Cast serennog Panto Pafiliwn y Rhyl i gynnau Goleuadau Nadolig y Rhyl
Mae DLL (Hamdden Sir Ddinbych Cyf) yn dechrau tymor yr ŵyl ar ddydd Sadwrn 23ain Tachwedd gyda sêr y panto yn goleuo’r strydoedd.
Yn cynnau goleuadau Nadolig y dref eleni bydd cast serennog yn cynnwys seren Corrie Beverley Callard, Amelle Berrabah o’r band eiconig Sugababes, ffefryn y dorf Jamie Leahey, Owen Johnston o Mamma Mia ‘I have a dream’, talent leol Georgia Conway a Maer y Rhyl, Cynghorydd Cheryl Williams.
Bydd y DJ Paul Crawford yn gosod y naws gydag alawon a gemau Nadoligaidd, tra bydd cerddwyr stilt Nadoligaidd, peintiwr wynebau, modelwr balŵn, Band Gorymdaith Ieuenctid y Rhyl, a Grŵp Mind Iwcalili a Chantorion yn ymuno yn yr hwyl.
Mae’r dathliadau rhad ac am ddim hyn i’r teulu cyfan yn cychwyn mewn steil gyda digwyddiad Goleuo Goleuadau’r Nadolig blynyddol ar Stryd Fawr y Rhyl, o 2pm tan 5pm.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Rydym wrth ein bodd i fod yn bartner gyda Chyngor Tref y Rhyl i gynnig penwythnos o adloniant am ddim i deuluoedd yn y Rhyl! Credwn fod dod â’n cymuned ynghyd yn arbennig o bwysig yn ystod y tymor gwyliau. Ymunwch â ni i ddathlu’r Nadolig gyda Chynnau Goleuadau’r Nadolig ddydd Sadwrn, ac yna ychydig o adloniant yn y theatr gyda’r cyngerdd Pops ‘Dolig ddydd Sul – ffordd berffaith o roi hwb i ysbryd y Nadolig gyda’ch teulu a’ch ffrindiau!”
Dywedodd Maer y Rhyl, y Cynghorydd Cheryl Williams am y Pops ‘dolig: “Mae’n amser y flwyddyn i oleuo’r goleuadau Nadolig yn y Rhyl, felly dewch draw i weld goleuadau disglair Canol Tref y Rhyl a’r olygfa fywiog. Prynhawn i ddathlu’r cyfnod cyn y Nadolig a’r cyfle i fwynhau gweithgareddau stryd fawr am ddim a cherddoriaeth gyda llu o ddiddanwyr a sêr y pantomeim eleni. Mae Cyngor Tref y Rhyl yn falch o ddarparu cymorth ariannol i Hamdden Sir Ddinbych Cyf i gynnal y digwyddiad traddodiadol hwn i’w fwynhau gan bawb sy’n ysgogi gwir ysbryd yr ŵyl yn arwain at y Nadolig.”
Mae’r dathliadau’n parhau ddydd Sul gyda Chyngerdd Pops ‘Dolig RHAD AC AM DDIM Y Rhyl yn Theatr Pafiliwn y Rhyl am 5pm, gyda rhaglen wych.
I archebu eich tocynnau Pops ‘Dolig AM DDIM, ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01745 330000 o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10am a 4.30pm. Cyfyngir y tocynnau i bedwar fesul cartref.