Cynllun Grant Cymunedol HSDdCyf

beth yw e?
pwy gall ymgeisio?
cyllid ar gael
amserlen
sut i ymgeisio
ffurflen gais

Beth yw Cronfa Grantiau Cymunedol Hamdden Sir Ddinbych?

Bydd Cynllun Grantiau Cymunedol Hamdden Sir Ddinbych yn fodd i sefydliadau bach fel clybiau chwaraeon lleol a grwpiau celfyddydol i ymgeisio am gyllid i ariannu celfyddydau lleol, gweithgareddau diwylliannol a chreadigol a chyfleusterau chwaraeon i gynnal twrnameintiau a thyfu timau a chynghreiriau newydd.

Mae’r grant yn cyd-fynd â blaenoriaeth SPF 25/26 Cymunedau a Lle, thema Cymunedau Iach, Diogel a Chynhwysol, ac is-thema Iach: Gwella iechyd a lles. Drwy roi cyfle i glybiau a sefydliadau lleol wneud cais am gyllid cyfalaf i gefnogi’r themâu uchod, mae’n golygu y bydd mwy o weithgareddau’n digwydd mewn cyfleusterau lleol gwell. Amcan darparu’r cynllun grant cymunedol hwn yw cefnogi cryfhau ein gwead cymdeithasol a’n hymdeimlad o falchder a pherthyn lleol a bydd ganddo fanteision tymor byr a thymor hwy.

Bydd y cynllun Grantiau Cymunedol ar gael i’r holl glybiau a sefydliadau cymwys yn Sir Ddinbych ond byddwn yn rhoi sylw penodol i sicrhau y cefnogir ardaloedd difreintiedig. Anogir clybiau a sefydliadau i gynnig prosiectau sy’n cefnogi grwpiau lleiafrifol. Mae clybiau a sefydliadau a dderbyniodd gyllid gan DLL yn y rowndiau diwethaf yn dal gallu gwneud cais, fodd bynnag, os bydd gormod o bobl yn derbyn y grant, rhoddir blaenoriaeth i glybiau a sefydliadau newydd.

CYFALAF Gellir defnyddio cyllid cyfalaf i brynu asedau mawr, naill ai’n newydd neu’n waith adnewyddu sylweddol ar asedau presennol. Disgwylir i’r rhain fod â “budd cymunedol ehangach” a bod ganddynt hyd oes ddisgwyliedig o 5 mlynedd o leiaf. Er enghraifft, byddai goliau pêl-droed mawr gwerth £2000 yn gyfalaf.

Pwy gall ymgeisio?

Pwy sy’n gymwys i ymgeisio:

  • Grwpiau cymunedol a gwirfoddol
  • Clybiau chwaraeon neu fudiadau cymunedol dielw
  • Cynghorau Tref a Chymuned
  • Elusennau sy’n darparu gwasanaethau lleol a chefnogaeth (gan gynnwys grwpiau mewn lifrai)
  • Ysgolion a sefydliadau addysgol

I fod yn gymwys mae’n rhaid ichi ddangos sut fydd y prosiect yn hybu un o amcanion y Gronfa Ffyniant Gyffredin:

  • Cymunedau Iach, Diogel a Chynhwysol
  • Gwella iechyd a lles

Bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd fod â chyfansoddiad ysgrifenedig, set o reolau neu ddogfen lywodraethu a bydd yn rhaid iddo fod â chyfrif banc neu gymdeithas adeiladu gydag o leiaf dau o lofnodwyr.

Nid yw’r cyllid ar gael i:

  • Sefydliadau masnachol a chlybiau a chyfleusterau chwaraeon ag aelodaeth breifat.

Ni ddyfernir cyllid ar gyfer:

  • Prosiect na fydd ond un unigolyn yn elwa arno
  • Ôl-ariannu gwaith a gyflawnwyd eisoes
  • Prosiectau a gynhelir y tu hwnt i ffiniau Sir Ddinbych
  • Recriwtio staff ar gontractau
  • Lifrai/dillad

Am faint allaf wneud cais?

Gallwch ymgeisio am grant CYFALAF gwerth rhwng £2,000 a £15,000.

Sylwer bod disgwyl i nifer y grantiau mawr a ddyfernir fod yn sylweddol llai na’r gweddill a bydd mwy o graffu arnynt.

  Cyfalaf  
25/26

£154,000 Cyfanswm

£
     

Graddfeydd Amser

Yn dechrau ddydd Llun 30 Mehefin a dod i ben ar 28 Gorffennaf 2025

Bydd panel grantiau annibynnol yn asesu’ch cais ynghyd â’r rhai eraill ac yn dethol y ceisiadau cryfaf. Cewch eich hysbysu o ganlyniad eich cais cyn pen 6-8 wythnos ar ôl y terfyn amser ar gyfer ceisiadau. Os bydd hynny’n newid oherwydd nifer y ceisiadau neu’u cymhlethdod, fe rown wybod ichi. Os bydd arnom angen gofyn am fwy o wybodaeth ar unrhyw adeg neu gadarnhau manylion yn eich cais, fe gysylltwn â chi.

Sut i Ymgeisio

Gallwch wneud cais trwy lawrlwytho’r ffurflen gais oddi ar ein gwefan. Bydd angen dychwelyd y ffurflen wedyn i activecommunities@denbighshireleisure.co.uk neu drwy’r post i’r Tîm Cymunedau Bywiog, Hamdden Sir Ddinbych, 8-11 Trem y Dyffryn, Stad Ddiwydiannol Colomendy, Dinbych LL16 5TX.

Cadarnhewch yn gyntaf bod eich sefydliad a’r prosiect yn gymwys.

Atebwch bob un o’r cwestiynau ar y ffurflen gais.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg, ac ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

amodau a thelerau
ffurflen gais

Beth sy’n digwydd ar ôl gwneud cais?

Anfonir e-bost at bob ymgeisydd llwyddiannus gyda llythyr cynnig ac Amodau a Thelerau. Hysbysir

ymgeiswyr aflwyddiannus drwy e-bost hefyd.

Mae’n rhaid gwario’r holl gyllid erbyn 31 Mawrth 2026 fan bellaf yn ddieithriad.

Disgyliwn y bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn darparu gwybodaeth am y datblygiadau diweddaraf yn rheolaidd.

Bydd yn rhaid hefyd i ymgeiswyr llwyddiannus lunio adroddiad Diwedd y Grant ac

fe gewch dempled ar gyfer hwnnw wrth i gyfnod y grant ddirwyn i ben.

Sut i gysylltu â ni

Anfonwch unrhyw gwestiynau i cymunedaubywiog@hamddensirddinbych.co.uk a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.

‘Ariennir y prosiect hwn gan lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.’
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog o agenda Lefelu i Fyny llywodraeth y DU ac mae’n darparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder yn ei lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU, gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau. Am ragor o wybodaeth, ewch i:

https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus

I gael rhagor o wybodaeth am brosiectau eraill Cronfa Ffyniant a Rennir Sir Ddinbych, ewch i

UK Shared Prosperity Fund | Denbighshire County Council

Gyrfaoedd gyda Hamdden Sir Ddinbych

Cliciwch isod i weld pa swyddi gwag sydd gennym ar y funud

Rhagor o wybodaeth

Gadewch i ni gymdeithasu