Mae’r gampfa hyfforddi cryfder newydd sbon yng Nghlwb y Rhyl bellach ar agor, fel cam cyntaf y gwaith adnewyddu newydd gwerth £1 miliwn gan DLL.

Mae cam cyntaf cyffrous datblygiad Clwb y Rhyl wedi’i gwblhau ac mae’r llawr gwaelod ar ei newydd wedd bellach ar agor i aelodau a’r cyhoedd.

Wedi’i gyfarparu’n llawn ag ystod o offer codi pwysau Olympaidd o’r radd flaenaf o Technogym, mae’r pecyn Cryfder Pur wedi’i ddatblygu trwy weithio gydag athletwyr ar draws 8 Gem Olympaidd a dros 30 mlynedd o ymchwil wyddonol ar symudiadau dynol.

Mae’r offer hwn yn cynnig y profiad hyfforddi cryfder gorau ar gyfer uchafu perfformiad chwaraeon ac mae DLL yn falch o fod yn cynnig hyn i aelodau gydag adborth rhagorol eisoes yng Nghlwb y Rhyl.

Yn null nodedig Clwb DLL go iawn, mae’r gampfa ar y llawr gwaelod wedi’i chreu i ysgogi amgylchedd hyfforddi elitaidd. Cam nesaf adnewyddiad Clwb y Rhyl yw ystafell gardio newydd sbon a stiwdio HIIT, a fydd yn agor yn gynnar fis nesaf. Bydd yr ystafell gardio newydd yn cynnwys ystod ddiweddaraf Technogym Excite Live, tra bydd y Stiwdio X newydd yn darparu gofod hyfforddi dwysedd uchel (HIIT) wedi’i ddylunio’n arbennig, gan ymgorffori ymarferion pwysau’r corff ac offer Technogym o’r radd flaenaf.

Dywedodd Jamie Groves, y Rheolwr Gyfarwyddwr “Mae ein hymrwymiad i fuddsoddi yn ein cyfleusterau wedi gweld Clwb y Rhyl yn dod yn gyfleuster ffitrwydd a gydnabyddir yn genedlaethol, ac mae’r ansawdd a’r gwerth y mae ein haelodau yn eu mwynhau heb eu hail. Yn dilyn ymlaen o ddatblygiad arloesol newydd Stiwdio 360 y llynedd, bydd y buddsoddiadau diweddaraf hyn o £1miliwn yn sicrhau y bydd aelodau DLL yn cael mynediad at y profiadau ffitrwydd mwyaf modern a thechnolegol ddatblygedig yn y wlad. Mae enw da DLL fel gweithredwr hamdden arloesol sy’n arwain y sector wedi parhau i dyfu, ac ar adeg heriol i lawer yn y sector hamdden, mae DLL unwaith eto yn mynd yn groes i dueddiadau cenedlaethol ac yn buddsoddi yn ei gyfleusterau.”

Mae hyd yn oed mwy o ddatblygiadau cyffrous yn dod ym mis Ebrill, gydag ychwanegiad y stiwdio Box 12 newydd cyffrous, yn darparu gofod ymarfer deinamig, wedi’i ysbrydoli gan focsio, a byrddau tynhau Inerva, wedi’u cynllunio ar gyfer y rhai sydd eisiau gwella eu cryfder cyhyrol, cydbwysedd, hyblygrwydd, a ffitrwydd cardiofasgwlaidd, ond sydd angen ymarfer corff dwysedd isel.