Cannoedd o docynnau ‘Penwythnos Mawr yr Haf’ YN RHAD AC AM DDIM ar gael ar gyfer penwythnos o gerddoriaeth a hwyl i’r teulu
Byddwch yn barod am benwythnos bythgofiadwy o gerddoriaeth yr haf hwn, wrth i Hamdden Sir Ddinbych Cyf ar y cyd â Chyngor Tref y Rhyl, gyflwyno ‘Penwythnos Mawr yr Haf’ sy’n rhad ac am ddim yn Arena Ddigwyddiadau’r Rhyl.
Gyda diolch i Gyngor Tref y Rhyl am y cyllid, mae Hamdden Sir Ddinbych yn falch iawn o gyhoeddi y bydd tocynnau ar gyfer y penwythnos hwn YN RHAD AC AM DDIM i’r gymuned leol er mwyn rhoi dechrau gwych i’r haf!
Bydd yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 2 a dydd Sul 3 Awst yn Arena Ddigwyddiadau’r Rhyl ac mae llwyth o berfformiadau a gweithgareddau wedi’u trefnu i bob oed, gan sicrhau dathliad cyffrous i’r gymuned gyfan yr haf hwn.
Mae’r tocynnau ar gael nawr, ac mae unigolion yn y gymuned yn cael eu hannog i archebu eu tocynnau’n gyflym, ar ôl i 600 o docynnau yn rhad ac am ddim i barc dŵr SC2 ddiflannu mewn llai na 30 munud yr wythnos ddiwethaf.
Bydd y gatiau ar agor o 1pm ar y ddau diwrnod. Mae’r dathliadau’n dechrau ddydd Sadwrn gyda rhestr gyffrous o berfformwyr, gan gynnwys The Big Pop Party Show – yn cynnwys teyrngedau gwych i Taylor Swift, Ariana Grande, Dua Lipa a Meghan Trainor, Queen Rhapsody a fydd yn perfformio holl ganeuon mwyaf poblogaidd Queen a Kaiser Monkey Killers – mwynhewch glasuron o anthemau roc gan y band teyrnged talentog hwn.
Mae perfformwyr ddydd Sul yn cynnig prynhawn o gerddoriaeth boblogaidd yn cynnwys perfformiadau gan Midnight Soul Sisters a fydd yn cyflwyno clasuron ‘soul’ a ‘motown’, Elite Elton a fydd yn perfformio caneuon eiconig Elton John a Ska Britannia sy’n adnabyddus am eu perfformiadau egnïol a’u dawn o gynnal sioe.
Mae rhywbeth i bawb, gall teuluoedd a phlant sydd â thocynnau hefyd fwynhau hwyl ac adloniant yn rhad ac am ddim yn yr arena drwy gydol y dydd, gan gynnwys peintio wynebau, modelu balŵns, cartwnydd a mwy.
Dywedodd Cyngor Tref y Rhyl: “Mae Cyngor Tref y Rhyl yn falch iawn o fod yn ymuno â Hamdden Sir Ddinbych Cyf eleni, ac rydym wrth ein bodd gyda’r rhestr ar gyfer Penwythnos yr Haf. Peidiwch â cholli allan. Gafaelwch yn eich tocynnau AM DDIM, eich sbectol haul a’ch esgidiau dawnsio gorau, a byddwn yn eich gweld chi yno!”
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych: “Rydym ni wrth ein bodd yn cael cydweithio â Chyngor Tref y Rhyl i ddod â digwyddiad arall sy’n rhad ac am ddim i’r Rhyl yr haf hwn. Rydym wrth ein bodd yn cael rhoi cannoedd o docynnau yn rhad ac am ddim i’r gymuned leol i roi’r dechrau gorau i’w haf nhw yn yr Arena Ddigwyddiadau! Ar ôl yr ymateb anhygoel yr wythnos ddiwethaf i benwythnosau blasu SC2 pan ddiflannodd 600 o docynnau yn rhad ac am ddim i’r gymuned mewn llai na 30 munud, yr ydym ni wrth ein bodd yn cynnig digwyddiad arall yn rhad ac am ddim i’r gymuned leol! Rydym ni’n awyddus iawn i roi’r haf gorau erioed i drigolion Sir Ddinbych a dim ond dechrau’r digwyddiadau cyffrous yr ydym ni wedi’u cynllunio eleni yw’r digwyddiad hwn! Cadwch lygad!”
Mae tocynnau ar gael o 10.30am heddiw, dydd Mercher 18 Mehefin 2025, drwy ffonio Swyddfa Docynnau Theatr Pafiliwn y Rhyl ar 01745 330000. Mae tocynnau wedi’u cyfyngu i bedwar fesul aelwyd. Anogir y gymuned i ffonio i archebu eu tocynnau cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi siom.
