Lansio ap technoleg a hamdden newydd ar draws holl safleoedd Hamdden Sir Ddinbych Cyf

Aelodau hamdden ar draws y cwmni fydd y rhai cyntaf i ddefnyddio’r ap ffitrwydd newydd rhagorol sy’n cael ei lansio gan Hamdden Sir Ddinbych Cyf.

Bydd cwsmeriaid yn gallu sganio cod QR ar y safle a chael mynediad cyflym i’r ystafell ffitrwydd neu ddosbarthiadau ymarfer corff.

Bydd yr ap newydd, a fydd yn gweithio fel cerdyn aelodaeth ddigidol, yn rhedeg ochr yn ochr â system rheoli newydd a fydd yn mynd yn fyw ddiwedd mis Mawrth.

Bydd y dechnoleg newydd yn moderneiddio taith y cwsmer, yn adeiladu profiad mwy integredig i aelodau a hefyd yn gwneud y broses ymuno ar-lein yn ddi-bapur.

Bydd cwsmeriaid ac aelodau Hamdden Sir Ddinbych yn cael eu cysylltu yn y cyfamser ynglŷn â chyflwyno’r systemau newydd.

Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Rydym yn edrych ymlaen at ddod â’r dechnoleg hon i’n safleoedd hamdden a ffitrwydd. Am y tro cyntaf gall cwsmeriaid archebu aelodaeth ar-lein a newid eu manylion yn rhwydd ar yr ap.

“Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn falch o fod ar y blaen o ran technoleg arloesol yn y rhanbarth, gan roi profiad digidol heb ei ail i’n cwsmeriaid.”

Gyrfaoedd gyda Hamdden Sir Ddinbych

Cliciwch isod i weld pa swyddi gwag sydd gennym ar y funud

Rhagor o wybodaeth

Gadewch i ni gymdeithasu