Mae DLL (Hamdden Sir Ddinbych Cyf) yn dathlu ar ôl cael ei ‘Ganmol yn Fawr’ am ddau gategori gwobr genedlaethol yr wythnos diwethaf.

Cafodd y cwmni lleol ei gydnabod yng ngwobrau ffitrwydd mawreddog nos Iau, 3ydd Hydref, a welodd arweinwyr y diwydiant o bob cwr o’r DU yn dod ynghyd i ddathlu cyflawniadau’r 12 mis diwethaf.

Cafodd DLL ei amlygu sawl gwaith trwy gydol y noson, a’i ganmol yn fawr ddwywaith, yn gyntaf am eu harloesedd yng Nghlwb Rhyl gyda’r stiwdio ffitrwydd chwyldroadol 360, ac yn ail, am eu hymgyrch farchnata ‘Ymdaith Mis Mawrth’ ar gyfer Canser y Brostad.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Roedd yn anrhydedd enfawr cael ein cydnabod yn Genedlaethol ar y raddfa hon. Roedd hyd yn oed cyrraedd y rhestr fer yn gyflawniad enfawr i wobrau mor fawreddog. Mae tîm cyfan DLL yn rhoi eu calonnau ac eneidiau i mewn i’w gwaith ac mae’n wych ein bod wedi cael ein cydnabod am ein gwaith rhagorol. Mae’r gydnabyddiaeth hon wedi rhoi hwb i’r cwmni cyfan, gan sicrhau ein bod yn parhau i fynd yn groes i’r duedd yn genedlaethol ym mhob maes o’r busnes.”

Roedd DLL wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer chwe gwobr. Roedd y rhain yn cynnwys: clwb rhanbarthol y flwyddyn gyda Chlwb Rhyl; gwobr arloesi sefydliadol ar gyfer lansiad Stiwdio 360; gwobr ymgyrch farchnata am eu gwaith ar ganser y brostad eleni; gwobr cymunedau iach, ac roedd y tîm Gweithredol a Jamie Groves hefyd wedi’u henwebu ar gyfer gwobrau arweinyddiaeth. Yn ystod y noson, cafodd DLL hefyd ei enwebu gan y beirniaid ar gyfer y wobr sefydliad hamdden y flwyddyn.

UKactive yw’r brif gymdeithas ddiwydiant cenedlaethol, sy’n hyrwyddo buddiannau campfeydd ffitrwydd masnachol a chanolfannau hamdden gymunedol, gyda mwy na 4,000 o sefydliadau’n aelodau ledled y DU.

Ychwanegodd Jamie: “Mae’n wych gweld cwmni yn Sir Ddinbych yn cael ei gydnabod yn genedlaethol am yr holl waith caled ar draws y busnes, ac rydym yn hynod falch o fod wedi cael ein henwebu ar gyfer chwe gwobr wahanol, sy’n dangos cwmni cadarn ac amrywiol ar bob lefel. Fel cwmni, ein gwerthoedd, ein hymroddiad a’n hansawdd sy’n ein gwneud yn unigryw, ac mae’n wych ein bod yn cael ein cydnabod am y rhain. Mae bob amser yn fwy na dim ond swydd i’n gweithlu, sy’n mynd yr ail filltir bob amser.”