300 o docynnau am ddim i’r Pad Sblasio awyr agored SC2 i drigolion a phobl leol wedi’u ‘gwerthu allan’ mewn llai na 45 munud
Mae parc dŵr SC2 bellach yn barod i agor y Pad Sblasio awyr agored ac mae’n cynnig 300 o docynnau am ddim i bobl leol ar gyfer sesiynau blasu ddydd Gwener hwn.
Gyda chyfrif i lawr i ailagor Pad Sblasio Awyr Agored SC2 ddydd Sadwrn hwn, mae tîm DLL (Hamdden Sir Ddinbych Cyf) yn SC2 wrth eu bodd yn croesawu cwsmeriaid yn ôl a gweld y Pad Sblasio awyr agored yn llawn wynebau hapus unwaith eto!
Mae DLL yn gwahodd pobl leol i fwynhau ychydig oriau yn ardal awyr agored SC2, y Pad Sblasio, am ddim fel ‘blas’ o’r hyn sydd i ddod yr haf hwn, ac fel diolch am eu cefnogaeth yn ystod yr amser y bu’r parc dŵr ar gau ar gyfer atgyweiriadau i’r to. Cafodd dros 600 o docynnau am ddim eu cipio ar-lein mewn llai na thri deg munud ar gyfer y parc dŵr dan do, felly anogir pobl i archebu ar-lein gan y byddant yn mynd ar sail ‘y cyntaf i’r felin’.
Roedd y sesiynau dan do yn llwyddiant ysgubol, gyda thrigolion yn llifo i mewn i fwynhau’r cyfle i gael hwyl, ac yn creu atgofion gyda ffrindiau a theulu. Roedd y digwyddiad agoriadol am ddim hefyd yn cynnwys sesiwn yn benodol ar gyfer pobl ddigartref leol, i gefnogi’r elusen Helping Homeless North Wales.
Mae archebu ar-lein ar gyfer y sesiynau Pad Sblasio awyr agored AM DDIM yn agor ddydd Iau am 3pm ac mae’r tîm yn SC2 methu aros i groesawu pawb ac yn barod i agor y drysau’r penwythnos hwn am haf llawn hwyl!
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Mae pawb yn DLL yn gyffrous iawn i gael y Parc Dŵr yn ôl ar waith, ac allwn ni ddim aros i ailagor ein Pad Sblasio y penwythnos hwn, gyda sesiwn blasu am ddim ddydd Gwener! SC2 yw ein prif atyniad ac mae wedi bod yn gyfnod anodd i bawb yn DLL heb y parc dŵr. Mae’r digwyddiadau blasu i ddangos ein diolchgarwch i’r gymuned leol am eu cefnogaeth ac i roi cipolwg iddynt ar yr hwyl wych sydd o’u blaenau’r haf hwn, roedd yn wych gweld cymaint o bobl yn mwynhau’r parc dŵr eto dros yr wythnos ddiwethaf a nawr allwn ni ddim aros i agor y Pad Sblasio! Mae ein tîm yn SC2 yn gyffrous iawn i groesawu pawb yn ôl ac fel yr addawyd rydym yn fwy ac yn well nag o’r blaen! Fel bob amser, rydym am roi haf o hwyl ac atgofion hapus i ymwelwyr a thrigolion yn SC2, felly archebwch eich ymweliad o 3pm ddydd Iau – allwn ni ddim aros i’ch gweld chi!”
I archebu eich sesiwn o 3pm ddydd Iau, 10 Gorffennaf, defnyddiwch y ddolen hon: https://ecom.roller.app/sc2rhyl/testerday/en/home