Rhowch y cyfle i chi’ch hun neu rywun annwyl i chi fwynhau rhywfaint o hunanofal ac adfywiad yn ein Gweithdy Anadlu!
Mae’r gweithdy’n canolbwyntio ar les meddyliol ac yn ceisio darparu’r adnoddau a’r technegau i alluogi’r sawl sy’n cymryd rhan i reoli straen, gorbryder a heriau cyffredin eraill! Bydd y gweithdy’n cael ei arwain gan Jane Horan, gweithwraig anadlu broffesiynol sydd wedi cwblhau hyfforddiant helaeth mewn sawl ysgol hyfforddi achrededig, ac wedi ennill Tystysgrif lefel Diploma mewn nifer o therapïau holistaidd.
Tystebau Cwsmeriaid
Rwyf wedi gwneud ychydig o sesiynau ar anadlu a myfyrdod yn y gorffennol, a sesiwn Jane oedd un o fy hoff sesiynau! Unwaith i chi gerdded mewn roedd hi mor heddychlon! Roedd hi’n wybodus iawn am y pwnc ac yn gwneud i chi ymlacio’n gyfan gwbl trwy gydol y sesiwn. Roeddwn wrth fy modd â’r baddon sain a hedfanodd y sesiwn. Buaswn wedi gallu aros am ddwywaith yr amser! Gadawais yn teimlo wedi ymlacio’n llwyr gydag awgrymiadau newydd ar sut i helpu lleihau fy straen a gorbryder. Pwy feddyliai y byddai anadlu’n wahanol yn gwneud cymaint o wahaniaeth!
Roedd yr elfen baddon sain yn creu awyrgylch heddychlon, ac roedd archwilio technegau anadlu gwahanol yn ddifyr iawn. Fe adawais yn teimlo wedi adnewyddu ac â’r offer i fynd i’r afael a gorbryder. Profiad ymlaciol a dymunol, a byddaf yn argymell i unrhyw un sy’n chwilio am les holistaidd!
Fel mam brysur i 2 o blant, prin iawn rydw i’n cael y cyfle i gael amser i fy hun, roedd y Gweithdy Anadlu yn union beth oedd ei angen arnaf! Roedd yn heddychlon iawn a chefais awgrymiadau gwych ar sut i reoli lefelau straen yn ystod bywyd arferol, prysur! Buaswn yn argymell hwn i unrhyw un, yn arbennig y mamau!
Mae lles holistaidd ar gyfer rhyddhau straen, rheoli gorbryder ac arferion hunanofal i’w cynnwys yn eich arferion ffitrwydd i wella’ch lefelau cymhelliant a chanolbwyntio.
Lleoliad: Nova
Dyddiad: Dydd Mercher 24 Ebrill 2024
Amser: 17:30 – 19:30
Pris: £25 i aelodau / £30 i eraill
Archebwch drwy gysylltu â’r safle ar 01824 712323 neu trwy Ap HSDd