Brand Technoleg Ymarfer Corff â Chymorth Pŵer newydd Assist Fit yn dod i Glwb y Rhyl
Bydd brand technoleg ymarfer corff â chymorth pŵer newydd DLL, ‘Assist Fit’, yn cael ei lansio yng Nghlwb y Rhyl ar 2il Mehefin.
I aelodau sy’n chwilio am ymarfer corff llawn dwysedd isel, bydd Assist Fit yn darparu’r ‘help llaw’ berffaith i gael eu cryfder yn ôl.
Bydd y stiwdio Assist Fit yn cwmpasu 9 darn o offer o’r radd flaenaf a ddewiswyd mewn partneriaeth â’r cwmni arbenigol Innerva. Mae gan bob darn o offer wahanol osodiadau ymarfer corff, gan alluogi defnyddwyr i weithio ar eu cyflymder eu hunain. Mae dau gategori newydd o aelodaeth wedi’u creu ar gyfer cwsmeriaid, a byddant yn cynnwys rhaglen o sesiynau dan oruchwyliaeth a heb oruchwyliaeth, dan arweiniad tîm DLL.
Technoleg ymarfer corff â chymorth pŵer yw’r ateb perffaith i oedolion hŷn, y rhai sy’n byw gyda chyflyrau hirdymor a hefyd y rhai nad ydynt yn barod ar gyfer amgylchedd campfa draddodiadol.
Mae ymarfer corff â chymorth pŵer yn ddiogel i bob gallu, gan nad oes angen i ddefnyddwyr ddarparu’r grym cymhellol i oresgyn syrthni. Nid oes unrhyw bentyrrau pwysau i’w rheoli, dim ond technoleg â chymorth pŵer ddiogel ac effeithiol, gan ddarparu ystod symudiad â chymorth gweithredol i ddefnyddwyr.
Assist Fit yw’r datblygiad diweddaraf yng ngwaith uwchraddio £1M DLL o Glwb y Rhyl ac mae’n dilyn y stiwdio cryfder Power Up hynod boblogaidd, yr ystafell cardio Lean Up wedi’i hadnewyddu, Stiwdio X newydd sbon, y gofod hyfforddi HIIT ac yn fwyaf diweddar y profiad ymarfer corff wedi’w ysbyrdoli gan focsio BOX12 ‘cyntaf yng Nghymru’.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL “Rydym wrth ein bodd yn partneru ag Innerva i gyflwyno’r ateb ymarfer corff newydd arloesol hwn i’n haelodau. Rydym wedi ymrwymo i ddod â chynigion hamdden i’n haelodau yma yn DLL, sydd â’r nod o helpu i wella ffitrwydd, iechyd a lles meddyliol ein cymunedau. Mae Assist Fit wedi’i gynllunio i ganolbwyntio ar gwsmeriaid ag anghenion ffitrwydd penodol, ac nad yw ein hamgylchedd campfa yn addas ar eu cyfer ar hyn o bryd. Rydym yn gyffrous i lansio’r cynnig ffitrwydd newydd gwych hwn, a byddem yn annog pawb i gadw llygad ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf am y lansiad.”
Dywedodd Liz Wright, Rheolwr Gwerthu Cenedlaethol Innerva “Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda thîm DLL ac mor ysbrydoledig gweld y cynnig gweithgareddau cynhwysol ac amrywiol maen nhw wedi’i greu yng Nghlwb y Rhyl. Rydym yn arbennig o gyffrous i weld sut y bydd datrysiad Innerva yn cefnogi DLL i ymgysylltu ag oedolion hŷn a phobl sy’n byw â chyflyrau iechyd hirdymor. Mae hefyd yn gyfle gwych i gyrraedd y rhai sy’n llai egnïol ar hyn o bryd trwy gynnig lle diogel, cefnogol a hygyrch lle gallant feithrin eu hyder ac o bosib symud ymlaen i weithgareddau pellach yn y dyfodol. Mae ein hymchwil gyda Phrifysgol Fetropolitan Manceinion yn dangos bod pobl hŷn yn awyddus i fod yn egnïol os oes ganddynt fynediad at y cyfleusterau a’r gefnogaeth gywir. Dyma’n union beth mae Clwb y Rhyl yn anelu at ei ddarparu gydag Assist Fit.”
Mae manylion llawn ar gael ar wefan DLL. Drwy gydol mis Mehefin, bydd DLL yn cynnig sesiynau blasu am ddim i unrhyw un sydd â diddordeb mewn rhoi cynnig ar Assist Fit, gan roi cyfle i gwsmeriaid fod ymhlith y cyntaf i brofi’r cynnig ffitrwydd newydd arloesol hwn—cysylltwch â’r wefan ar 01824 712661 i archebu sesiwn.
