Atyniadau Sir Ddinbych yn goleuo mewn Coch, Gwyn a Glas i goffáu Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop

Bydd DLL (Hamdden Sir Ddinbych Cyf) yn goleuo ei atyniadau mewn coch, gwyn a glas ddydd Iau 8 Mai i nodi 80 mlynedd ers Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop.

Bydd Canolfan Grefftau Rhuthun, Tŵr Awyr y Rhyl, Theatr Pafiliwn y Rhyl, Bwyty a Bar 1891, rhaeadr yr Arena Digwyddiadau, a llochesi arfordirol Sir Ddinbych i gyd yn goleuo mewn coch, gwyn a glas i nodi 80 mlynedd ers Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop, y dyddiad sy’n nodi diwedd yr Ail Ryfel Byd.

Dathlwyd Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop gyntaf ar 8 Mai 1945, ar ôl bron i 6 mlynedd o ryfel. Mae’n cael ei nodi mewn llawer o wledydd ledled Ewrop, fel dyfodiad heddwch, ac fel teyrnged i bawb a ymladdodd mor galed dros y rhyddid rydyn ni’n ei fwynhau rŵan. 

Mae eleni’n nodi 80 o flynyddoedd ers Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop. Cynhelir digwyddiadau ledled y DU gyda’r nod o ddod â chymunedau ynghyd a sicrhau bod cenedlaethau iau yn deall pwysigrwydd yr aberthau a wnaed gan gynifer.

Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL “Mae DLL yn falch o oleuo adeiladau er anrhydedd 80 o flynyddoedd ers Buddugoliaeth yn Ewrop. Fel cwmni, mae’n fraint gallu dangos ein parch a’n diolchgarwch i’r rhai a ymladdodd yn yr Ail Ryfel Byd, y bu i lawer ohonynt wneud yr aberth eithaf. Byddwn yn dod ynghyd gyda gwledydd ar draws y byd, ac yn goleuo adeiladau mewn coch, gwyn a glas, i nodi’r digwyddiad hanesyddol arwyddocaol hwn.”