Atyniadau DLL wedi’u goleuo’n goch i gefnogi Apêl y Pabi a nodi Diwrnod y Cofio
Bydd DLL (Hamdden Sir Ddinbych Cyf) yn goleuo adeiladau yn goch rhwng 27ain Hydref a 13eg Tachwedd, i gefnogi Apêl Pabi’r Lleng Brydeinig Frenhinol ac i nodi Sul y Cofio.
Bydd aelodau o dîm gweithredol DLL hefyd yn gosod torchau mewn trefi ar draws Sir Ddinbych, er anrhydedd i’r rhai a gollodd eu bywydau yn amddiffyn ac yn gwarchod ein gwlad.
Bydd Canolfan Grefft Rhuthun, Tŵr Awyr y Rhyl, Theatr Pafiliwn y Rhyl, Bwyty a Bar 1891, rhaeadr yr Arena Digwyddiadau, a llochesi arfordirol Sir Ddinbych i gyd yn goleuo yn goch o 27ain Hydref i gefnogi Apêl y Pabi a byddant yn parhau i gael eu goleuo dros y penwythnos 9fed/10fed Tachwedd, wrth i wledydd ar draws y byd gofio’r rhai sydd wedi eu gwasanaethu yn ystod rhyfel, gwrthdaro a heddwch. Eleni bydd sianeli cyfryngau cymdeithasol DLL hefyd yn cynnwys eicon pabi newydd i anrhydeddu’r rhai a gollodd eu bywydau.
Bob blwyddyn fel cenedl, mae’r cyhoedd ym Mhrydain yn anrhydeddu’r Lluoedd Arfog a’u teuluoedd o Brydain a’r Gymanwlad, a chynhelir gwasanaethau Sul y Cofio ar hyd a lled y wlad i sicrhau nad yw eu cyfraniad byth yn cael ei anghofio.
Dywedodd Jamie Groves, y Rheolwr Gyfarwyddwr “Bob blwyddyn, mae DLL yn falch o oleuo adeiladau i gefnogi Apêl y Pabi a Sul y Cofio. Fel cwmni, mae gennym barch aruthrol at y Lleng Brydeinig Frenhinol a’r gwaith anhygoel y maent yn ei wneud yn helpu cyn-filwyr a’r rhai sydd mewn gwasanaeth gweithredol. Eleni, ar Sul y Cofio, bydd aelodau o’n tîm hefyd yn gosod torchau mewn trefi ar draws y sir fel teyrnged i Gymuned y Lluoedd Arfog. Rydym yn ddiolchgar iawn i gymryd rhan, ac i gael y cyfle i anrhydeddu’r rhai sydd wedi colli eu bywydau yn gwasanaethu eu gwledydd.”