Gwersi Nofio
Nofio Cyhoeddus
Gwersi Achub Bywyd
Rhieni a Babanod
Babanod y Dŵr
Babanod y Dŵr
Nofio am ddim i bobl ifanc dan 16 oed
Gwersi Nofio Dwys
Nofio Mewn Lôn
Polisi Mynediad

Pa un ai ydych chi eisiau nofio efo’r teulu, gwneud ymarfer corff ysgafn neu hyfforddi ar gyfer digwyddiad, mae Hamdden Sir Ddinbych yn cynnig amrywiaeth o sesiynau nofio yn ei byllau yng Nghorwen, Rhuthun, Dinbych, y Rhyl a Nova Prestatyn. Rydym ni hefyd yn cynnig rhaglen gynhwysfawr o wersi nofio ar gyfer oedolion a phlant 3 oed a hŷn.

Mae’r sesiynau yn cynnwys nofio cyhoeddus, nofio mewn lôn a sesiynau rhieni a babanod. Ar ben hyn, mae gennym ni ddosbarthiadau cadw’n heini yn y dŵr e.e. aerobeg dŵr ac ymarfer cylchol.

Fe allwch chi hefyd logi pwll nofio ar gyfer parti pen-blwydd (safleoedd penodol).

Mae’r holl weithgareddau nofio wedi’u rhestru ar ein hamserlen, felly cofiwch fwrw golwg arni.

Amserlen Nofio
Archebu Ar-lein

Nofio Cyhoeddus

Mae pob pwll yn cynnig sesiynau agored i’r cyhoedd, sy’n addas ar gyfer pob gallu nofio. Mae amseroedd y sesiynau yn amrywio o bwll i bwll.

Amserlen

Nofio Mewn Lôn

Sesiwn nofio wedi’i threfnu i oedolion yn unig, gyda lonydd araf, canolig a chyflym sy’n addas ar gyfer gwahanol arddulliau nofio a lefelau ffitrwydd.

Amserlen

Babanod y Dŵr

Sesiwn nofio llawn hwyl ar gyfer rhieni a babanod. Yn ogystal â dysgu sgiliau nofio a magu hyder yn y dŵr, mae’r sesiynau nofio i fabanod yn llawn manteision eraill hefyd. Mae’r babanod yn ymarfer sawl grŵp cyhyr, sy’n cryfhau’r galon a’r ysgyfaint ac yn gwella sgiliau cydsymud.

Amserlen

Rhieni a Babanod

Dyma sesiwn nofio agored ar gyfer rheini a phlant iau. Dyma sesiwn ar gyfer babanod a hyd at chan gynnwys rhai 4 oed. Bydd y plantos bach wrth eu bod yn sblasio yn y dŵr, gan fagu hyder a sgiliau cydsymud ar yr un pryd.

Amserlen

Gwersi Nofio

Ar gyfer y rheiny ohonoch chi sydd eisiau dechrau nofio, rydym ni’n cynnig gwersi nofio ar gyfer pob grŵp oedran – o blant bach 3 oed hyd at oedolion.

Mae ein gwersi nofio yn dilyn Cynllun Dysgu Nofio Cymru, lle gall plant 3 oed a hŷn ddechrau gyda’r gwobrau Sblash, cyn cymryd rhan mewn 7 ton o wersi unwaith y byddant yn 4 oed.

Mae amrywiaeth o wersi nofio dwyieithog ar gael yn Sir Ddinbych.

Mae’r gwersi nofio eraill yn cynnwys:

Mae pob un o’n sesiynau nofio cyhoeddus ar gael am ddim i unrhyw un sydd wedi cofrestru ar raglen o wersi nofio. Gallwch lawrlwytho amserlen pwll nofio i ddarganfod pryd y cynhelir sesiynau nofio cyhoeddus, a ble mae’r gwersi’n digwydd.

Sut i Ymaelodi

Os hoffech chi gofrestru eich plentyn neu’ch hun ar gyfer gwersi nofio, ewch i un o’n canolfannau hamdden. Os nad oes lle ar gael bydd modd i chi ymuno â’n rhestr aros, a byddwn yn cysylltu â chi ar unwaith pan fod lle ar gael.

Sut i dalu:

Bydd taliadau debyd uniongyrchol yn cael eu cymryd ar y 1af neu’r 15fed o bob mis. Os ydych chi’n talu am wersi gydag arian parod, bydd gofyn i chi dalu ymlaen llaw mewn blociau o 12 wythnos. Holwch staff y dderbynfa am fwy o wybodaeth.

Cysylltwch â ni

Ar gael yn :

        • Corwen
        • Rhuthun
        • Dinbych
        • Y Rhyl
        • NOVA

Beth yw cost y gwersi?

Gwers
Cost
Gwobr Sblash, Tonnau 1-8 a Gwersi Achub Bywyd
£22 y mis drwy ddebyd uniongyrchol neu £69.60 am 12 wythnos gydag arian neu gerdyn
Pobl ifanc gydag Anableddau
£22 y mis drwy ddebyd uniongyrchol neu £69.60 am 12 wythnos gydag arian neu gerdyn
Gwersi i Oedolion
£27 y mis drwy ddebyd uniongyrchol neu £84 am 12 wythnos gydag arian neu gerdyn
Sesiynau Rhieni a Phlant Bach
£4 i oedolion (neu £3 gyda cherdyn Hamdden) a phlant am ddim
 

Gwersi Achub Bywyd

Mae Rhaglen Gwersi Achub Bywyd RLSS UK yn gyfle i blant ddysgu’r sgiliau sydd arnyn nhw eu hangen i fod yn hyderus yn y pwll neu’r môr – sy’n rhoi tawelwch meddwl i chi fel rhieni. Gyda deunyddiau lliwgar a gweithgareddau amrywiol sy’n llawer o hwyl, mae’r cynllun Gwersi Achub Bywyd yn addysgu plant sut i nofio a mwynhau’r dŵr yn ddiogel, mewn dŵr bas a dwfn.

Darganfod mwy

Ar Gael Yn :

        • Corwen
        • Rhuthun
        • Dinbych

Nofio am ddim i bobl dros 60

Over 60s have access to free swimming for selected sessions. These are highlighted on our timetable with a # symbol. Outside of these sessions, over 60s benefit from a discounted rate of £2.50 per session.

Sut i wneud cais

Gall pobl dros 60 oed wneud cais i nofio am ddim drwy fynd i ganolfan hamdden a chofrestru eu manylion.

Nofio am ddim i bobl ifanc dan 16 oed

Under 16 Free Swimming

Under 16s have access to one free family swim session per week, per site. These sessions are highlighted on our time table with the description (Family Swim – Under 16 Free). Additional free sessions are also available during selected school holidays.

Sut i wneud cais

Gall plant a phobl ifanc dan 16 oed wneud cais i nofio am ddim drwy fynd i ganolfan hamdden a chofrestru eu manylion.

Ar Gael Yn :

        • Corwen
        • Rhuthun
        • Dinbych

Gwersi Nofio Dwys

Dewch i’n gwersi nofio dwys wythnos o hyd, sy’n wych ar gyfer plant sydd am ddatblygu’n gyflym.

Polisi Diogelwch Nofio

Darganfod mwy
Gyrfaoedd gyda Hamdden Sir Ddinbych

Cliciwch isod i weld pa swyddi gwag sydd gennym ar y funud

Rhagor o wybodaeth

Gadewch i ni gymdeithasu