Chwaraeon, Celfyddydau a Diwylliant dan y chwyddwydr yng Ngwobrau Cymunedau Bywiog DLL
Cynhaliwyd noson o ddathlu gwych yn Theatr y Pafiliwn, y Rhyl ar nos Fercher 13 Tachwedd, ar achlysur ail Wobrau Cymunedau Bywiog DLL.
Wedi’i gynnal gan Jason Mohammad, mae’r digwyddiad mawreddog hwn yn arddangos cyflawniadau celfyddydol a chwaraeon gan unigolion, timau, clybiau ac ysgolion o bob rhan o gymunedau Sir Ddinbych.
Mynychodd yr enwebeion ar y rhestr fer, a oedd wedi cyflawni rhywbeth neu wedi gwneud gwahaniaeth ym meysydd chwaraeon, celfyddydau a diwylliant. Roedd y theatr yn orlawn gyda’r enwebeion ynghyd â’u teuluoedd a’u ffrindiau, ac fe gynhelir noson hynod lwyddiannus, a drefnwyd gan DLL.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Roedd DLL yn hynod falch i gynnal yr ail Wobrau Cymunedau Bywiog, ac i gydnabod a dathlu llwyddiant rhai o’r unigolion, timau, clybiau ac ysgolion arbennig yn Sir Ddinbych. Mae Chwaraeon a’r Celfyddydau yn chwarae rhan mor bwysig mewn cymaint o’n bywydau, boed hynny drwy chwarae, cefnogi, hyfforddi, gwirfoddoli neu fentora ac nid oes amheuaeth bod y gweithgareddau hyn yn dod â phobl a chymunedau at ei gilydd. Unwaith eto roedd gan y beirniaid gwaith eithriadol o anodd i benderfynu ar y rhestr fer, ac yna’r enillwyr. Gweithiodd tîm DLL yn galed iawn i wneud y noson yn achlysur arbennig, ac roedd yn wych cael y cyfle i ddathlu talent mor anhygoel o fewn ein sir ein hunain.”
Roedd y digwyddiad yn anrhydeddu unarddeg categori gan gynnwys unigolion, grwpiau, timau, ysgolion a chlybiau sydd wedi gwneud gwahaniaeth neu wedi cyflawni rhywbeth mewn chwaraeon neu weithgaredd, celfyddydau a diwylliant yn Sir Ddinbych.
Llongyfarchiadau i’n holl enwebeion ac enillwyr!
🏆 Gwirfoddolwr y Flwyddyn – Ann Ellis Davies
🏆 Ybrydoliaeth Ifanc – Andrew Virgo
🏆 Prosiect Celfyddydau er Lles Gorau – Paned a Chan CGWM
🏆 Rhagoriaeth – Lucca Tardivel
🏆 Ysgol Gynradd y Flwyddyn – Christchurch School
🏆 Ysgol Uwchradd y Flwyddyn – Ysgol Dinas Bran
🏆 Prosiect Creadigol Cymunedol Gorau – Story Pals Intergenerational Project
🏆 Hyfforddwr Chwaraeon y Flwyddyn – Steph Rowles
🏆 Tîm y Flwyddyn – CPD Genod Henllan ‘Dan 17
🏆 Clwb Chwaraeon y Flwyddyn – Flying High Trampoline Club
🏆 Cyflawniad Oes – Jack Hunt