Cwmni lleol o Sir Ddinbych yn cael ei gydnabod ar gyfer gwobrau Diwydiant Cenedlaethol
Mae cwmni lleol DLL (Hamdden Sir Ddinbych Cyf) wedi’i gydnabod yn genedlaethol ac ar restr fer 6 gwobr yr Hydref hwn.
Mae’r cwmni sydd wedi ennill gwobrau, DLL, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer chwe gwobr yng ngwobrau mawreddog UKactive ym mis Hydref am y gwaith y mae’r busnes yn ei wneud o fewn y diwydiant ffitrwydd.
Daw’r anrhydedd hwn ar ôl llwyddiant DLL yng ngwobrau UKactive yn 2023, lle dyfarnwyd Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig uchel ei pharch Jan Spaticchia am gyfraniad eithriadol i’r diwydiant hamdden ar draws y DU.
Bellach yn 2024, mae tîm Gweithredol cyfan DLL wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr, ynghyd â phum gwobr arall i’r cwmni, gan gynnwys Clwb Rhanbarthol y Flwyddyn gyda Chlwb y Rhyl; Gwobr Arloesedd Sefydliadol am lansiad arloesol Stiwdio 360; Gwobr yr Ymgyrch Farchnata am y gwaith ar ymgyrch Ganser y Brostad eleni; a’r Wobr Cymunedau Iach.
Mae UKActive yn gymdeithas diwydiant dielw genedlaethol, sy’n hyrwyddo buddiannau campfeydd ffitrwydd masnachol a chanolfannau hamdden cymunedol, gyda mwy na 4000 o sefydliadau yn aelodau ledled y DU.
Dywedodd Ali Beckman, Llywydd STA: “Llongyfarchiadau ar gyrraedd rownd derfynol gwobrau UKactive 2024, mae’n gyflawniad anhygoel, da iawn chi. Mae’r effaith yr ydych wedi’i chael dros y 12 mis diwethaf wrth helpu i hyrwyddo a datblygu’r agenda gweithgareddau corfforol yn anhygoel, a dymunwn bob lwc i chi drwy ail gam Gwobrau UKactive.”
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Rydym wedi ein syfrdanu i gael ein cydnabod unwaith eto, yng ngwobrau UKActive; y tro hwn ar gyfer chwe chategori gwahanol. Mae’n wych gweld cwmni o Sir Ddinbych yn cael ei gydnabod yn genedlaethol am yr holl waith caled drwy’r busnes, ac rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael ein henwebu ar gyfer chwe gwobr wahanol, sy’n cymeradwyo cwmni cryf, cyflawn ar bob lefel. Roedd cael ein hanrhydeddu â Gwobr Jan Spaticchia y llynedd yn anhygoel a nawr mae cyrraedd y rhestr fer fel cwmni ar gyfer chwe gwobr yn anhygoel. Rwy’n hynod falch o’r gwaith rhagorol y mae DLL wedi arwain arno yn ddiweddar a thros y deng mlynedd diwethaf. Mae holl waith caled ac ymroddiad y gweithlu cyfan yn DLL wedi ein helpu i gyrraedd lle’r ydym ni heddiw ac rwy’n ddiolchgar iawn am eu holl gefnogaeth, yn enwedig ers lansio’r cwmni yn 2020. Fel cwmni, ein gwerthoedd, ymroddiad ac ansawdd sy’n gwneud i ni sefyll allan, ac mae’n wych gweld ein bod yn cael ein cydnabod am y rhain. Nid swydd yn unig yw hi i’n gweithlu, ac maent bob amser yn mynd yr ail filltir.”
Dolen pleidleisio: https://www.ukactive.com/ukactive-awards-2024-stage-2-public-vote/