Pa un ai ydych chi eisiau nofio efo’r teulu, gwneud ymarfer corff ysgafn neu hyfforddi ar gyfer digwyddiad, mae Hamdden Sir Ddinbych yn cynnig amrywiaeth o sesiynau nofio yn ei byllau yng Nghorwen, Rhuthun, Dinbych, y Rhyl a Nova Prestatyn. Rydym ni hefyd yn cynnig rhaglen gynhwysfawr o wersi nofio ar gyfer oedolion a phlant 3 oed a hŷn.
Mae’r sesiynau yn cynnwys nofio cyhoeddus, nofio mewn lôn a sesiynau rhieni a babanod. Ar ben hyn, mae gennym ni ddosbarthiadau cadw’n heini yn y dŵr e.e. aerobeg dŵr ac ymarfer cylchol.
Fe allwch chi hefyd logi pwll nofio ar gyfer parti pen-blwydd (safleoedd penodol).
Mae’r holl weithgareddau nofio wedi’u rhestru ar ein hamserlen, felly cofiwch fwrw golwg arni.
Academi Nofio DLL
Ar gyfer y rheiny ohonoch chi sydd eisiau dechrau nofio, rydym ni’n cynnig gwersi nofio ar gyfer pob grŵp oedran – o blant bach 3 oed hyd at oedolion. Mae ein gwersi nofio yn dilyn Cynllun Dysgu Nofio Cymru, lle gall plant 3 oed a hŷn ddechrau gyda’r gwobrau Sblash, cyn cymryd rhan mewn 7 ton o wersi unwaith y byddant yn 4 oed. Mae amrywiaeth o wersi nofio dwyieithog ar gael yn Sir Ddinbych.
Ar gael yn :
-
-
-
- Corwen
- Rhuthun
- Dinbych
- Y Rhyl
- NOVA
-
-
Nofio Cyhoeddus
Mae pob pwll yn cynnig sesiynau agored i’r cyhoedd, sy’n addas ar gyfer pob gallu nofio. Mae amseroedd y sesiynau yn amrywio o bwll i bwll.
Nofio Mewn Lôn
Sesiwn nofio wedi’i threfnu i oedolion yn unig, gyda lonydd araf, canolig a chyflym sy’n addas ar gyfer gwahanol arddulliau nofio a lefelau ffitrwydd.
Rhieni a Babanod
Dyma sesiwn nofio agored ar gyfer rheini a phlant iau. Dyma sesiwn ar gyfer babanod a hyd at chan gynnwys rhai 4 oed. Bydd y plantos bach wrth eu bod yn sblasio yn y dŵr, gan fagu hyder a sgiliau cydsymud ar yr un pryd.

Babanod y Dŵr
Sesiwn nofio llawn hwyl ar gyfer rhieni a babanod. Yn ogystal â dysgu sgiliau nofio a magu hyder yn y dŵr, mae’r sesiynau nofio i fabanod yn llawn manteision eraill hefyd. Mae’r babanod yn ymarfer sawl grŵp cyhyr, sy’n cryfhau’r galon a’r ysgyfaint ac yn gwella sgiliau cydsymud.

Gwersi Achub Bywyd
Mae Rhaglen Gwersi Achub Bywyd RLSS UK yn gyfle i blant ddysgu’r sgiliau sydd arnyn nhw eu hangen i fod yn hyderus yn y pwll neu’r môr – sy’n rhoi tawelwch meddwl i chi fel rhieni. Gyda deunyddiau lliwgar a gweithgareddau amrywiol sy’n llawer o hwyl, mae’r cynllun Gwersi Achub Bywyd yn addysgu plant sut i nofio a mwynhau’r dŵr yn ddiogel, mewn dŵr bas a dwfn.
Ar Gael Yn :
-
-
-
- Corwen
- Rhuthun
- Dinbych
-
-
Nofio am ddim i bobl dros 60
Over 60s have access to free swimming for selected sessions. These are highlighted on our timetable with a # symbol. Outside of these sessions, over 60s benefit from a discounted rate of £2.50 per session.
Sut i wneud cais
Gall pobl dros 60 oed wneud cais i nofio am ddim drwy fynd i ganolfan hamdden a chofrestru eu manylion.

Nofio am ddim i bobl ifanc dan 16 oed
Under 16 Free Swimming
Under 16s have access to one free family swim session per week, per site. These sessions are highlighted on our time table with the description (Family Swim – Under 16 Free). Additional free sessions are also available during selected school holidays.
Sut i wneud cais
Gall plant a phobl ifanc dan 16 oed wneud cais i nofio am ddim drwy fynd i ganolfan hamdden a chofrestru eu manylion.
Ar Gael Yn :
-
-
-
- Corwen
- Rhuthun
- Dinbych
-
-
Gwersi Nofio Dwys
Dewch i’n gwersi nofio dwys wythnos o hyd, sy’n wych ar gyfer plant sydd am ddatblygu’n gyflym.

