Polisi Mynediad i Gyfleusterau Hamdden

Mae’r polisi canlynol yn gweithredu er eich diogelwch a’ch mwynhad chi yn ein cyfleusterau hamdden. Mae’r Polisi wedi’i seilio ar ganllawiau cenedlaethol sy’n sicrhau arferion gorau, yn ogystal â chadw at ofynion a deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch.

Ein nod ni yw sicrhau diogelwch a mwynhad cwsmeriaid wrth iddyn nhw ymweld â’n cyfleusterau hamdden. I wneud hyn rydym ni’n gofyn i chi barchu ein polisi, staff, cwsmeriaid eraill a’n hadeilad.

Polisi Mynediad Cyffredinol

  • Dylai pob ymwelydd fynd at y Gwasanaethau Gwesteion ar ôl cyrraedd.
  • Yn ystod eich ymweliad, gwrandewch ar gyfarwyddiadau staff a’u dilyn.
  • Mae’n rhaid rhoi gwybod i aelod o staff am unrhyw ddamweiniau neu ddigwyddiadau ar unwaith.
  • Mae’n rhaid rhoi gwybod am unrhyw ddiffygion i’r adeilad neu offer ac unrhyw lanast ar y llawr.
  • Pan fo modd, dylid annog plant dros 8 oed i newid yn ystafelloedd newid eu rhyw eu hunain.
  • Mae’n rhaid dangos cerdyn hamdden dilys i fod yn gymwys ar gyfer gostyngiadau cerdyn hamdden.
  • Bydd unrhyw unigolion y mae rheolwyr y ganolfan yn penderfynu bod eu hymddygiad yn amhriodol yn gorfod gadael y cyfleuster. Dylid rhoi gwybod i reolwyr y ganolfan ar unwaith am unrhyw ddigwyddiadau o’r math hwn. Byddwn ni’n rhoi gwybod i’r heddlu neu’r tîm diogelu am unrhyw ddigwyddiadau difrifol.
  • Gall achosion difrifol o dorri rheolau arwain at derfynu eich aelodaeth neu eich hawliau mynediad.
  • Cynghorir cwsmeriaid sydd ag unrhyw amheuon ynghylch eu cyflwr corfforol i gael archwiliad meddygol cyn cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol.
  • Ni fydd unigolion sy’n ymddangos eu bod nhw dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau yn cael mynd i’r dŵr/cymryd rhan mewn gweithgareddau.
  • Ni chaniateir ysmygu yn unrhyw un o’n cyfleusterau nac wrth fynedfeydd/allanfeydd. Mae hyn yn cynnwys E-sigaréts/Fêpio.
  • Ni ddylid dod â diodydd alcoholig/cyffuriau neu sylweddau anghyfreithlon eraill i gyfleuster heb ganiatâd ymlaen llaw gan reolwr Hamdden Sir Ddinbych.
  • Ni ddylid defnyddio’r cyfleusterau ar gyfer hyfforddi/Hyfforddiant Personol (am dâl neu’n ddi-dâl) heb gymeradwyaeth ymlaen llaw gan reolwr Hamdden Sir Ddinbych.
  • Mae croeso i gŵn yn SC2, Cwt y Traeth, Teras 1891 a Chaffi R.
  • Cŵn cymorth yn unig a gaiff ddod i mewn i’r cyfleusterau hamdden.
  • Nid yw Hamdden Sir Ddinbych yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ddiogelwch eiddo personol y mae unigolion yn dod â nhw i’r cyfleuster.
  • Cyfrifoldeb y perchennog yw’r eiddo sy’n cael ei storio mewn loceri y mae’r ganolfan yn eu darparu ac ni fydd Hamdden Sir Ddinbych yn atebol am eiddo coll neu ddifrod.
  • Bydd eiddo coll gwerthfawr sy’n cael ei ddarganfod ar y safle yn cael ei gofnodi am uchafswm o 30 diwrnod.
  • Cyfrifoldeb perchnogion yw’r ceir sy’n parcio yn y meysydd parcio neu rywle arall ar y safle a’r holl gynnwys sydd ynddyn nhw ac nid yw Hamdden Sir Ddinbych yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am eiddo coll neu ddifrod.
  • Nid yw Hamdden Sir Ddinbych yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ddamweiniau i gwsmeriaid a all ddigwydd ar y safle, ac eithrio atebolrwydd sy’n deillio o unrhyw esgeulustod gan Hamdden Sir Ddinbych, ei staff neu ei asiantaethau.

Polisi Mynediad i’r Pwll Nofio

Cymarebau Nofwyr:

  • Plant dan 3 oed: 1 Oedolyn : 1 Plentyn gyda neu heb gymhorthion arnofio cymeradwy Neu 1 Oedolyn : 2 Blentyn y mae gan y ddau ohonyn nhw gymhorthion arnofio cymeradwy
  • Plant 3–7 oed: 1 Oedolyn : 2 Blentyn** gyda neu heb gymhorthion arnofio cymeradwy
  • Plentyn dan 3 oed a phlentyn 3-7 oed: 1 Oedolyn : 2 Blentyn gyda neu heb gymhorthion arnofio cymeradwy, fodd bynnag, rydym ni’n cynghori bod gan y plentyn dan 3 oed gymhorthion arnofio.

Mae “cymhorthion arnofio cymeradwy” yn cynnwys rhwymynnau breichiau, fest arnofio neu sedd â strap arni, sy’n bodloni safonau BSEN 13138.

Mae’n rhaid i oedolion sy’n goruchwylio plant dan 8 oed fod yn 16 mlwydd oed o leiaf ac mae’n rhaid iddyn nhw fod gyda’r plant drwy’r adeg, yn y dŵr ac yn yr ystafelloedd newid.

  • Mae’n rhaid gwisgo dillad nofio priodol bob amser, h.y. dim jîns, crysau-T na siorts yn is na’r ben-glin. Os oes gennych chi resymau meddygol, crefyddol neu bersonol dros fod eisiau gwisgo dillad amgen a llac, siaradwch ag aelod o’n tîm, a fydd yn gwirio bod yr hyn yr ydych chi’n ei wisgo yn ddiogel ac yn addas i nofio ynddo. 
  • Ni chaniateir gwisgo masgiau, ffliperi na snorceli yn y pwll yn ystod sesiynau cyhoeddus.
  • Dylai plant dros 8 oed newid yn yr ystafelloedd newid gwrywaidd / benywaidd fel sy’n briodol.
  • Er mwyn sicrhau hylendid ac i wella ansawdd y dŵr, gofynnwn i bob cwsmer gael cawod cyn mynd i mewn i’r pwll.
  • Peidiwch â mynd i nofio os ydych chi’n teimlo’n sâl neu wedi bod yn dioddef o salwch neu ddolur rhydd yn ddiweddar.
  • Mae’n rhaid i nofwyr sy’n gwisgo cewynnau neu ddillad isaf amddiffynnol wisgo cewynnau nofio o dan eu gwisg nofio neu wisg nofio arbennig ar gyfer y diben hwnnw. Gellir prynu cewynnau nofio ar gyfer babanod yn y dderbynfa.
  • Argymhellir bod pob babi sy’n mynd i byllau nofio am y tro cyntaf wedi cael ei set gyntaf o bigiadau a’u bod nhw bob amser yn ddarostyngedig i ganllawiau ymwelydd iechyd.
  • Rhowch wybod i’r achubwr bywyd os oes gennych chi unrhyw salwch neu anabledd a all effeithio ar eich gallu chi i nofio yn ystod eich ymweliad.
  • Mae’n rhaid i grwpiau neu sefydliadau sy’n dod â mwy na phymtheg o nofwyr ar y tro roi rhybudd i ni ymlaen llaw.
  • Gellir defnyddio system bandiau ar gyfer nofwyr i sicrhau bod nifer y nofwyr yn gywir yn ystod cyfnodau prysur.
  • Ni chaniateir unrhyw gwpanau/poteli y gellir eu torri ar ochr y pwll.
  • Dilynwch bob arwydd diogelwch yn y pwll.
  • Peidiwch â thynnu sylw’r achubwyr bywyd.
  • Mae Rheolwr y Ganolfan yn cadw’r hawl i wrthod mynediad neu ddiarddel unigolion os all eu cyflwr neu eu hymddygiad beryglu diogelwch a mwynhad eraill.

Rheolau nofio mewn lonydd

  • Dewiswch y lôn gywir – Cyn i chi fynd i mewn i’r pwll, edrychwch ar gyflymder y nofwyr ym mhob lôn a dewiswch yr un sy’n fwyaf addas ar eich cyfer.
  • Arhoswch eich tro – Rhowch gyfle i nofwyr eraill droi a gwthio oddi ar yr ochr cyn i chi fynd i’r lôn. Rhowch eich coesau yn y dŵr i ddechrau i ddangos i eraill eich bod chi yno. Os yw’r lôn yn glir, mae’n iawn i chi fynd i mewn.
  • Dylech newid lôn os nad yw’r cyflymder yn iawn i chi – Os bydd rhai yn nofio’n gynt neu’n arafach na chi, byddwch yn barod i newid i lôn fwy addas.
  • Dangoswch barch at ofod pobl eraill – Yr hyn sy’n wych am nofio cyhoeddus mewn lonydd yw lefelau sgiliau amrywiol y nofwyr. Parchwch allu eraill bob amser a rhowch ddigon o ofod personol i bawb.
  • Gadewch ddigon o le wrth wthio oddi ar yr ochr – peidiwch â gwthio oddi ar yr ochr yn syth y tu ôl i nofiwr arall. Rhowch o leiaf 5-10 eiliad iddyn nhw nofio i ddechrau. Yn yr un modd, peidiwch â gwthio i ffwrdd o’r ochr yn syth o flaen nofiwr cyflymach.
  • Ewch gyda’r llif – Dilynwch gyfeiriad yr arwyddion bob amser. Mae’n debyg i reolau’r ffordd: nofiwch ar un ochr i fynd i lawr y lôn a’r ochr arall i ddod yn ôl. Mae hyn er mwyn osgoi damweiniau ac anafiadau.
  • Ildiwch i eraill – Os bydd angen i chi orffwys, ewch i gornel y lôn fel y gall nofwyr eraill droi a gwthio oddi ar yr ochr.
  • Mynd heibio i rywun – Os bydd nofiwr am fynd heibio i chi, gadewch iddyn nhw wneud hynny. Os bydd y lôn yn rhy brysur i adael i rywun fynd heibio i chi, gadewch iddyn nhw wneud ar ôl i chi gyrraedd pen arall y pwll.
  • Byddwch yn ofalus – Dylech fynd heibio i rywun arall yn ofalus bob amser. Gofalwch nad ydych chi’n taro i mewn i nofwyr eraill. Peidiwch byth â cheisio nofio dros unrhyw un arall.
  • Cyfarpar – Ni chaniateir defnyddio padlau llaw, esgyll na snorclau yn ein sesiynau lonydd cyhoeddus er diogelwch ac i atal anafiadau. Mae fflotiau a bwiau yn iawn.

Dysgu nofio

  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n barod ar gyfer eich gwers ddwy funud cyn i’r wers ddechrau.
  • Clymwch wallt hir yn ôl.
  • Arhoswch am gyfarwyddiadau eich Hyfforddwr Nofio cyn mynd i mewn i’r dŵr.
  • Os ydych chi dan 8 oed ni chewch fynd i mewn i’r pwll cyn neu ar ôl eich dosbarth heb oruchwyliaeth gan oedolyn yn unol â’r polisi mynediad i’r pwll nofio.
  • Cyfrifoldeb y cwsmer yw rhoi gwybod i’r ganolfan os oes unrhyw gyfranogwyr yn dioddef o broblemau iechyd a allai effeithio ar y wers nofio. Pan fo’n briodol, gellir cynnal Asesiad Risg. Cyfrifoldeb y cwsmer yw sicrhau bod unrhyw feddyginiaeth briodol ar gael bob amser ar gyfer y Cyfranogwyr.
  • Bydd plant dan 5 oed yn cael eu goruchwylio gan riant neu warcheidwad drwy gydol y wers nofio.
  • Mae’n rhaid i Rieni neu Warcheidwaid plant dan 8 oed aros ar y safle drwy gydol y wers nofio.
  • Noder fod angen hyd at 5 munud o amser y wers ar yr Hyfforddwr Nofio i gymryd y gofrestr a diweddaru cynnydd disgyblion ar y porth rhieni.

Polisi Mynediad i’r Ystafell Ffitrwydd

  • Mae ein Hyfforddwyr Ffitrwydd yno i’ch cefnogi chi a’ch helpu chi i hyfforddi’n ddiogel, dilynwch eu harweiniad bob amser.
  • Gofynnwch i aelod o staff am gymorth cyn rhoi tro ar weithgaredd ymarfer corff anghyfarwydd.
  • Rydym ni’n gofyn i bob aelod ac ymwelydd ymddwyn â pharch tuag at gwsmeriaid eraill.  Nid yw Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn goddef ymddygiad sy’n tarfu ar eraill, ac mae gennym ni broses ar waith i fynd i’r afael ag unrhyw ymddygiad yr ystyrir ei fod yn cael effaith negyddol ar gwsmeriaid eraill. 
  • Peidiwch â chamddefnyddio, symud neu newid unrhyw ran o’r offer/amgylchedd ffitrwydd. Dylech roi gwybod i’n staff am unrhyw offer sy’n cael ei gamddefnyddio.
  • Sychwch yr holl offer a’r ategolion yn drylwyr ar ôl eu defnyddio gan ddefnyddio’r weips a ddarperir.
  • Dychwelwch bwysau ac atodiadau ar ôl eu defnyddio.
  • Rhowch wybod am unrhyw offer sydd wedi torri neu am lanast ar y llawr i aelod o staff ar unwaith.
  • Mae’n rhaid i chi gysylltu â hyfforddwr os ydych chi’n teimlo sâl neu os ydych chi’n teimlo eich bod chi ar fin llewygu. Mae’n rhaid i chi hefyd ddweud wrth y tîm os byddwch chi’n cael damwain neu’n datblygu cyflwr meddygol sy’n debygol o effeithio ar eich rhaglen hyfforddi.
  • Rhowch wybod i aelod o staff ar unwaith ynghylch unrhyw broblemau’n ymwneud ag offer. Peidiwch â cheisio datrys unrhyw broblemau eich hun dan unrhyw amgylchiadau.
  • Gwisgwch esgidiau addas (esgidiau chwaraeon) a dillad ymarfer corff/ffitrwydd (dim jîns, dim gwisg ysgol) bob amser wrth wneud ymarfer corff.
  • Dylid tynnu gemwaith rhydd cyn gwneud ymarfer corff.
  • Gwerthfawrogir defnydd priodol o ffonau symudol ar lawr y gampfa.
  • Ac eithrio dŵr potel, ni chaniateir unrhyw fwyd na diodydd yn y gampfa.
  • Cadwch eich bagiau a’ch cotiau yn y loceri neu ar raciau storio dynodedig (os ydynt ar gael).
  • Ni chaniateir gwylwyr yn y gampfa.

Polisi Mynediad i Sesiynau Ymarfer Corff mewn Grŵp

  • Dim ond drwy archebu lle y ceir mynediad. Gall aelodau archebu lle hyd at 7 diwrnod ymlaen llaw, a gall unigolion nad ydynt yn aelodau archebu lle 4 diwrnod ymlaen llaw.
  • Mae’n rhaid gwisgo dillad ac esgidiau addas.
  • Os byddwch chi’n cyrraedd yn hwyr ar gyfer dosbarth yr ydych chi wedi archebu lle ar ei gyfer ymlaen llaw, noder y gellir gwrthod mynediad i chi.
  • Os nad ydych chi’n gallu dod i ddosbarth yr ydych chi wedi archebu lle ar ei gyfer ymlaen llaw, dylech ganslo eich dosbarth ar -lein neu gysylltu â’r safle cyn i’r dosbarth ddechrau er mwyn i rywun arall gael eich lle. 
  • Gall methu â dod i ddosbarth yr ydych chi wedi archebu lle ar ei gyfer ymlaen llaw arwain at dynnu eich breintiau archebu.
  • Os yw offer y stiwdio wedi’i osod cyn i ddefnyddwyr ddod i mewn i’r stiwdio, peidiwch ag aildrefnu unrhyw offer.
  • Ni ellir cadw beiciau a gofod stiwdios ar gyfer ffrindiau a theulu trwy adael tywel neu unrhyw beth arall i nodi nad yw’r beic neu’r gofod stiwdio hwnnw ar gael.
  • Gall yr hyfforddwr ofyn i chi adael y dosbarth os ydych chi’n ymddwyn yn amhriodol.
  • Gadewch y stiwdio yn brydlon ar ôl y dosbarth i sicrhau bod y dosbarth nesaf yn gallu dechrau ar amser.
  • Unigolion sy’n cymryd rhan mewn dosbarthiadau ffitrwydd yn unig a gaiff fod yn y stiwdio.
  • Mewn amgylchiadau nad oes modd eu rhagweld, efallai y bydd angen i’r Ganolfan newid neu hyd yn oed ganslo dosbarth ar fyr rybudd. Fodd bynnag, byddwn ni bob amser yn ceisio rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi.
  • Parchwch ofod personol eraill bob amser a defnyddiwch iaith ac ymddygiad priodol.

Mynediad i bobl anabl

  • Ni chodir tâl mynediad ar ofalwyr y mae’n ofynnol iddyn nhw roi cymorth corfforol a chefnogaeth i ddefnyddiwr gwasanaeth, ond mae’n rhaid iddyn nhw gael eu cofnodi gan y Gwasanaethau Gwesteion.
  • Mae’n rhaid i’r gofalwr aros gyda’r defnyddiwr drwy gydol yr ymweliad.
  • Mae amrywiaeth o offer ar gael i gefnogi pobl ag amrywiaeth o anableddau i newid a chael mynediad i’r pwll nofio.
  • Pan fo teclynnau codi i’r pwll ar gael, rhowch wybod i aelod o’n tîm cyn i chi gyrraedd.
  • Dim ond ein staff sydd wedi’u hyfforddi a gaiff defnyddio teclynnau codi wrth ochr y pwll.

Lluniau a Fideos

  • Ni chaniateir tynnu lluniau (gan gynnwys hunluniau) mewn unrhyw fannau newid, toiledau, neu phan nad yw’r unigolyn/unigolion wedi rhoi eu caniatâd llawn a gwybodus.
  • Ni chaniateir tynnu lluniau masnachol heb ganiatâd ysgrifenedig gan Hamdden Sir Ddinbych ymlaen llaw.
  • Os bydd angen i chi weld cofnod teledu cylch caeëdig, mae’n rhaid cyflwyno ‘Ffurflen Gais gan Unigolion i Weld Gwybodaeth Amdanynt eu Hunain’ i hamdden@hamddensirddinbych.co.uk
  • Mae Hamdden Sir Ddinbych yn cadw’r hawl i ddefnyddio unrhyw ffotograffau neu fideos o unigolion neu grwpiau at ddibenion y wasg neu hyrwyddo. Pan fo’n bosibl, byddwn ni’n gofyn i chi lenwi ffurflen ar gyfer defnyddio llun.

Ardaloedd gweithgareddau

  • Peidiwch â mynd i’r Ardal Gweithgareddau (e.e. Cwrt, Neuadd, Campfa) hyd nes bod unigolion y sesiwn flaenorol wedi gadael.
  • Dylech ganiatáu hyd at 5 munud ar ddechrau eich sesiwn i alluogi’r sesiwn flaenorol adael yr ardal ac i’r offer gael ei osod. 
  • Peidiwch â dringo’r ffensys. Os yw’r ardal dan glo, cysylltwch â Gwasanaethau Gwesteion.
  • Os oes angen i chi ganslo eich lle ar y sesiwn, gwnewch hynny gan roi cymaint o rybudd â phosibl er mwyn i’r Ganolfan roi cyfle i gwsmeriaid eraill ddefnyddio’r  cwrt/neuadd chwaraeon. Bydd cwsmeriaid yn gymwys i gael ad-daliad llawn os oes rhybudd o 24 awr yn cael ei roi.
  • Mae’n rhaid i’r unigolyn a drefnodd roi gwybod i’r Gwasanaethau Gwesteion cyn archebu lle.
  • Mae’n rhaid gwisgo esgidiau a dillad priodol yn ardaloedd gweithgareddau’r ganolfan. Mae’n rhaid gwisgo esgidiau nad ydynt yn marcio yn y neuadd chwaraeon.
  • Peli troed dan do yn unig y gellir eu defnyddio mewn Neuaddau Chwaraeon dynodedig.
  • Dim ond poteli diodydd caeëdig a ganiateir mewn ardaloedd Gweithgareddau.
  • Sylwch ar linellau unrhyw gyrtiau a cherdded o gwmpas y gweithgaredd, gan adael pellter diogel.
  • Ni chaniateir bwyd na gwm cnoi yn yr ardaloedd Gweithgareddau.
  • Mae’r rhaid rhoi gwybod i staff ar unwaith am unrhyw lanast ar y llawr.
  • Mae Hamdden Sir Ddinbych yn cadw’r hawl i archebu cyrtiau ymlaen llaw ar gyfer digwyddiadau a gwaith cynnal a chadw.
  • Unigolion sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau yn y neuadd chwaraeon yn unig a gaiff fod yn yr ardal.

Clybiau

  • Mae’n rhaid i bob clwb sy’n defnyddio cyfleusterau Hamdden Sir Ddinbych gadw at y Polisi Mynediad hwn a thelerau ac amodau trefnu sesiynau mewn bloc https://denbighshireleisure.co.uk/block-bookings-terms-and-conditions-wel/

Polisi trawsryweddol

  • Mae gan bobl draws yr hawl i ddefnyddio cyfleusterau un rhyw yn unol â’u rhywedd cywir. Ar gyfer pobl anneuaidd, gallai hyn olygu defnyddio cyfleusterau hygyrch neu niwtral o ran rhywedd neu ddefnyddio cyfuniad o wahanol gyfleusterau.
  • Mae’n bosibl y gofynnir i bobl draws ddefnyddio cyfleusterau eraill sy’n niwtral o ran rhywedd er mwyn:
  • Diogelu urddas unigolyn.
  • Sicrhau preifatrwydd neu wedduster.
  • Atal trawma.
  • Sicrhau bod anghenion iechyd a diogelwch a/neu ddiogelu yn cael eu bodloni.
  • Bydd unrhyw drefniadau amgen yn gymesur yn seiliedig ar asesiadau risg.
  • Pan fo mannau ‘menywod/dynion yn unig’ yn bodoli yn y Cwmni, mae’r rhain yn agored i bawb sy’n disgrifio eu hunain yn fenywod/dynion, yn cynnwys menywod/dynion traws.

 

Mae Hamdden Sir Ddinbych yn cadw’r hawl, heb rybudd ymlaen llaw, ar unrhyw adeg, i newid neu ddiwygio’r Amodau hyn yn llawn neu’n rhannol.

 

 

Gyrfaoedd gyda Hamdden Sir Ddinbych

Cliciwch isod i weld pa swyddi gwag sydd gennym ar y funud

Rhagor o wybodaeth

Gadewch i ni gymdeithasu