Archebion

telerau ac AMODAU
ARCHEBION ACHLYSUROL

Gall aelodau archebu cyfleusterau a gweithgareddau hyd at 7 diwrnod ymlaen llaw. Rhaid talu ar adeg archebu. Gall pobl nad ydynt yn aelodau archebu hyd at 5 diwrnod ymlaen llaw ac unwaith eto rhaid talu ar adeg archebu.

ARCHEBION CLWB

Gall clybiau, busnesau, elusennau, sefydliadau neu drefnwyr digwyddiadau logi cyfleusterau ar sail Un Defnydd neu Archeb Bloc.
Mae DLL yn cymryd ei gyfrifoldebau diogelu o ddifrif iawn. Rhaid i bob Archeb Un Defnydd neu Floc gael yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, asesiadau risg, gweithdrefnau gweithredu, cymwysterau hyfforddi a DBS uwch ar gyfer pobl sy’n hyfforddi unrhyw un o dan 18 oed. Rydym yn gofyn i bob archeb bloc gwblhau ffurflen ddiogelu wrth ofyn am logi ein cyfleusterau.

ARCHEBION SENGL A BLOC

I wneud cais am Archeb Un Defnydd, cwblhewch ein ffurflen archebu ar-lein

FFURFLEN ARCHEB sengl

I wneud cais am Archeb Bloc, cwblhewch ein ffurflen archebu ar-lein:

FFURFLEN ARCHEB BLOC A DIOGELU

Gwnewch yn siŵr eich bod hefyd wedi darllen ein Telerau ac Amodau yn llawn cyn cyflwyno’r ffurflen. Bydd aelod o’n tîm yn adolygu eich cais, a fydd yn cadarnhau argaeledd, pris a thelerau talu i chi.
Gwahoddir clybiau sydd â bwciadau bloc o’r tymor blaenorol i adnewyddu eu bwciadau bloc ar yr un diwrnod(au)/amser(au) ddechrau mis Gorffennaf. Bydd unrhyw archebion bloc nad ydynt wedi’u hadnewyddu erbyn diwedd mis Gorffennaf ar gael i glybiau eraill. Gall clybiau sy’n bwcio am o leiaf 10 wythnos fod yn gymwys i gael gostyngiad o 10% ar eu harcheb (mae telerau ac amodau’n berthnasol).


Telerau ac Amodau Archebu – Yn berthnasol i Archebion Sengl ac Archebion Bloc

Ystyr ‘y Cwmni’ yw Hamdden Sir Ddinbych Cyf (Hamdden Sir Ddinbych)

Ystyr ‘llogwr’ yw rhywun sy’n defnyddio’r holl gyfleusterau neu ran ohonynt, naill ai drwy dalu tâl mynediad, tâl llogi

‘Defnyddiwr’ neu fel gwyliwr. Yn achos plentyn neu unigolyn ifanc yn defnyddio’r cyfleusterau, bydd y Llogwr hefyd yn cynnwys ei riant neu warcheidwad. Ar gyfer clybiau, mae’r term Llogwr yn cynnwys aelodau’r Clwb a chorff corfforedig y Clwb. 

Y Rheolwr Gweithrediadau Hamdden yw’r uwch-reolwr sy’n gyfrifol am y cyfleusterau a logir.

  1. Rhaid archebu pob sesiwn drwy’r Ffurflen Archebu Bloc sydd i’w chael yma: https://denbighshireleisure.co.uk/block-bookings/
  2. Bydd y ffioedd sy’n daladwy yng nghyswllt y Cytundeb hwn yn gyson â graddfa daliadau Hamdden Sir Ddinbych ac fe hysbysir y Llogwr ohonynt yn y Cadarnhad o’r Archeb.
  3. Mae’n rhaid i bob archebwr fynd i’r Gwasanaethau Gwesteion cyn dechrau’r sesiwn a mewngofnodi’n ddieithriad.
  4. Mae Hamdden Sir Ddinbych yn cadw’r hawl i ganslo’r archeb am ba bynnag reswm. Ni fydd gan y Llogwr hawl i unrhyw iawndal am golled neu ddifrod (boed hynny’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) o ganlyniad i ganslo archeb yn y fath fodd.
  5. Mae’n rhaid i’r Llogwr gydymffurfio â’r Polisi Derbyn i’r Ganolfan. https://denbighshireleisure.co.uk/cy/admission-policy-wel/
  6. Ni all y Llogwr ond defnyddio’r cyfleusterau hynny a nodir yn y Cadarnhad o’r Archeb ar yr adegau a bennir. Ni chaniateir defnyddio’r cyfleusterau at unrhyw ddiben arall ond yr hynny a nodir yn y Cadarnhad o’r Archeb.
  7. Ni fydd y Llogwr yn neilltuo nac osod budd y cytundeb llogi i neb arall mewn unrhyw amgylchiadau.
  8. Bydd y Llogwr yn gyfrifol am gadw trefn a sicrhau bod yr holl gyfranogwyr yn ymddwyn yn briodol a rhaid iddynt sicrhau bod hynny’n cynnwys goruchwylio cyn y sesiwn ac wedi iddo ddod i ben. Oni chytunir yn wahanol, bydd y Llogwr yn sicrhau bod y cyfranogwyr yn cyrraedd y safle o leiaf 15 munud cyn dechrau’r sesiwn a sicrhau eu bod wedi ymadael â’r eiddo’n drefnus ymhen 15 munud ar ôl diwedd y sesiwn.
  9. Cyfyngir pob sesiwn yn y Neuaddau Chwaraeon i 55 munud yn unig fel bod modd gosod a datgymalu offer erbyn y sesiwn nesaf
  10. Ar gais Hamdden Sir Ddinbych bydd y Llogwr, cyn dyddiad yr archeb, yn trefnu yswiriant ar y cyd yn enwau Hamdden Sir Ddinbych a’r Llogwr rhag atebolrwydd y Llogwr i dalu unrhyw swm y mae Hamdden Sir Ddinbych yn ei bennu, a darparu tystiolaeth o’r yswiriant hwnnw.
  11. Mae Hamdden Sir Ddinbych yn cadw’r hawl i wrthod mynediad i’r safle, yr hawl i hel allan unrhyw unigolyn neu unigolion afreolus neu gael gwared ag unrhyw eitem a fedr achosi difrod neu berygl.
  12. Mae’n rhaid i unrhyw gŵyn gan y Llogwr ynglŷn â defnyddio’r safle neu’r trefniadau ar gyfer hynny gael ei gwneud yn ysgrifenedig i’r Rheolwr Gweithrediadau Hamdden cyn pen 24 awr ar ôl y digwyddiad gan roi sail dros y gŵyn.
  13. Mae Hamdden Sir Ddinbych yn cadw’r hawl i wrthod unrhyw gais llogi heb roi rheswm, pennu amodau ychwanegol ar unrhyw archeb benodol ac amrywio graddfa’r ffioedd ar gyfer unrhyw archeb benodol.
  14. Mae Swyddog Cymorth Cyntaf cymwys yn bresennol ar ein safle bob amser. Wrth archebu ar gyfer digwyddiad wedi’i drefnu (Twrnament Chwaraeon, er enghraifft), mae’n rhaid i’r Llogwr ddarparu Swyddog Cymorth Cyntaf cymwys ei hun ar gyfer y digwyddiad cyfan. Mae’n rhaid hysbysu aelod o staff o unrhyw ddigwyddiad Cymorth Cyntaf a’i gofnodi yn y llyfr damweiniau a gedwir gan Wasanaethau Gwesteion y Ganolfan Hamdden.
  15. Bydd Hamdden Sir Ddinbych yn hysbysu’r Llogwr cyn gynted ag y bo modd os na fydd y cyfleusterau ar gael ar ryw ddyddiad penodol neu’n anaddas i’w defnyddio. Bydd DLL yn hysbysu’r cyswllt dynodedig a ddarparwyd gan y cyflogwr ar y ffurflen gais. Cyfrifoldeb y Llogwr yw sicrhau bod DLL yn cael y wybodaeth gyswllt gywir ar gyfer yr archeb ac yn cael gwybod am unrhyw newidiadau.
  16. Mae Llogwr pob sesiwn yn gyfrifol am glirio unrhyw sbwriel. Mae’n rhaid rhoi sbwriel yn y biniau a ddarperir a bydd yn rhaid penodi rhywun i sicrhau nad oes sbwriel ar y cyrtiau na’r mannau gwylio pan ddaw’r sesiwn i ben.
  17. Ni all Hamdden Sir Ddinbych dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled neu ddifrod i eiddo personol.
  18. Ni chaniateir i wylwyr ddefnyddio’r cyfleusterau chwaraeon nac ymddwyn mewn ffordd a allai amharu ar bobl eraill neu beryglu eu diogelwch a’u mwynhad.
  19. Ni ddylid defnyddio’r drysau tân ond mewn argyfwng. Os bydd tân, bydd Hamdden Sir Ddinbych yn cymryd cyfrifoldeb nes bod y Gwasanaeth Tân ac Achub yn cyrraedd.
  20. Mae’n rhaid i’r Llogwr wybod faint o bobl sy’n cymryd rhan a medru eu cyfrif os bydd argyfwng.
  21. Mae’r Llogwr yn gyfrifol am sicrhau fod yr holl hyfforddwyr yn meddu ar gymwysterau addas a bod hyfforddwyr sy’n gweithio â chyfranogwyr dan ddeunaw oed wedi cael gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
  22. Mae’n rhaid i’r Llogwr lenwi Ffurflen Diogelu Hamdden Sir Ddinbych a chadarnhau y cyflawnwyd yr holl ddyletswyddau diogelu.
  23. Bydd Hamdden Sir Ddinbych yn cynnal archwiliad llawn o gymwysterau, gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a dogfennau diogelu o bryd i’w gilydd. Os na ddarperir y dogfennau sy’n ofynnol ymhen pythefnos, efallai y gwrthodir caniatâd i ddefnyddio’r cyfleusterau.
  24. Mae’n rhaid i’r Llogwr feddu ar yswiriant atebolrwydd cyhoeddus a gwneud asesiadau risg ar gyfer yr holl weithgareddau y maent yn eu cynnal, a’u darparu i Hamdden Sir Ddinbych ar gais.
  25. Gostyngiad 10% i Glybiau i)Rhoddir gostyngiad o 10% i Glybiau yn yr achosion canlynol:
    1. Pan mae’r archeb yn cynnwys cyfres o 10 o sesiynau neu fwy.
    2. Pan mae a wnelo pob sesiwn â’r un gamp neu weithgaredd.
    3. Pan delir anfonebau’n fisol.
    4. Pan gynhelir pob sesiwn yn yr un lle, er ei bod yn dderbyniol defnyddio gwahanol gae, cwrt neu lôn, neu wahanol nifer o gaeau, cyrtiau neu lonydd.
    5. Pan mae o leiaf un diwrnod rhwng pob sesiwn a dim mwy na 14 o ddiwrnodau. Gall hyd y sesiynau amrywio, ond nid oes unrhyw eithriad ar gyfer cyfnodau o fwy na 14 diwrnod gan fod y cyfleuster ar gau am ba bynnag reswm.
    6. Pan delir am y gyfres gyfan ar unwaith a bod tystiolaeth ysgrifenedig o hynny. Mae’n rhaid i hynny gynnwys tystiolaeth y gwneir y taliad yn llawn p’un a ddefnyddir yr hawl i ddefnyddio’r cyfleuster ar gyfer unrhyw sesiwn benodol neu beidio. Ni fyddai’r ddarpariaeth i’r darparwr roi ad-daliad os na fydd y cyfleuster ar gael am ryw reswm annisgwyl yn effeithio ar yr amod hwn.
    7. Pan osodir y cyfleusterau hyn i ysgol, clwb, cymdeithas neu sefydliad sy’n cynrychioli clybiau cysylltiedig neu gymdeithasau cyfansoddol, fel cynghrair leol.
    8. Pan mae gan y sawl y gosodwyd y cyfleusterau iddynt ddefnydd neilltuedig ohonynt yn ystod y sesiynau.
    9. Ni fydd clybiau’n gallu canslo unrhyw archebion yn y gyfres.
  1. Telerau Talu – Taliadau Misol
    1. Os ydych chi’n glwb / sefydliad, mae dewis i chi gael anfonebau’n fisol. Gellir talu anfonebau ar y safle neu trwy drosglwyddiad banc (BACS) ond mae’n rhaid talu anfonebau 30 o ddiwrnodau o flaen llaw neu cyn dyddiad eich sesiwn cyntaf, pa bynnag un sydd gyntaf. e.e. Bydd eich archebion ar gyfer mis Hydref yn cael eu hanfonebu ar 1af Medi, a rhaid eu talu’n llawn erbyn 30ain Medi.
    2. Os bydd y taliad yn 30 diwrnod yn hwyr, bydd unrhyw archebion sy’n weddill yn cael eu hatal nes bod y taliad wedi’i wneud.
    3. Os bydd y taliad yn 60 diwrnod yn hwyr, bydd unrhyw archebion sy’n weddill yn cael eu canslo a gellir cyfeirio’r ddyled at asiantaeth casglu dyledion, a all arwain at ffioedd ychwanegol.
    4. Mae Hamdden Sir Ddinbych yn cadw’r hawl i godi llog ar daliadau hwyr.
    5. Bydd unrhyw glwb/sefydliad nad yw’n talu’n unol â’r telerau a bennwyd yn atebol i dalu costau cyfreithiol sy’n deillio o adennill y ddyled.
    6. Mae Hamdden Sir Ddinbych yn cadw’r hawl i wrthod archebion neu fynnu taliad o flaen llaw gan Glybiau â dyledion heb eu talu neu hanes o dalu’n hwyr.
  1. Telerau Talu – Taliadau Wythnosol
    1. Os bydd Hamdden Sir Ddinbych yn fodlon, gallwch drefnu talu ar gyfer eich archeb bloc yn wythnosol.
    2. Byddai gofyn ichi dalu am bob sesiwn 7 niwrnod o flaen llaw.
    3. Os na dderbynnid tâl 7 niwrnod o flaen llaw byddem yn canslo’ch sesiwn.
  1. Telerau Talu – sesiynau unigol
    1. Mae’n rhaid talu am sesiynau unigol yn llawn o flaen llaw, cyn dyddiad y sesiwn.
  2. Canslo
    1. Mae’n rhaid rhoi rhybudd ysgrifenedig o leiaf 7 niwrnod o flaen llaw os oes arnoch angen canslo’ch archeb yn llwyr neu’n rhannol.
    2. Os ydych wedi derbyn gostyngiad 10% fel clwb a heb gwblhau 10 wythnos o sesiynau fel sy’n ofynnol, bydd yn rhaid i chi dalu’n llawn am y sesiynau nas cynhaliwyd.
    3. Os dymunwch ganslo sesiwn ar ddyddiad penodol, bydd angen o leiaf 7 diwrnod o rybudd ysgrifenedig (trwy ffurflen neu e-bost), neu fel arall byddwn yn dal yn codi tâl arnoch, yn unol â’r amodau a thelerau hyn.
    4. Os bydd y Llogwr yn canslo sesiwn, bydd yn rhaid rhoi rhybudd ysgrifenedig o leiaf 7 niwrnod o flaen llaw ar ffurf e-bost neu Ffurflen Canslo Archeb Bloc, sydd ar gael gan Wasanaethau Gwesteion y Ganolfan Hamdden. Mae’n rhaid i’r Llogwr ddarparu enw llawn y sesiwn ynghyd â’r dyddiadau a’r amseroedd i’w canslo. Nid yw’n dderbyniol canslo sesiynau ar lafar. Os na roddir rhybudd o’r fath, codir y tâl llogi llawn.
    5. Gellir canslo hyd at dri o sesiynau yn ystod cyfnod y cytundeb archebu bloc, fel arall mae gan Hamdden Sir Ddinbych hawl i ganslo’r Archeb Bloc cyfan.
  3. Os bydd y Llogwr neu unrhyw un o’u gweithwyr neu asiantau’n torri unrhyw un o’r amodau hyn, mae Hamdden Sir Ddinbych yn cadw’r hawl i ganslo’r archeb ar unwaith drwy rybudd ysgrifenedig i’r Llogwr neu’u cynrychiolydd, ac wrth wneud hynny ni fydd y Ganolfan yn atebol i ad-dalu unrhyw gyfran o’r tâl llogi nac unrhyw iawndal i’r Llogwr na neb arall.
Gyrfaoedd gyda Hamdden Sir Ddinbych

Cliciwch isod i weld pa swyddi gwag sydd gennym ar y funud

Rhagor o wybodaeth

Gadewch i ni gymdeithasu