes eu bod nhw wedi cael eu dosbarthu i bwynt wedi’i ddynodi yn yr Archeb a’i dderbyn gan y Prynwr drwy arwyddo archeb dosbarthu. Ni ddylai trosglwyddo eiddo neu deitl i’r Nwyddau effeithio ar eich hawl i wrthod y Nwyddau.
INDEMNIAD A CHYFYNGIAD AR ATEBOLRWYDD
8.1 Bydd y Gwerthwr yn sicrhau indemniad y Prynwr yn erbyn holl atebolrwydd, costau, treuliau, iawndal a cholledion (gan gynnwys ond ddim yn gyfyngedig i unrhyw golledion uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol, colled mewn elw, colli enw da a holl ddiddordebau, buddion, cosbau a chostau cyfreithiol (wedi’u cyfrifo ar sail indemniad llawn) a holl gostau a threuliau proffesiynol eraill rhesymol) y mae’r Prynwr wedi’i golli neu fynd i ddyled o’i herwydd neu mewn cysylltiad ag unrhyw hawliadau a wnaed yn erbyn y Prynwr ar gyfer torri hawliadau eiddo deallusol trydydd parti (yn go wir neu’n honedig) sydd wedi deillio neu mewn cysylltiad â chyflenwi neu defnyddio’r Nwyddau, i’r fath raddau bod yr hawliad yn priodoli i weithredoedd neu hepgoriadau’r Gwerthwr, ei weithwyr, asiantiaid neu is-gontractwyr.
8.2 I’r graddau a ganiateir gan gyfraith berthnasol, ni fydd y Prynwr mewn unrhyw sefyllfa yn atebol am golli refeniw, elw, ewyllys da, neu arbedion disgwyliedig, iawndal achlysurol, anuniongyrchol, canlyniadol, arbennig (gan gynnwys iawndal enwebu ac enghreifftiol), moesol neu gosbol. Nid mewn unrhyw achos y dylai atebolrwydd y Prynwr i’r Gwerthwr ragori ar gyfansymiau sydd wedi’u talu gan y Prynwr i’r Gwerthwr trwy hyn ar wahân i mewn achos o dwyll neu gamymddwyn bwriadol, anaf personol neu farwolaeth.
8.3 Mae’r Gwerthwr yn cytuno i indemnio a chynnal y Prynwr rhag unrhyw ddiffyg (gan gynnwys cosbau a buddion) sy’n berthnasol i unrhyw drethi neu ardoll y llywodraeth, gan gynnwys ond ddim yn gyfyngedig i Dreth Gwerthu, sydd, yn ôl y gyfraith, yn gyfrifoldeb y Gwerthwr ac i ad-dalu’r Prynwr ar gyfer yr holl ffioedd cyfrifyddu a ffioedd a threuliau cwnsela sydd wedi codi mewn cysylltiad ag asesu ddiffyg o’r fath.
8.4 Bydd y cymal hwn yn parhau os terfynir y Cytundeb hwn.
TERFYNU
9.1 Heb gyfyngu ar ei hawliau neu ddatrysiadau eraill, bydd y naill barti neu llall yn gallu terfynu’r Cytundeb ar unwaith drwy rhoi rhybudd ysgrifenedig os bydd y naill barti neu llall yn cyflawni toriad materol yn ystod unrhyw gyfnod o’r Cytundeb ac (os oes modd datrys y toriad) ond yn methu â gwneud iawn am y toriad o fewn 30 diwrnod o’r parti yn derbyn rhybudd ysgrifenedig i wneud hynny.
9.2 Gall y Prynwr derfynu’r gwasanaethau cynnal a chadw o dan yr Archeb hwn drwy roi dim llai na trideg (30) diwrnod calendr cyn y rhybudd ysgrifenedig i’r Gwerthwr. Wrth derfynu, nid oes gan y Prynwr unrhyw atebolrwydd neu rwymedigaeth pellach i’r Gwerthwr oni bai i dalu am ffioedd i wasanaethau cynnal a chadw a threuliau a wynebir i unrhyw Archeb perthnasol hyd at ddyddiad y terfyniad. Yn yr achos o Archeb costau sefydlog, bydd y Gwerthwr ond yn atebol i dalu’r swm cyn cyfradd ar gyfer y gwaith a wnaed hyd at ddyddiad y terfyniad.
9.3 Trwy derfynu’r Cytundeb, sut bynnag y digwyddodd hynny, ni fydd yn effeithio ar unrhyw hawliau a datrysiadau’r partïon a gronnwyd ar y cyfnod terfynu, gan gynnwys yr hawl i hawlio iawndal o ran unrhyw doriad i’r Cytundeb hwn a oedd yn bodoli cyn y dyddiad terfynu.
9.4 Bydd unrhyw ddarpariaeth o’r Cytundeb sy’n mynegi neu drwy oblygiad wedi’i fwriadu i ddod iddo neu barhau mewn grym ar neu ar ôl terfynu yn parhau i aros mewn llawn rym ac effaith.
CYFRINACHEDD
10.1 Mae pob parti wedi ymrwymo na fydd unrhyw barti ar unrhyw adeg am gyfnod o saith mlynedd ar ôl terfynu’r Cytundeb hwn yn datgelu gwybodaeth gyfrinachol i unrhyw berson ynglŷn â’r Cytundeb, Archeb, busnes, materion, cwsmeriaid, cleientiaid neu gyflenwyr o’r parti arall neu unrhyw aelod o’r grŵp o gwmnïau y mae’r parti arall yn perthyn iddo.
10.2 Pan fydd data personol yn cael ei rannu gan naill barti neu’r llall, bydd y parti sy’n derbyn yn gorfod cydymffurfio â chyfreithiau diogelu data perthnasol.
10.3 Ni fydd unrhyw barti yn defnyddio unrhyw wybodaeth gyfrinachol parti arall ar gyfer unrhyw ddibenion eraill ar wahân i berfformio ei oblygiadau o dan y Cytundeb hwn.
ASEINIAD
Ni fydd y Gwerthwr yn penodi ei hawliau neu is-gontractio ei ddyletswyddau heb ganiatâd ysgrifenedig y Prynwr. Mae unrhyw aseiniad anawdurdodedig yn cael ei ddileu. Gall y prynwr o bosib aseinio ei hawliau i Aelod heb ganiatâd ysgrifenedig o flaen llaw gan y Gwerthwr.
HEPGOR
Mae hawlildiad ar gyfer unrhyw hawl neu ddull unioni ond yn effeithiol os yw’n cael ei gyflwyno yn ysgrifenedig yn unig ac ni chaiff ei ystyried yn hawlildiad ar gyfer unrhyw dor-rheolau neu ragosodiad dilynol. Bydd oedi neu fethu â’i ymarfer, neu ymarferiad unigol neu rhannol o, unrhyw hawl neu ddatrysiad ddim yn:
(a) ei hepgor, nac unrhyw hawl arall neu ddatrysiad; neu
(b) atal neu gyfyngu’r ymarfer pellach o hynny neu unrhyw hawl neu ddatrysiad arall.
DATGYSYLLTIAD
Os yw unrhyw ddarpariaeth neu ran-ddarpariaeth yn y Cytundeb hwn yn dod yn annilys, yn anghyfreithiol neu’n amhosibl ei orfodi, rhaid ystyried ei addasu i’r graddau angenrheidiol i’w gwneud yn ddilys, yn gyfreithiol ac yn bosib ei orfodi. Os nad yw addasiad o’r fath yn bosibl, rhaid ystyried dileu darpariaeth neu ran-ddarpariaeth berthnasol. Ni fydd unrhyw addasu neu ddileu darpariaeth neu ran-ddarpariaeth o dan y cymal hwn yn effeithio ar ddilysrwydd a gorfodadwyedd gweddill y Cytundeb hwn.
HYSBYSIAD
Bydd yr holl hysbysiadau trwy hyn yn cael eu gwneud yn ysgrifenedig ac yn cael eu cyflwyno wrth gael eu hanfon drwy bost ardystiedig neu gofrestredig, i gyfeiriadau’r partïon wedi’u nodi yn yr Archeb hon oni bai fod naill barti neu llall yn mynegi cyfeiriad gwahanol wrth y parti arall ar gyfer cyflwyno rhybudd o’r fath.
CYTUNDEB CYFAN
Mae’r telerau ac amodau y cyfeirir atynt yma yn berthnasol i’r Cytundeb rhwng y Prynwr a’r Gwerthwr i eithrio unrhyw delerau eraill y mae’r Cyflenwr yn ceisio ei orfodi neu ymgorffori, neu sy’n cael eu hawgrymu gan fasnach, cwsmeriaid, arfer neu ddull o weithredu. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, bydd telerau ac amodau wedi’u hargraffu’n barod, eu harwyddo neu stampio gan un ai’r Cyflenwr neu’r Cwsmer ar gyfer beth bynnag reswm yn ystod hyd y Cytundeb yn cael eu gwrthod.
HAWLIAU TRYDYDD PARTI
Ar wahân i Gysylltiadau’r Prynwr, ni fydd gan unrhyw un oni bai eu bod nhw’n barti i’r Cytundeb hwn, yr hawl i orfodi unrhyw un o’i delerau.
TRETHI
17.1 Mae’r holl symiau’n daladwy mewn cysylltiad â Phrynu Nwyddau yn cael eu mynegi’n unigryw o Drethi Gwerthiant oni bai bod y Prynwr yn methu adennill y Trethi Gwerthiant. Os codir tâl, bydd y Trethi Gwerthiant y gellir eu hadennill gan y Prynwr yn daladwy yn ogystal â’r Prynwr o ran y modd a’r gyfradd sydd ei angen gan gyfraith neu reoliad perthnasol, ar yr amod nad oes raid i’r Prynwr dalu unrhyw gyfanswm o ran Trethi Gwerthiant i’r Gwerthwr, os yw’r Prynwr yn gallu eu hadennill neu beidio, oni bai a nes bod y Gwerthwr yn cyflwyno anfoneb (i) yn cydymffurfio â rheoliadau o’r fath y mae’r awdurdod yn gyfrifol am gasglu Trethi Gwerthiant o bosib yn ei nodi, (ii) wedi’i gyfeirio at endid cyfreithiol y Prynwr wedi’i grybwyll yn yr Archeb ac (iii) ar Drethi Gwerthiant o’r fath sydd wedi’u cofnodi ar wahân.
17.2 Bydd unrhyw dreth sy’n cael ei gelu ac angen ei dynnu o unrhyw daliad gan Brynwr i Werthwr ar gyfer Prynu’r Nwyddau yn cael ei dynnu gan y Prynwr o bris y Nwyddau.
CYFRAITH LYWODRAETHU AC AWDURDODAETH
18.1 Bydd y Cytundeb hwn yn cael ei lywodraethu’n unigryw gan gyfreithiau unigryw o holl, ac ar gyfer holl anghydfodau sy’n berthnasol i’r Cytundeb ac yn cael eu datrys yn gyfan gwbl yng (i) Nghymru a Lloegr a’i lywodraethu gan gyfraith Lloegr os bydd swyddfa cofrestredig y Gwerthwr wedi’i leoli yn Ewrop, Y Dwyrain Canol, rhanbarth Affrica (EMEA); (ii) Singapore os yw swyddfa cofrestredig y Gwerthwr wedi’i leoli yn rhanbarth Asia a’r Môr Tawel; neu (iii) Talaith Efrog Newydd, UDA os yw swyddfa cofrestredig y Gwerthwr wedi’i leoli yn rhanbarth yr Americas.
18.2 Bydd yr holl anghydfodau yn cael eu datrys yn debyg o dan y wlad gyfatebol o’r gyfraith berthnasol.
GWRTH-LYGREDIGAETH AC ATAL LLWGRWOBRWYO
Bydd y Gwerthwr bob amser yn cydymffurfio â’r holl gyfreithiau a rheoliadau perthnasol.