Cyhoeddi Bwyty a Bar 1891 ym Mhafiliwn y Rhyl fel un sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Bwyd Cenedlaethol
Mae Bwyty a Bar 1891, yn Theatr Pafiliwn y Rhyl, wedi’i gyhoeddi fel un sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ar gyfer Gwobrau Bwyd Cymru 2024.
Mae’r bwyty eiconig sydd â golygfeydd godidog o’r arfordir wedi cyrraedd y rhestr fer yn rownd derfynol Categori ‘Bwyty Bwyd Cain y Flwyddyn’ yn y gwobrau a gynhelir yng Nghaerdydd yr haf hwn.
Bydd y gwobrau mawreddog hyn yn arddangos y bwytai, bwytai bwyd i fynd, tafarndai, bwytai gwestai, caffis a bistros gorau. Mae Gwobrau Bwyd Cymru yn anrhydeddu’r cyrchfannau coginiol gorau yng Nghymru gan gydnabod gwaith caled ac ymdrechion y rheiny sydd wedi ymrwymo i ddarparu’r cynnyrch mwyaf ffres a danteithion anhygoel i’r wlad bob amser.
Mae Bwyty a Bar 1891 wedi’i leoli ar lawr cyntaf Theatr Pafiliwn y Rhyl ac mae’n meddu ar olygfeydd godidog o arfordir Gogledd Cymru, gyda Theras awyr agored yn ystod misoedd yr haf, rhaglen ddigwyddiadau gyffrous a’r bwyty i fyny’r grisiau sy’n gweini bwydlen fendigedig ac sy’n enwog am ei ginio dydd Sul gwych, mae gan 1891 rywbeth i bawb.
Mae Bwyty 1891 yn Theatr Pafiliwn y Rhyl, sy’n cael ei redeg gan Hamdden Sir Ddinbych Cyf (DLL), yn erbyn naw o lefydd bwyta gwych eraill, yn cynnwys dau o Gonwy, un o Gorwen a nifer o Dde Cymru.
Hwn fydd y 7fed tro i wobrau o’i fath gael ei gynnal gan Creative Oceanic wedi’i bweru gan Oceanic Events.
Dywedodd llefarydd ar gyfer Gwobrau Bwyd Cymru a gynhelir am y seithfed flwyddyn: “Mae’n anrhydedd i ni dynnu sylw at y sefydliadau a’r busnesau bwyd gorau sydd wedi sefyll allan ymysg y gweddill yn niwydiant bwyd Cymru. Mae’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol eleni yn dangos gwydnwch a chreadigrwydd cogyddion, cynhyrchwyr, gweithwyr a rheolwyr sydd bob amser yn sicrhau bod y bobl leol ac ymwelwyr yn bwyta’n dda. Rydym eisiau llongyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ar eu llwyddiannau ac yn dymuno’n dda iddynt.”
Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Rydym yn falch iawn o 1891, ein bwyty a bar blaenllaw ym Mhafiliwn y Rhyl. Mae’r tîm yn 1891 yn gweithio’n ddiflino i ddarparu’r gwasanaeth a’r profiad gorau i’n cwsmeriaid. Rydym wrth ein boddau o fod wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y gwobrau hyn sy’n dilyn llwyddiant ein Tîm Cysylltiadau Cyhoeddus y gaeaf diwethaf, gwobr cwmni UKActive a dderbynion ar gyfer y Fframwaith Hamdden ym mis Tachwedd a’r gwobrau Cyllid yn gynharach eleni. Mae llwyddiant parhaus ein timau yn profi bod DLL yn arwain y diwydiant ym mhob maes o’r busnes.”