Eich Adborth

Eich Adborth:

Rydym yn croesawu eich adborth am ein cyfleusterau a’r gwasanaeth rydych wedi’i dderbyn gan Hamdden Sir Ddinbych Cyf. Rydym eisiau clywed gan ein cwsmeriaid, a byddwn yn defnyddio eich sylwadau i’n helpu ni i wella. Isod fe welwch fanylion am sut i roi eich adborth a beth fydd yn digwydd pan fyddwch yn cysylltu â ni i’n canmol, i wneud awgrymiadau neu i gwyno.

E-bost leisure@denbighshireleisure.co.uk
Gwefanwww.denbighshireleisure.co.uk
CyfeiriadHamdden Sir Ddinbych Cyf.
8-11 Trem y Dyffryn
Stad Ddiwydiannol Colomendy
Dinbych LL16 5TX
Ymweld â ni Canolfannau Hamdden y Rhyl, Prestatyn, Llanelwy, Dinbych, Rhuthun, Corwen a Llangollen, Nova, SC2, Theatr y Pafiliwn, Bwyty 1891, Canolfan Bowlio Gogledd Cymru, Canolfan Grefftau Rhuthun, Café R, Pafiliwn Llangollen, Neuadd Tref y Rhyl
Cyfryngau cymdeithasolwww.facebook.com/Hamddenleisure
www.twitter.com
@Hsirddinbych @denbighshireL

Canmoliaeth, Awgrymiadau a Chwynion:

Byddwn yn ymdrin ag adborth yn agored ac yn deg ac yn ei ddefnyddio i wella’n gwasanaeth a’n cyfleusterau ble bo modd.

Gellir trin rhai mathau o adborth fel cyfle i wella neu gywiro problem (er enghraifft, os ydych yn adrodd am offer diffygiol mewn campfa am y tro cyntaf), yn hytrach na chŵyn. Ond, os nad ydych yn fodlon gyda’n hymateb, mae croeso i chi symud ymlaen i wneud cwyn.

Rydym hefyd yn falch o dderbyn adborth cadarnhaol a chanmoliaeth pan fyddwn ni wedi gwneud rhywbeth yn dda. Bydd unrhyw aelod o staff sy’n derbyn canmoliaeth yn cael gwybod ac yn cael cydnabyddiaeth am eu hymdrechion.

Oes yna gyfyngiad amser er mwyn gwneud cwyn?

Bydd yn ein helpu ni i gael y canlyniad cywir os fyddwch chi’n rhoi gwybod i ni am unrhyw bryderon cyn gynted â phosibl. Fyddwn ni ddim ond yn gallu ymchwilio i’ch pryderon os fyddwch chi’n dweud wrthym o fewn chwe mis am unrhyw ddigwyddiad / mater yr ydych am gwyno amdano.

Fydd fy nghwyn yn gyfrinachol?

Byddwn yn cadw gwybodaeth a roddwch yn ddiogel ac yn gyfrinachol a byddwn yn ei defnyddio yn unol â Deddf Diogelu Data 2018. Mae’r Ddeddf yn rheoleiddio’r ffordd y gallwn ddefnyddio gwybodaeth bersonol. Efallai y bydd angen i ni drafod eich cwyn gydag aelodau staff, ond ni fyddwn yn trafod eich cwyn gyda sefydliad arall, nac yn rhoi gwybodaeth i sefydliad arall y tu allan i Hamdden Sir Ddinbych Cyf a Chyngor Sir Ddinbych neu’r tu allan i’n partneriaid gweithredol heb eich caniatâd.

Sut fyddwn ni’n trin eich cwynion?

Byddwn fel arfer yn ymateb i’ch cwyn yn yr un ffordd ag y gwnaethoch chi gysylltu gyda ni, ond os ydych chi eisiau i ni ymateb mewn ffordd wahanol, rhowch wybod.
Os ydych yn gwneud cwyn ar ran rhywun arall, efallai y bydd arnom angen eu caniatâd er mwyn ein galluogi i’w phrosesu.
Gwyddom y gall gwneud cwyn fod yn anodd weithiau. Os ydych yn dewis peidio â rhoi eich enw i ni wrth gwyno, byddwn yn trin eich cwyn yn unol â’r polisi hwn, ond ni allwn gysylltu â chi gyda’n darganfyddiadau. Byddwn yn trin eich cwyn mewn ffordd agored a gonest fel a ganlyn:

Cam 1 Anffurfiol

Os yn bosibl, mae’n well delio gyda phethau ar unwaith yn hytrach na cheisio eu datrys yn hwyrach. Os oes gennych bryder, dywedwch wrth yr aelod o staff yr ydych yn ymdrin â nhw ac fe fyddan nhw’n ceisio datrys pethau yn y fan a’r lle.

Os teimlwch eich bod am gwyno wrth rywun gwahanol neu aelod o staff mewn swydd uwch, gallwch wneud hynny ond rhaid sylweddoli y bydd angen amser arnynt i ymchwilio. Fe ddywedir wrthych os mai dyma’r sefyllfa a beth fydd yn digwydd nesaf.

Byddwn yn ceisio datrys eich cwyn o fewn 10 diwrnod gwaith. Os fyddwn ni angen amser ychwanegol, fe gysylltwn â chi i roi gwybod ac i ddweud pa bryd y byddwn yn ymateb.

Cam 1 Canlyniad

Efallai y gallwn gynnig ateb syml i’ch cwyn ac fe ofynnwn i chi a ydych yn hapus i dderbyn hyn.

Os gwelwn ein bod wedi gwneud rhywbeth o’i le a bod hynny wedi arwain at eich cwyn, fe ymddiheurwn a dweud wrthych pam ddigwyddodd hyn yn ein barn ni. Byddwn hefyd yn dweud wrthych beth rydyn ni’n bwriadu ei wneud i ddatrys unrhyw broblem a sut wnawn ni atal hyn rhag digwydd eto.

Os ydych chi’n hapus gyda’n hymateb cam 1, byddwn yn cofnodi bod eich cwyn wedi ei datrys.

Os teimlwch na wnaeth ein hymateb fynd i’r afael â rhan o’ch cwyn neu’r gwyn gyfan, gallwch ofyn am symud ymlaen i Gam 2.

*Cam 2 Ffurfiol

Mae’r cam hwn yn y broses yn gofyn am ymchwiliad manylach all gymryd hyd at 20 diwrnod gwaith. Os fyddwn ni angen amser ychwanegol, fe gysylltwn â chi i roi gwybod ac i ddweud pa bryd y byddwn yn ymateb.

Pan fydd yr ymchwiliad wedi ei gwblhau byddwn yn cysylltu â chi gyda’n darganfyddiadau ac yn rhoi gwybod i chi pa gamau fyddwn ni’n eu cymryd.

* Gall cwynion o natur gymhleth neu ddifrifol gael eu hystyried ar gam 2 o’r cychwyn.

Dyma’r cam terfynol o broses adborth Hamdden Sir Ddinbych Cyf. Os teimlwch na chafodd eich cwyn ei thrin yn briodol, gallwch gysylltu â Swyddogion Cyngor Sir Ddinbych sy’n goruchwylio’r cytundeb rhwng y Cyngor a Hamdden Sir Ddinbych Cyf. Fe fyddan nhw’n gallu rhoi gwybod sut i fynd â’ch cwyn ymhellach. Yn yr amgylchiadau hyn, cysylltwch â 01824 712660 i siarad gyda Swyddog Cymorth Busnes.

Gyrfaoedd gyda Hamdden Sir Ddinbych

Cliciwch isod i weld pa swyddi gwag sydd gennym ar y funud

Rhagor o wybodaeth

Gadewch i ni gymdeithasu