Mae Hamdden Sir Ddinbych (DLL) yn rhyddhau 600 o docynnau am ddim i drigolion lleol brofi parc dŵr dan do SC2 gyda ‘diwrnodau blasu’ cyffrous cyn yr agoriad y mis nesaf.

Dros benwythnos 28ain – 29ain Mehefin, bydd DLL yn rhoi dros 600 o docynnau parc dŵr am ddim fel ‘blas’ ar yr hyn sydd i ddod yr Haf hwn pan fydd y parc dŵr yn agor i’r cyhoedd.

Bydd mynediad i’r sesiynau profi yn RHAD ac AM DDIM, a bydd dros 600 o leoedd ar gael drwy gydol y penwythnos, y gellir eu harchebu ar wefan SC2 ar sail y cyntaf i’r felin. Bydd archebu’n agor heddiw, dydd Mercher 11eg Mehefin am 12pm, a gallwch archebu eich sesiwn yma nawr: https://ecom.roller.app/sc2rhyl/testerday/en/home

Bydd y penwythnos teyrngarwch lleol unigryw hwn yn unig i’r gymuned ddod i brofi’r parc dŵr cyn yr Haf, fel diolch am eu cefnogaeth yn ystod yr amser y bu’r parc dŵr ar gau ar gyfer cynnal a chadw.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Rydym wedi cael 18 mis anodd iawn gyda’r parc dŵr ar gau ac ni allwn ddiolch digon i’n cymuned leol am eu cefnogaeth yn ystod yr amser anodd hwn. Rydym wedi penderfynu agor y parc dŵr dan do am ddau ddiwrnod a rhoi dros 600 o docynnau am ddim i ddangos ein diolchgarwch am eu cefnogaeth, ac iddynt ddod i weld y parc dŵr yn ei holl ogoniant – ynghyd ag ychydig o ychwanegiadau cyffrous newydd hefyd yn ein Bwyty Coedwig Law! Mae ein tîm yn SC2 yn gyffrous iawn i groesawu pawb yn ôl i’n Parc Dŵr arbennig, ac rydym yn edrych ymlaen at haf gwych arall yn y Rhyl! Fel yr addawyd, mae SC2 yn ôl yn fwy ac yn well nag o’r blaen, felly rydym yn gobeithio y bydd cymaint o bobl â phosib yn ymuno â ni ar gyfer y Digwyddiadau Blasu am ddim! Bydd yn wych gweld y Parc Dŵr yn llawn wynebau hapus a theuluoedd yn creu atgofion unwaith eto!”

Mae’r Parc Dŵr wedi bod ar gau ers dros flwyddyn yn dilyn difrod sylweddol i’r to gan storm, a nawr bod y gwaith atgyweirio helaeth wedi’i gwblhau, mae’r tîm wedi gwneud popeth posib i baratoi’r Parc Dŵr ar gyfer gweithredu’r haf hwn!

Mae archebion ar-lein ar gyfer y parc dŵr dan do bellach ar agor a bydd gwesteion yn gallu mwynhau’r parc dwr o’r 5ed o Orffennaf. Bydd gennym hefyd ostyngiad teyrngarwch lleol gwych ar gael i drigolion lleol i’w ddefnyddio ar ôl 4pm bob penwythnos a thrwy gydol gwyliau haf yr ysgol, bydd y codau disgownt yn cael eu rhyddhau ar dudalennau cymdeithasol SC2 yn fuan.

Mae eich hoff sleidiau yn ôl, yr Anaconda, Bwmerang a’r Speedster, yn ogystal â’r Piranha Play i’r rhai bach. Wrth gwrs, bydd arena Ninja TAG a’r ardal Chwarae Meddal Antur ar thema dinosoriaid hefyd ar agor ochr yn ochr â chaffi Chwarae Antur gyda Costa yn cael ei weini ledled y safle.

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.sc2rhyl.co.uk neu ewch i dudalennau cymdeithasol SC2 am y diweddariadau diweddaraf.