Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf (DLL) yn chwilio am artist proffesiynol neu artist ar gychwyn ei yrfa i ddylunio a chreu 12 gwobr ar gyfer Gwobrau Cymunedau Bywiog.

Bydd y gwobrau, wedi’u dylunio gan artist lleol, yn cael eu cyflwyno i enillwyr y categorïau amrywiol yn ystod seremoni fawreddog ym mis Tachwedd ar lwyfan Theatr Pafiliwn y Rhyl.

Anogir artistiaid sy’n byw neu’n gweithio yn Sir Ddinbych, ac artistiaid sy’n hanu o’r sir ond sy’n byw yn rhywle arall, i gyflwyno dyluniadau erbyn dydd Llun 15 Gorffennaf.

Bydd yr artist llwyddiannus yn cael £3,000, yn cynnwys TAW, i gwrdd â’r costau dylunio, cynhyrchu, pacio a chludo ac i brynu’r deunyddiau. Gall y wobr fod ar unrhyw ffurf – print wedi’i fframio, tlws, plât neu blac, ac wedi’i chreu allan o unrhyw gyfrwng, yn cynnwys inc, gwydr, cerameg, metel neu llechan.

Bydd seremoni Gwobrau Cymunedau Bywiog DLL, sy’n dathlu llwyddiannau chwaraeon a diwylliannol Sir Ddinbych, yn cael ei chynnal ar 13 Tachwedd 2024 yn Theatr Pafiliwn y Rhyl a bydd dros 400 o westeion yn bresennol, yn cynnwys preswylwyr, partneriaid, busnesau lleol a’r enwebeion a’u teuluoedd.

Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Rydym ni’n edrych ymlaen at gynnal Gwobrau Cymunedau Bywiog DLL i gydnabod a dathlu celf a diwylliant Sir Ddinbych ochr yn ochr â rhagoriaeth mewn chwaraeon. Roedd y gwobrau a ddyluniwyd y llynedd, gan yr artist gwydr o Langollen, Heulwen Wright, yn hardd iawn ac rydym ni’n edrych ymlaen at weld y dyluniadau ar gyfer y gwobrau eleni.”

Os oes gennych chi ddiddordeb yn y cyfle hwn ewch i https://denbighshireleisure.co.uk/cy/gwobrau-cb-2024/ i weld y meini prawf a’r manylion ymgeisio