DYDDIAD CAU ENWEBU GORFFENNAF 31AIN
Mae’r Gwobrau Cymunedau Bywiog yn dathlu rhagoriaeth chwaraeon a diwylliant Sir Ddinbych. Cynhelir y digwyddiad ym mis Tachwedd 2024 yn Theatr Pafiliwn y Rhyl.
Mae hwn yn ddigwyddiad mawreddog, sy’n dathlu cymuned Sir Ddinbych a’r bobl sy’n byw yma. Bydd y ffocws ar y rhai sydd wedi gwneud gwahaniaeth neu wedi cyflawni rhywbeth mewn chwaraeon neu weithgaredd, y celfyddydau neu yn y gymuned.
Bydd dros 400 o westeion, gan gynnwys trigolion, partneriaid a busnesau lleol yn mynychu’r digwyddiad mawr hwn yn Theatr y Pafiliwn, y Rhyl ochr yn ochr â’r holl enwebeion a’u teuluoedd.
Categorïau Gwobrau
Gwirfoddolwr y Flwyddyn
Gwirfoddolwr unigol, o unrhyw oed, sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i gymuned Sir Ddinbych o fewn amgylchedd chwaraeon neu ddiwylliannol. Bydd y person hwn wedi dangos ymrwymiad eithriadol i weithgaredd di-dâl.
Ysgol Gynradd y Flwyddyn
Ysgol yn Sir Ddinbych sy’n blaenoriaethu cadw’n heini, cyfleoedd chwaraeon a/neu weithgareddau celfyddydau creadigol wrth galon yr ysgol a’r gymuned ac sy’n cydnabod cyfraniad y gweithgareddau hyn at hyrwyddo iechyd lles.
Ysgol Uwchradd y Flwyddyn
Ysgol yn Sir Ddinbych sy’n blaenoriaethu cadw’n heini, cyfleoedd chwaraeon a/neu weithgareddau celfyddydau creadigol wrth galon yr ysgol a’r gymuned ac sy’n cydnabod cyfraniad y gweithgareddau hyn at hyrwyddo iechyd lles.
Hyfforddwr Chwaraeon y Flwyddyn
Hyfforddwr o unrhyw oed yn Sir Ddinbych sydd wedi dangos sgiliau hyfforddi rhagorol ac wedi cyfrannu at gyfleoedd chwaraeon a/neu lwyddiant o lawr gwlad i ragoriaeth.
Clwb Chwaraeon y Flwyddyn
Clwb Cymunedol yn Sir Ddinbych sydd wedi dangos rhagoriaeth mewn rheolaeth, datblygiad a chystadleuaeth ar draws y clwb.
Prosiect Creadigol Cymunedol Gorau
Unrhyw brosiect yn Sir Ddinbych a gyflwynir i gefnogi cydlyniant cymunedol trwy gyfranogiad creadigol mewn unrhyw ffurf gelfyddyd.
Gweithle Gweithgar y Flwyddyn
Busnes lleol yn Sir Ddinbych sydd yn cefnogi lles corfforol a meddyliol eu gweithwyr drwy eu hannog i fod yn heini a/neu greadigol e.e. côr gwaith, clwb gwau, tîm pêl-droed, teithiau cerdded amser cinio.
Ysbrydoliaeth Ifanc
Person ifanc ysbrydoledig 25 oed neu iau (ar 1 Tachwedd 2023) sydd wedi cyfrannu trwy ysgol, cymuned neu’r ddwy i helpu i ddatblygu cyfleoedd chwaraeon neu ddiwylliannol sy’n hybu iechyd meddwl a lles yn Sir Ddinbych.
Gwobr Rhagoriaeth – Person Ifanc
Gwobr i gydnabod person ifanc 25 oed neu iau (ar 1 Tachwedd 2023) sy’n byw yn Sir Ddinbych, sydd wedi arddangos y lefel uchaf o sgil, perfformiad, ymroddiad ac ymrwymiad i’w chwaraeon neu gelfyddyd rhwng Ionawr 2022 a Gorffennaf 2023.
Gwobr Rhagoriaeth – Oedolyn
Gwobr i gydnabod un o drigolion Sir Ddinbych 26 oed a throsodd, sydd wedi arddangos y lefel uchaf o sgil, perfformiad, ymroddiad ac ymrwymiad i’w chwaraeon neu gelfyddyd rhwng Ionawr 2022 a Gorffennaf 2023.
Cyrhaeddiad Oes
Unigolyn sydd wedi gwella’r amgylchedd chwaraeon neu ddiwylliannol yn sylweddol yn Sir Ddinbych am gyfnod parhaus o 15 mlynedd neu fwy.