Ap MyWellness

Gyda MyWellness, gallwch ddilyn yr holl weithgareddau rydych yn eu gwneud yn y gampfa neu yn yr awyr agored, gan fesur y cilometrau a deithiwyd neu’r calorïau a losgwyd. Bydd pob gweithgarwch corfforol rydych yn cymryd rhan ynddo yn eich galluogi i gasglu ‘MOVE’ i gyrraedd targed wythnosol ac efallai herio eich ffrindiau!

Ap MyWellness

MyWellness yw eich cydymaith ar eich taith i ffitrwydd. Gall eich helpu i gyflawni eich nodau chwaraeon, ffitrwydd ac iechyd, drwy gynnal eich cynlluniau hyfforddiant, dilyn eich cynnydd a chynnig ystod eang o ddewisiadau ymarfer corff lle bynnag rydych yn dewis gwneud ymarfer corff.

Defnyddiwch raglenni a osodwyd gan dîm Hamdden Sir Ddinbych neu greu eich ymarferion bach eich hun bob dydd. Gydag Aelodaeth Campfa Lawn Hamdden Sir Ddinbych, cewch fynediad i’n llyfrgell o ymarferion corff cartref a dosbarthiadau, o ioga i pilates i HIIT, dawns, cryfder neu ymarferion corff yn y dulliau ymladd o bob hyd i weddu eich ffordd o fyw.

Byddwch yn atebol wrth ddilyn pob ymarfer, gan osod nodau “Move” a chysylltu eich hoff ddyfeisiau tracio ffitrwydd.

Bydd y newyddion diweddaraf gan Hamdden Sir Ddinbych ar gael yn uniongyrchol o’ch ap MyWellness, a bydd modd cael gwybodaeth am gynlluniau a datblygiadau cyffrous. 

Ymarfer Corff o Gartref gyda Hamdden Sir Ddinbych

Rydym yn gwybod bod bywyd yn brysur ac mae gwneud amser ar gyfer ymarfer corff rheolaidd yn anodd, felly mae Hamdden Sir Ddinbych am ddod â’r ymarferion i chi! Mae modd i chi gael mynediad at dros 2,000 o ddewisiadau i ymarfer corff o gartref drwy eich ap MyWellness.

  • Rhowch gynnig ar Ymarfer y Dydd i gymell eich hun ac amrywio eich ymarferion.
  • Lluniwch eich ymarferion eich hun ar gyfer y gampfa neu i’w gwneud o gartref o’r llyfrgell gynhwysfawr o ddewisiadau
  • Cymerwch ran yn unrhyw un o’r dosbarthiadau ioga, pilates, i ddawns, cryfder a ffitrwydd i’ch helpu i ofalu am eich lles corfforol a meddyliol unrhyw bryd.

Felly, os ydych chi eisiau ymarfer yn gyflym yn eich amser cinio, neu ychwanegu i’ch ymarferion wythnosol o gysur eich cartref, neu geisio rhywbeth newydd, mae gennym lyfrgell o ymarferion sy’n amrywio o 15 i 60 munud, ac mae gennym rywbeth i hybu eich egni wrth i chi wneud eich gweithgareddau wythnosol.

Ar gael yn syth o’ch ap MyWellness, fel Aelod Campfa Lawn Hamdden Sir Ddinbych, mae mynediad i’r ymarferion hyn yn rhad ac am ddim a gallwch gasglu rhagor o ‘moves’ i’ch cadw ar y trywydd iawn.

Heb lawrlwytho’r ap MyWellness? Lawrlwythwch yr ap am ddim o’r App Store ar eich dyfais a chofrestrwch eich cyfrif, yna ychwanegwch gyfleuster Hamdden Sir Ddinbych. Am ragor o fanylion, cysylltwch â’ch cyfleuster Hamdden Sir Ddinbych lleol neu siaradwch ag aelod o’r tîm ffitrwydd.

#NiYwHamddenSirDdinbych

Gyrfaoedd gyda Hamdden Sir Ddinbych

Cliciwch isod i weld pa swyddi gwag sydd gennym ar y funud

Rhagor o wybodaeth

Gadewch i ni gymdeithasu