Archebion Bloc

Archebion Bloc


Gall cwsmeriaid archebu mwy nag un sesiwn yn ein cyfleusterau, os ydynt yn dymuno sicrhau’r un slot yn rheolaidd.

Mae’r opsiwn hwn ar gael ar gyfer ein caeau bob tywydd, 3G, neuaddau chwaraeon, stiwdios, campfeydd a chyrtiau sboncen, ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys pêl-droed, pêl-rwyd, badminton a sboncen.

Sut i drefnu Archebion Bloc

Pe baech chi am drefn archebion bloc, llenwch y ffurflen hon, a sicrhewch eich bod wedi darllen ein telerau ac amodau yn llawn cyn ei chyflwyno.

 

Ffurflen Archebion Bloc a Diogelu
Amodau a Thelerau

Archebion Bloc Blaenoriaethol

Cyn dechrau tymor yr hydref, rydym yn cynnig cyfle i bobl sydd wedi trefnu Archebion Bloc eisoes drefnu archebion bloc ar gyfer yr un diwrnod(au) ac amser(oedd) eto ar gyfer y tymor nesaf. Byddwn yn cysylltu â’r unigolion hyn gyda dyddiad cau er mwyn diogelu’r slot, cyn ei gynnig i bobl eraill.

Os ydych chi’n gymwys ar gyfer Archebion Bloc Blaenoriaethol, a’ch bod chi am newid diwrnod a / neu amser eich slot, byddwch chi’n cael y cynnig cyntaf ar gyfer unrhyw slotiau gwag eraill, os oes rhai ar gael, yn eich Canolfan Hamdden ddewisol.

Talu am Archebion trwy Anfoneb Fisol

Os ydych chi’n glwb / mudiad, mae dewis i chi gael anfoneb fisol. Gellir talu anfonebau ar y safle, neu trwy BACS (Trosglwyddiad Banc), ond mae’n rhaid talu anfonebau fis o flaen llaw, neu cyn dyddiad eich slot cyntaf, pa bynnag un sydd gyntaf.

Os bydd taliad am eich archeb yn cyrraedd 30 diwrnod yn hwyr, byddwch yn cael 7 diwrnod i wneud taliad. Os na dderbynnir taliad bydd eich archebion yn y dyfodol yn cael eu hatal.

Os bydd taliad am eich archeb yn cyrraedd 60 diwrnod yn hwyr, byddwch yn cael 7 diwrnod i wneud taliad. Os na dderbynnir taliad bydd eich archebion yn y dyfodol yn cael eu canslo. Os caiff eich archebion eu canslo, ar yr adeg hon byddwn yn cyfeirio’r mater at ein cyfreithwyr i’w ddatrys. Mae’n bosibl y byddwch yn mynd i gostau pellach o ganlyniad i’r broses hon.

Os byddwch chi eisiau canslo dyddiad penodol, bydd angen o leiaf 7 diwrnod o rybudd ysgrifenedig (trwy ffurflen neu e-bost), neu codir tâl arnoch, yn unol â’r Telerau ac Amodau.

Talu am Archebion Bob Wythnos ar y Safle

Neu, gellir prosesu taliadau am archebion bloc bob wythnos ar y safle. Mae’n rhaid i daliadau gael eu gwneud o leiaf wythnos o flaen llaw.

Os byddwch chi am ganslo dyddiad penodol, bydd angen o leiaf 7 diwrnod o rybudd ysgrifenedig (trwy ffurflen neu e-bost), neu codir tâl arnoch o hyd, yn unol â’r Telerau ac Amodau.

Cerdyn Hamdden Grŵp a Gostyngiad ar Archebion

Caiff pawb sy’n archebu slot gyfle i gael pris llai, trwy brynu ‘Cerdyn Hamdden Grŵp’.

Yn ogystal, mae’n bosibl y bydd Archebion Bloc ar gyfer Clybiau / Mudiadau sy’n archebu ar gyfer 10 neu fwy o wythnosau’n olynol yn gymwys i gael gostyngiad ychwanegol o 10% ar eu harcheb wrth dalu trwy anfoneb fisol.

Cyfrifoldebau Diogelu.

Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn cymryd ei gyfrifoldebau diogelu yn ddifrifol iawn a gyda hyn mewn golwg, mae angen i bawb sy’n trefnu archebion bloc lenwi ffurflen diogelu wrth wneud cais i logi ein cyfleusterau. 

Mae’r ffurflen yn ymdrin â gofynion diogelu, ac mae’n arbennig o briodol i unigolion sy’n hyfforddi unigolion dan 18 oed.

Fel clwb / mudiad, bydd angen i chi sicrhau bod gennych nifer o ddogfennau angenrheidiol ar waith cyn y gellir cynnal gweithgareddau.  Mae’r rhain yn cynnwys yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, asesiadau risg, gweithdrefnau gweithredu a chymwysterau hyfforddi. Byddwch hefyd angen bod yn ymwybodol bod angen i’r rhai sy’n hyfforddi / addysgu unigolion dan 18 oed, gyflawni gwiriadau manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Yn anffodus, ni fyddwn yn gallu derbyn archebion gan glybiau neu fudiadau sydd methu cydymffurfio â’r gofynion uchod.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr uchod, cysylltwch â’ch canolfan leol.

Gyrfaoedd gyda Hamdden Sir Ddinbych

Cliciwch isod i weld pa swyddi gwag sydd gennym ar y funud

Rhagor o wybodaeth

Gadewch i ni gymdeithasu