Ailagoriad llwyddiannus y Pad Sblasio awyr agored SC2 wrth i dros 300 o ymwelwyr sblasio am ddim
Roedd penwythnos ailagor y Pad Sblasio yn SC2 yn llwyddiant ysgubol, gyda channoedd o bobl yn mwynhau’r haul a’r ardal sblasio awyr agored dros y penwythnos.
Mwynhaodd dros 2,000 o ymwelwyr y Pad Sblasio awyr agored ar y penwythnos agoriadol, gan gynnwys dros 600 o docynnau am ddim a roddwyd gan DLL i nodi’r ailagoriad.
Ar ôl rhyddhau 300 o docynnau am ddim ar-lein i drigolion lleol brofi Pad Sblasio awyr agored SC2 mewn ‘diwrnod blasu’ cyffrous ddydd Gwener 11eg Gorffennaf, cafodd yr holl docynnau eu cipio mewn llai na 45 munud.
Mwynhaodd 1800 arall heulwen ogoneddus yn y sesiynau Pad Sblasio a werthodd allan ddydd Sadwrn a dydd Sul, a oedd yn cynnwys 300 o leoedd am ddim ar gyfer bobl leol.
Bydd y Pad Sblasio ar agor ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau tan ddiwedd yr haf, gyda sesiynau am ddim ar ôl 5pm bob dydd wedi’u hanelu er lles bobl leol. Gellir archebu sesiynau ar-lein ar www.SC2rhyl.co.uk
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Mae wedi bod yn wych gweld cymaint o bobl yn mwynhau’r Pad Sblasio awyr agored y penwythnos hwn! Rydym wedi cael 18 mis anodd iawn gyda’r parc dŵr ar gau ac ni allwn ddiolch digon i’n cymuned leol am eu cefnogaeth yn ystod yr amser anodd hwn. Mae ein tîm yn SC2 yn gyffrous iawn i fod ar agor ar gyfer y gwyliau ac rydym yn edrych ymlaen at Haf gwych arall yn y Rhyl! Fel yr addawyd, mae SC2 yn ôl yn fwy ac yn well nag o’r blaen, felly allwn ni ddim aros i weld y Pad Sblasio yn llawn wynebau hapus a theuluoedd yn creu atgofion unwaith eto!”