Cannoedd o blant yn cael haf o hwyl am ddim gyda DLL, ac nid yw drosodd eto
Gwyliau Rownderi a Chriced, digwyddiadau pêl-droed Ewro Merched, sesiynau aml-chwaraeon, a diwrnodau hwyl i’r teulu, i enwi ond ychydig o’r digwyddiadau am ddim y mae tîm Chwaraeon Cymunedau Bywiog DLL wedi’u cynnal ac wedi bod yn rhan ohonynt yr haf hwn, gan ddod â haf o hwyl i blant a thrigolion Sir Ddinbych.
Cynhaliodd tîm Chwaraeon Cymunedol Bywiog DLL wyliau Rownderi a Chriced ar gyfer ysgolion Cynradd yng Nghlwb Criced Rhuthun, mewn partneriaeth â’r clwb a Chriced Cymru, a welodd dros 80 o blant ym mhob digwyddiad, yn mwynhau rownderi a chriced am ddim. Yn gynharach yn yr Haf trefnodd tîm Chwaraeon Cymunedau Bywiog DLL ddau ddigwyddiad o amgylch Ewro Merched, gyda dros dri deg o sefydliadau partner yn cymryd rhan, gan gynnwys; Hwb Dinbych, yr Urdd, Gwasanaethau Chwarae ac Ieuenctid CSDd, Tai Adra, Clwb Rhedeg Striders Dinas Llanelwy, Tai CSDd, Teuluoedd yn Gyntaf, Clwb Pêl-droed Athletau Prestatyn, Menter Iaith, Clwb Rhedeg Prestatyn. Nod y digwyddiadau hyn oedd defnyddio pŵer pêl-droed ac effaith Ewros y Merched 2025 i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau ledled Sir Ddinbych.
Croesawodd tîm Hamdden Sir Ddinbych dros 300 o bobl ar draws y gwyliau dathlu a’r gweithgareddau dan arweiniad y gymuned, a wnaed yn bosibl trwy gyllid gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf (DLL): “Mae wedi bod yn haf gwych hyd yn hyn gydag adborth anhygoel gan y gymuned sy’n mynychu’r digwyddiadau rhad ac am ddim hyn. Mae ein tîm Chwaraeon Cymunedau Bywiog yn gweithio’n galed iawn i gynnal y digwyddiadau hyn a sicrhau bod pob preswylydd yn cael amser gwych ac yn cadw’n actif ar yr un pryd. Ac, nid yw’r haf drosodd eto! Mae gennym ni lu o weithgareddau rhad ac am ddim yn dod atoch cyn diwedd gwyliau’r Haf. Gan weithio gyda’n partneriaid, mae gennym ni ŵyl chwaraeon Traeth yn y Rhyl, diwrnod rownderi teuluol yng Nghorwen a bore teuluol ym Mhrestatyn, ynghyd â chymaint mwy, ac mae mynediad iddynt gyd yn rhad ac am ddim!”
O Langollen i Brestatyn, mae’r tîm wedi cymryd rhan ac wedi cynnal tri deg o ddigwyddiadau rhad ac am ddim i’r gymuned. Mae sesiynau wythnosol mewn partneriaeth â Chwarae CSDd a Dyfodol Disglair wedi digwydd yn y Rhyl a sesiynau aml-chwaraeon mewn partneriaeth â Hwb Dinbych a Phrosiect Ieuenctid Dinbych yn Ninbych.
Dros yr wythnosau nesaf mae nifer o ddigwyddiadau yn cael ei gynnal a’i fynychu gan dîm Chwaraeon Cymunedau Bywiog DLL, gan gynnwys:
- Rownderi Teulu DLL yng Nghlawdd Poncen, Corwen – 14eg Awst
- Gŵyl Traeth DLL Y Rhyl – 18fed Awst
- Bore Hwyl i’r Teulu yng Nghanolfan Ieuenctid Prestatyn gyda phartneriaid – 19eg Awst
- Digwyddiadau Tai CSDd yn digwydd ledled Sir Ddinbych gyda chefnogaeth Cymunedau Bywiog DLL
Am ragor o wybodaeth a sut i archebu, anfonwch e-bost at: ActiveCommunities@denbighshireleisure.co.uk